Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Crynodeb

Yr wythnos hon, rydych wedi dysgu am lawer o wahanol adnoddau a thechnolegau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, y gellir eu defnyddio wrth addysgu ar-lein. Rydych wedi dysgu sut i ddewis yr adnodd iawn ar gyfer pob tasg, gan ddechrau gyda’r deilliannau dysgu rydych eisiau i’r dysgwyr eu cyflawni.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn edrych ar agwedd arall ar rôl cyfryngau cymdeithasol wrth addysgu ar-lein – rôl hwyluso wrth greu a datblygu eich rhwydweithiau eich hun.

Tra byddwch chi’n ystyried yr holl offer a thechnolegau rydych chi wedi dod yn ymwybodol ohonynt yr wythnos hon, gadewch i ni weld sut mae Rita wedi bod yn ymdopi â’r holl wybodaeth ddefnyddiol hon. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hwn yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.

Nawr gallwch symud ymlaen i Wythnos 4.