Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Pensiynau personol: cynlluniau prynu arian

Fel mae’r enw’n ei awgrymu, cynlluniau pensiwn sy’n cael eu sefydlu gan bobl o’u pen a’u pastwn eu hunain yw’r rhain. Mae’n rhaid i bobl hunangyflogedig, er enghraifft, sefydlu eu cynllun pensiwn eu hunain oherwydd does ganddyn nhw ddim cynllun galwedigaethol gan gyflogwr i ymuno ag ef.

Cynlluniau â chyfraniadau wedi’u diffinio (neu gynlluniau prynu arian) yw cynlluniau pensiwn personol (neu breifat) yn amlach na pheidio, fel y rheini a esboniwyd yn y fideo yn gynharach. Oherwydd mai dyma'r math mwyaf cyffredin o bensiwn preifat, mae’r adran hon yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch cynlluniau prynu arian.

Ffotograff o nyth aderyn gyda nifer o ddarnau punt ynddo yw’r ffigur.
Ffigur 6 A ydych chi’n cynilo digon ar gyfer eich pensiwn?

Mae cynllun prynu arian yn gymharol syml ar un llaw. Pot o arian rydych chi’n ei adeiladu dros y blynyddoedd yw hwn, sy’n cynnwys cyfraniadau i’r pensiwn a rhywfaint o dwf buddsoddi ar ben hynny, gyda gobaith. Fodd bynnag, bydd unrhyw ffioedd a godir gan ddarparwr y pensiwn yn cael eu cymryd o’ch pot.

Bydd angen i chi drefnu eich pensiwn personol eich hun. Gan nad oes cyflogwr i gyfrannu at bensiwn na chynnig cymorth i sefydlu un, yr unigolyn sy’n gwbl gyfrifol am sefydlu pensiwn a chronni’r arian. Yr elfen anodd yw ystyried ble mae dod o hyd i bensiwn addas gyda chostau isel sy’n cynnig yr hyblygrwydd a’r nodweddion mae eu hangen arnoch.

Oni bai eich bod yn deall tipyn go lew am gyllid, efallai y byddai’n syniad da cael cyngor ariannol. Gallech chi ddod o hyd i gynghorydd ariannol ar-lein neu ar lafar gwlad, ond byddwch yn wyliadwrus os ydych chi’n cael arweiniad gan fanciau yn unig, oherwydd efallai y bydd staff yn ceisio gwerthu cynnyrch y banc i chi.

Mae dwy ffynhonnell yn arbennig o ddefnyddiol o ran dod o hyd i gynghorwyr a chael cyngor ariannol.

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn darparu canllawiau ar ddefnyddio cynghorwyr ariannol.

Hefyd, mae unbiased.co.uk yn darparu rhestr o gynghorwyr ariannol awdurdodedig.