Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cyflwyniad a chanllawiau

Croeso i’r cwrs agored â bathodyn, Ewch â’ch addysgu ar-lein.

Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn yn para wyth wythnos, gydag oddeutu tair awr o astudio bob wythnos. Gallwch weithio trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun, felly os bydd gennych fwy o amser un wythnos, mae croeso i chi fwrw ymlaen i gwblhau astudiaethau wythnos arall.

Mae dysgu ar-lein wedi datblygu’n gyflym ac fe’i gwelir bellach ym mhob maes addysg, o ysgolion i hyfforddi sgiliau. Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu trwy gyrsiau ar-lein. Hyd yn oed pan addysgir ‘wyneb yn wyneb’ yn bennaf, mae adnoddau a rhyngweithio ar-lein wedi dod yn rhan allweddol o’r profiad dysgu.

Ond mae addysgu ar-lein yn wahanol. Os ydych yn gweithio ym maes addysg neu hyfforddiant ar unrhyw lefel, bydd angen i chi ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth newydd i wneud y penderfyniadau iawn, manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, a goresgyn heriau cyffredin.

Mae bron 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Brifysgol Agored dreialu ein cwrs cwbl ar-lein cyntaf gyda’n myfyrwyr. Rydym bellach yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran ymchwilio i addysg ar-lein a’i darparu. Yn y cwrs rhad ac am ddim hwn, rhannwn y wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen i addysgu’n effeithiol ar-lein.

Byddwch yn clywed am brofiadau addysgwyr go iawn, yn cael eich cyflwyno i waith ymchwil blaengar, ac yn deall y syniadau a’r adnoddau sy’n ffurfio’r ffordd rydym yn addysgu ac yn dysgu ar-lein. Byddwch hefyd yn dysgu dulliau defnyddiol a fydd yn eich helpu i brofi’r syniadau newydd hyn yn eich ymarfer eich hun.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, fe ddylech allu:

  • Adnabod y gwahaniaethau rhwng addysgu ar-lein ac addysgu mewn amgylchedd wyneb yn wyneb.
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis adnoddau ac addysgeg newydd ar gyfer addysgu ar-lein.
  • Adnabod prif fuddion a heriau addysgu ar-lein.
  • Deall arferion newidiol ymarferwyr wrth iddynt ddefnyddio cyfleoedd ar-lein fel rhwydweithiau cymdeithasol ac adnoddau addysgol agored.
  • Deall sut i greu a gwerthuso dulliau o addysgu ar-lein sy’n briodol i chi.

Symud o gwmpas y cwrs

Yn y ‘Crynodeb’ ar ddiwedd pob wythnos, fe welwch ddolen i’r wythnos nesaf. Os hoffech ddychwelyd i ddechrau’r cwrs ar unrhyw adeg, cliciwch ar ‘Gynnwys y cwrs’. Oddi yno, gallwch lywio i unrhyw ran o’r cwrs. Fel arall, defnyddiwch y dolenni wythnos ar frig pob tudalen o’r cwrs.

Hefyd, os byddwch yn dilyn dolen o fewn un o dudalennau’r cwrs (gan gynnwys dolenni i’r cwisiau), mae’n arfer da ei hagor mewn ffenestr neu dab newydd. Trwy wneud hynny, gallwch ddychwelyd yn rhwydd i’ch man cychwyn heb orfod defnyddio’r botwm ‘yn ôl’ ar eich porwr.

Gweithgareddau storio'ch atebion

Drwy gydol Addysgu ar-lein, cyflwynir gweithgareddau i chi a gynlluniwyd i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r pynciau a rhoi’r sgiliau i chi i allu astudio neu weithio ar ôl y cwrs. Yn aml, bydd y gweithgareddau’n gofyn i chi roi atebion, ymatebion neu sylwadau mewn blwch testun sy’n cael eu storio o fewn y cwrs ei hun, ac y gallwch chi yn unig eu gweld. I gael y budd mwyaf o’r cwrs, fe’ch cynghorwn hefyd i storio'ch atebion gyda’i gilydd yn rhywle arall (mewn dogfen Word, efallai) i allu cael atynt yn rhwydd ar ôl i chi gwblhau’r cwrs. Argymhellwn eich bod yn trosglwyddo’r atebion i’ch dyddlyfr eich hun wrth i chi gwblhau pob wythnos o astudio.

Bydd eich holl atebion i weithgareddau yn cael eu coladu yn Eich nodiadau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar ddiwedd Wythnos 8 hefyd.

Gweithiau a ddyfynnir

Mae’r cwrs hwn yn dyfynnu ystod eang o waith ymchwil addysgol ac, mewn nifer o achosion, mae’r gwaith hwn ar gael am ddim naill ai trwy’r dolenni a ddarperir neu drwy gopïau sydd ar gael ar-lein, y gellir dod o hyd iddynt trwy chwilotwyr fel Google Scholar. Mewn rhai achosion, bydd angen talu ffi i gael at weithiau a ddyfynnir, fel llyfrau a chyfnodolion. Fodd bynnag, nid oes angen darllen y gweithiau hyn a ddyfynnir i gwblhau’r cwrs.