Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Rhwydweithio ac adnoddau cydweithio

Mae Google Docs ac elfennau eraill o gyfres apiau Google (yn ogystal ag ystod o adnoddau eraill tebyg) yn caniatáu i athrawon rannu deunyddiau â’u dysgwyr a gweithio arnynt gyda’i gilydd mewn amser real, neu’n anghydamserol. Gall hyn gryfhau’r berthynas ar-lein rhwng yr athro/athrawes a’r dysgwyr, sy’n arbennig o werthfawr yn gynnar yn ystod cwrs. Yn ogystal, gellir defnyddio ystod o adnoddau rhwydweithio ar y cyd i feithrin gweithio fel grŵp ac ymdeimlad o gymuned rhwng dysgwyr ar gwrs ar-lein. Gall apiau negeseua gwib feithrin sianeli cefn (cyflwynwyd sianeli cefn yn ystod Wythnos 1 y cwrs hwn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Gall gweithgareddau gan ddefnyddio Twitter neu Pinterest i chwilio am wybodaeth, neu ddefnyddio Diigo i gasglu nodau tudalennau perthnasol ynghyd ar y rhyngrwyd, helpu i roi amcan a rennir i grŵp ar-lein, yn ogystal ag amlygu’r grŵp hwnnw i gymuned ehangach mewn maes pwnc perthnasol.