Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 3: Dewis technolegau: beth i edrych amdano a sut I ddewis

Cyflwyniad

Described image
Ffigur 1 Mae ystod o offer y gellir eu defnyddio wrth addysgu

Bydd yr wythnos hon yn rhoi trosolwg i chi o’r prif fathau o adnoddau sydd ar gael i’w defnyddio ar-lein, beth maen nhw’n ei gynnig, a sut gallech chi eu defnyddio wrth addysgu ar-lein. Nid yw’r adran hon yn ceisio bod yn gwbl gynhwysfawr, gan nad yw hynny’n bosibl, a byddwn yn dangos ychydig o adnoddau ar-lein i chi a allai fod yn ddefnyddiol i chi eu harchwilio ymhellach. Cyflwynwn rai categoreiddiadau o’r adnoddau hyn i’ch helpu ddeall potensial rhai o’r prif fathau o adnoddau ar gyfer eich cyd-destun chi. Mae’r rhyngrwyd yn llawn postiadau blog, categoreiddiadau, trafodaethau, a broliannau ynglŷn â’r adnoddau hyn. Felly, ein bwriad ni yw rhoi man cychwyn i chi i’w llywio a’u defnyddio’n well mewn ffordd a fydd o fantais i chi yn eich gwaith.

Nodyn byr ar breifatrwydd a gwybodaeth bersonol, sy’n arbennig o berthnasol i’r wythnos hon a’r wythnos nesaf, pan allech fod yn cofrestru ar gyfer gwahanol adnoddau a rhoi cynnig arnynt. Os ydych yn pryderu am oblygiadau preifatrwydd defnyddio rhai o’r adnoddau sydd dan sylw yn neunyddiau’r wythnos hon, fe allech ddefnyddio enw arall wrth greu eich cyfrif gyda nhw, a chreu cyfeiriad e-bost ar wahân (e.e. gan ddefnyddio gwasanaeth Gmail Google) i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn lle defnyddio’ch cyfeiriad e-bost arferol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn gwneud eich gweithredoedd yn wirioneddol ddienw neu breifat, e.e. bydd y darparwr gwasanaeth neu’ch ISP yn gallu adnabod mai’ch cyfrifiadur chi sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n bosibl cymryd camau ychwanegol, fel defnyddio gwasanaeth i anonymeiddio’ch cyfrifiadur (e.e. www.anonymizer.com). Fodd bynnag, mae trafod manteision ac anfanteision technegau o’r fath y tu hwnt i gwmpas y cwrs hwn.

Myfyrdodau athrawon

Yr wythnos hon mae gennym fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   gan Sarah H, sy’n dweud wrthym sut mae hi’n penderfynu ar yr offer i’w defnyddio wrth addysgu:

Erbyn diwedd yr wythnos hon, fe ddylech allu:

  • disgrifio rhai o’r ffyrdd o gategoreiddio technolegau addysgol ar gyfer addysgu ar-lein
  • esbonio sut gallai rhai o’r adnoddau sydd ar gael i helpu gydag amcanion dysgu penodol
  • dechrau gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â pha adnoddau y gallech roi cynnig arnynt yn eich cyd-destun chi.