1.2 Sgrinledu
Mae hyn yn ffordd o recordio beth rydych yn ei wneud ar sgrin gyfrifiadur, gyda throslais. Mae’n ddelfrydol ar gyfer arddangosiadau lle bydd y dysgwyr yn elwa o weld rhywbeth yn cael ei wneud. Gall y dysgwyr ailchwarae’r sgrinlediad mor aml ag y dymunant, a gallant ei oedi a mynd yn ôl. Mae adnoddau creu cynnwys o’r math hwn yn ddefnyddiol ar gyfer arddangos sut i ddefnyddio rhaglen feddalwedd benodol neu sut i gael at gronfa ddata benodol (Peterson, 2007). Mae adnoddau sgrinledu rhad ac am ddim ar gael, a threialon am ddim ar gyfer adnoddau y telir amdanynt, er y gallent fod yn gyfyngedig o ran hyd y recordiad y gellir ei gynhyrchu, ac weithiau bydd y recordiadau gorffenedig yn cynnwys dyfrnod sy’n ‘hysbysebu’r’ adnodd a ddefnyddiwyd. Mae adnoddau y telir amdanynt yn cynnig ystod ehangach o lawer o nodweddion a hyblygrwydd o ran allbwn. Ond gallwch roi cynnig arnynt yn gyntaf i weld a ydych chi neu’ch sefydliad yn credu y byddai’n werth chweil prynu trwydded. Mae Camtasia ac Adobe Presenter yn enghreifftiau o adnoddau y telir amdanynt sy’n cynnig treial rhad ac am ddim, ar yr adeg ysgrifennu. Mae Wikipedia yn cynnal rhestr o feddalwedd sgrinledu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy’n cynnwys llawer o adnoddau rhad ac am ddim ac adnoddau y telir amdanynt.
Awgrym da
Mae ffeiliau sgrinlediadau yn gallu bod yn fawr iawn oherwydd eu bod yn dal nodweddion sain a gweledol. Fe allech i helpu dysgwyr trwy gynhyrchu nifer o glipiau byrrach yn hytrach na rhai hir, gan y bydd y rhain yn lawrlwytho neu’n byffro yn gyflymach.
Gweithgaredd 1 Arddangosiadau sgrinledu
Gwyliwch y ddau sgrinlediad byr hyn. Mae’r cyntaf yn dangos sut i alinio neu unioni testun mewn meddalwedd prosesu geiriau, ac mae’r ail yn dangos rhai awgrymiadau da ar gyfer defnyddio meddalwedd golygu lluniau. Nid pwnc y clipiau hyn sy’n bwysig; yn hytrach, dylech eu defnyddio fel ysbrydoliaeth i feddwl am y posibiliadau ar gyfer pa elfennau o’ch addysgu eich hun y gellid eu hesbonio neu eu harddangos yn effeithiol trwy ddefnyddio sgrinlediadau. Nodwch rai syniadau ar gyfer pynciau addas yn eich addysgu eich hun.
Sgrinlediad 1: Alinio testun
Sgrinlediad 2: Photoshop Lightroom
Gadael sylw
Gall sgrinlediadau fod yn effeithiol iawn ar gyfer esbonio neu arddangos cysyniadau neu bynciau penodol. Dylai’r gweithgaredd hwn ysgogi rhai meddyliau am elfennau o’ch addysgu eich hun a allai fod yn bynciau da ar gyfer sgrinlediadau. Mae’r fideos yn dangos rhai dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio a sut mae sgrinlediadau’n amrywio yn dibynnu ar y pwnc. Os ydych yn credu bod potensial, argymhellwn eich bod yn treialu rhai o’r mathau o feddalwedd a restrir uchod gan fod hyn yn gallu bod yn offeryn pwerus iawn.
Mae llawer o adnoddau fideogynadledda modern yn caniatáu ar gyfer rhannu’r sgrin yn ystod galwad fideo ‘fyw’. Fodd bynnag, os nad yw’n cael ei recordio, ni fyddai ar gael i’w ddefnyddio’n ddiweddarach yn yr un ffordd â’r sgrinlediadau hyn.