Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Crynodeb

Yr wythnos hon, fe’ch cyflwynwyd i rai o gysyniadau craidd addysgu ar-lein. Mae gwahaniaeth allweddol rhwng gweithgareddau cydamserol ac anghydamserol mewn addysgu ar-lein, a phenderfynu pa weithgareddau neu adnoddau y dylid eu defnyddio’n gydamserol neu’n anghydamserol yw un o’r sgiliau sylfaenol y mae’n rhaid i unrhyw athro/athrawes ar-lein eu datblygu. Gallai dysgu cyfunol a thechnegau ystafell ddosbarth wrthdro ddod yn rhan annatod o ffordd o feddwl athrawon y mae eu dosbarthiadau wedi’u rhannu rhwng elfen wyneb yn wyneb ac elfen ar-lein. Yr wythnos nesaf, byddwn yn symud ymlaen i edrych ar nodweddion addysgu ar-lein effeithiol a sut gall damcaniaethau addysg lywio’r ffordd rydym yn mynd ati i addysgu ar-lein.

Cyn i ni symud ymlaen, fodd bynnag, gadewch i ni dreulio ychydig funudau gyda Rita, i weld sut mae hi’n dod yn ei blaen. Gallwch wylio’r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hwn yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.

Nawr gallwch symud ymlaen i Wythnos 2.