Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Mathau o dechnoleg gynorthwyol

Mae nifer o wahanol fathau o dechnoleg gynorthwyol. Mae rhai adnoddau cyffredin y gallech ddod ar eu traws yn cynnwys:

  • Adnoddau gwella sgrin arddangos. Gallai’r rhain gael eu defnyddio i addasu cyfuniadau lliw ar y sgrin, neu chwyddo testun neu rannau penodol o’r sgrin, neu wneud cyrchwr y llygoden yn fwy amlwg, ymhlith pethau eraill.
  • Adnoddau sain. Gallai dysgwyr ddefnyddio’r rhain i ddarllen testun o’r sgrin yn uchel (a elwir hefyd yn destun i leferydd), cyfieithu neu ddiffinio geiriau allweddol, neu recordio cyfraniadau neu adborth. Mae’n bwysig nodi’r gwahaniaeth rhwng adnoddau testun i leferydd, sy’n gofyn i’r dysgwr ddewis y testun sydd i’w ddarllen ac a ddefnyddir yn gyffredin gan bobl sydd â dyslecsia neu rywfaint o nam ar y golwg, a rhaglenni darllen sgrin sy’n fwy cymhleth o lawer.
  • Rhaglenni darllen sgrin. Mae’r rhain yn darllen popeth sy’n cael ei gyflwyno ar y sgrin, yn ogystal ag opsiynau llywio a dewislenni, ac fe’u defnyddir gan bobl sy’n ddall neu sydd â nam difrifol ar y golwg i weithredu eu cyfrifiadur, yn ogystal â darllen testun ar y sgrin. Fe all gymryd amser hir i ddysgu sut i’w defnyddio, ond pan fydd defnyddiwr yn hyfedr, yn aml fe all wrando ar eitemau sy’n cael eu darllen yn gyflymach o lawer na lleferydd rheolaidd.
  • Adnoddau ysgrifennu. Gallai’r rhain helpu dysgwyr i sillafu neu lunio brawddegau, neu fe allent helpu myfyrwyr nad ydynt yn gallu defnyddio bysellfwrdd i fewnbynnu testun trwy fodd arall. Gall bysellfyrddau ar y sgrin helpu dysgwyr i fewnbynnu testun trwy ddefnyddio switsh neu wasgu’r bylchwr, a gall adnoddau mewnbynnu eraill helpu dysgwyr i fewnbynnu testun trwy wthio llygoden neu hyd yn oed ddefnyddio eu tafod i agor neu gau pibell aer, a gall adnoddau adnabod llais helpu dysgwyr i fewnbynnu testun trwy leferydd.
  • Adnoddau cynllunio. Gall y rhain gynnwys adnoddau sy’n creu mapiau meddwl (a throsi’r rhain yn is-restrau, neu fel arall), yn ogystal ag adnoddau ar gyfer anodi’r sgrin, i atgoffa neu fel cymhorthion cynllunio.

Nid yw technolegau cynorthwyol bob amser yn eitemau ar wahân i’w prynu gan y defnyddiwr. Yn aml, bydd gan dechnolegau prif ffrwd nodweddion technoleg gynorthwyol wedi’u gosod ynddynt yn barod. Mae systemau gweithredu fel Microsoft Windows ac Apple Mac OS yn cynnwys technolegau cynorthwyol gosodedig, fel adnoddau gwella sgrin ac adnoddau sain. Yn aml, mae meddalwedd prosesu geiriau yn cynnwys adnoddau fel rheolyddion chwyddo, llywio trwy benawdau, neu wirwyr darllenadwyedd, ac mae porwyr rhyngrwyd modern yn cynnwys ystod o nodweddion cynorthwyol hefyd. Oherwydd bod yr adnoddau hyn ar gael yn rhwydd, gallwch roi cynnig ar rai ohonynt eich hun i gael syniad o sut maent hwy’n gweithio.

Gweithgaredd 1 Adnabod technolegau cynorthwyol yn straeon defnyddwyr

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Darllenwch adnodd W3C's Straeon Defnyddwyr Gwe [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Wrth i chi ddarllen y straeon, gwnewch nodiadau am unrhyw rai o’r technolegau cynorthwyol a phroblemau hygyrchedd sy’n cael eu crybwyll ond nad oeddech chi eisoes yn gwybod amdanynt.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Er nad oes angen i bob athro/athrawes ddod yn arbenigwr ar gymhorthion cynorthwyol, mae’n werthfawr ymgyfarwyddo â’r ystod o adnoddau sydd ar gael, yn enwedig y rhai hynny sydd ar gael heb gost mewn porwyr a systemau gweithredu. Mae’r gweithgaredd hwn yn helpu i amlygu rhai nodweddion nad oeddech yn ymwybodol ohonynt, o bosibl.