Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.9 Canfod llên-ladrad

Efallai na fyddech yn meddwl yn syth am feddalwedd canfod llên-ladrad fel math o dechnoleg i gynorthwyo addysgu ar-lein. Fodd bynnag, gall adnoddau atal llên-ladrad (sy’n cymharu aseiniadau gan fyfyrwyr â’i gilydd, ac â chynnwys ar-lein, yn awtomatig) gael eu defnyddio’n eithaf llwyddiannus i fodloni rhai amcanion dysgu mewn amgylchedd ar-lein. Mae llawer o sefydliadau’n caniatáu i staff a myfyrwyr gael mynediad at wasanaeth canfod llên-ladrad erbyn hyn. Gellir defnyddio hyn i ddangos i’r dysgwyr sut i ysgrifennu neu gasglu deunydd asesu mewn modd priodol, sut i ychwanegu at waith blaenorol (yn hytrach na’i ailadrodd), a sut i gyfeirio a dyfynnu’n briodol. Yn y modd hwn, gellir defnyddio’r adnoddau hyn i gynnig adborth ffurfiannol yn hytrach nag amlygu cyflwyniadau asesu problemus yn unig. Os hoffech wybod mwy, gallech ddechrau trwy ganfod a oes adnoddau eisoes yn cael eu defnyddio yn eich sefydliad, ond mae Wikipedia hefyd yn cynnal rhestr o feddalwedd canfod llên-ladrad. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Gweithgaredd 3 Cynnwys technolegau yn eich cynlluniau

Timing: Caniatewch oddeutu 10 munud

O’r naw math o dechnoleg a gyflwynwyd yn yr adran hon, dewiswch ddau sydd o ddiddordeb i chi a gwnewch nodiadau ynglŷn â sut hoffech chi eu defnyddio wrth addysgu ar-lein. Ychwanegwch y rhain at eich nodiadau presennol ynglŷn â’ch cynlluniau i newid i addysgu ar-lein.

Gadael sylw

Wrth i chi ddatblygu’ch cynlluniau ar gyfer addysgu ar-lein, dylech eisoes fod â rhai syniadau am y mathau o dechnolegau y gallech eu defnyddio i gyflwyno’ch addysgu ar-lein. Bydd y gweithgaredd hwn yn eich helpu i amlygu sawl un i’w harchwilio ymhellach i ddechrau – gallwch ymchwilio i’r lleill yn ddiweddarach.