Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Fformatau amgen

Fel yr ydych eisoes wedi’i weld yr wythnos hon, gallai rhai myfyrwyr gael anawsterau gydag unrhyw fath o gyfrwng a ddefnyddir mewn deunyddiau dysgu ar-lein. Os gellir darparu cynnwys mewn amrywiaeth o fformatau amgen, ni fydd rhaid i fyfyrwyr ymdrechu i’w drawsnewid yn rhywbeth sy’n addas iddyn nhw cyn iddynt allu fynd ati i ddysgu.

O ran deunyddiau argraffedig neu fformatau testun anhygyrch, fe allai fod angen gwneud rhywfaint o waith i greu adnodd amgen. Gallai hyn fod yn wir, er enghraifft, os yw’r testun yn ddelwedd fel ffotograff neu sgan – i wirio hyn, ceisiwch ‘amlygu’ neu ‘ddethol’ y testun. Os nad yw hyn yn bosibl, mae’n debyg mai delwedd yw’r testun. Fe allai fod yn bosibl defnyddio meddalwedd Adnabod Nodau Optegol (OCR) i droi testun mewn delwedd yn fformat mwy defnyddiadwy yn awtomatig. Gwiriwch ganlyniadau unrhyw drosiad OCR bob amser i sicrhau ei fod yn gywir. Mewn rhai achosion lle nad yw’r testun yn glir (fel llawysgrifen), fe all fod yn fwy effeithlon teipio’r testun yn hytrach na defnyddio OCR. Efallai y bydd angen ychwanegu penawdau ac arddulliau defnyddiol eraill â llaw hefyd.

Os oes delweddau neu ddiagramau yn yr adnodd gwreiddiol, gall rhywun sy’n deall y pwnc benderfynu pa rai o’r rhain y mae angen eu disgrifio a darparu’r disgrifiadau. O ran delweddau cymhleth, efallai y bydd angen cynhyrchu diagram cyffyrddadwy ar gyfer myfyrwyr dall. Mae angen sgiliau technegol a rhywfaint o wybodaeth arbenigol i greu diagramau cyffyrddadwy. Gwyliwch y fideo ‘How to make a tactile diagram’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Art Beyond Sight, 2009), sy’n rhoi trosolwg o ofynion y fformat amgen hwn a sut i’w gynhyrchu.

Described image
Ffigur 9 Gall darllen symbolau mathemategol fod yn broblemus i raglen darllen sgrin

Mewn rhai pynciau, fel mathemateg, cerddoriaeth a chemeg, mae’n anodd iawn darparu fformat hygyrch sy’n cynnwys y nodiant symbolaidd. Mae’r rhan fwyaf o’r canllawiau hygyrchedd yn hepgor hyn, neu’n tybio mai nifer fach o nodiannau a geir ac y gellir ymdrin â nhw trwy gyflenwi disgrifiadau. Mewn gwirionedd, mae cyfleu nodiannau cymhleth o’r math hwn i bobl nad ydynt yn gallu gweld yn faes tra arbenigol sydd y tu hwnt i gwmpas y cwrs hwn.

Described image
Ffigur 10 Gall dogfennau EPUB gynorthwyo hygyrchedd mewn nifer o ffyrdd

Mae rhai deunyddiau ar-lein yn cael eu cynnig mewn fformat e-lyfr, er enghraifft EPUB a MOBI (ar gyfer Kindle). Nid yw’r fformatau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer dysgwyr anabl yn benodol, ond maent wedi cynnwys ystyriaethau hygyrchedd lle y bo’n briodol, felly fe allent fod yn fuddiol i rai myfyrwyr anabl sy’n dewis defnyddio darllenwyr e-lyfr.

Yn aml, mae’n well gan ddysgwyr recordiadau llais dynol o destun na’r math o leferydd a gynhyrchir gan gyfrifiadur a geir mewn meddalwedd darllen sgrin. Gallai lleisiau a gynhyrchir gan gyfrifiadur gael trafferth darllen nodiannau cymhleth yn gywir hefyd. Mae hyn yn cynnwys pynciau fel mathemateg, cerddoriaeth a chemeg, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n cynnwys llawer o dermau technegol. Gall recordiadau gael eu darparu mewn amrywiaeth o fformatau, ond mae’n debygol mai MP3 fydd yr un mwyaf boddhaol i gael cydbwysedd rhwng ansawdd sain a maint ffeil hydrin. Os nad oes gennych amser i wneud y recordiadau eich hun, neu os nad ydych eisiau gwneud hynny, mae adnoddau ar gael a fydd yn trosi dogfen destun yn ffeil sain lleferydd cyfrifiadurol. Bydd yr adnodd gwe rhad ac am ddim Robobraille yn caniatáu i chi lanlwytho dogfen destun a’i throsi’n recordiad llais cyfrifiadurol, neu’n e-lyfr.

O ran sain, trawsgrifiad yw’r fformat amgen safonol, a gall y rhain fod yn fuddiol i bob dysgwr, nid yn unig y rhai hynny sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw. Fodd bynnag, mae’n anodd iawn dilyn cyfrwng gweledol fel fideo a darllen trawsgrifiad ar yr un pryd. Nid yw’r dasg yr un fath i rywun byddar â rhywun sy’n gallu clywed, a fydd yn gallu gwrando a darllen ar yr un pryd, o leiaf. Yn aml, bydd angen i fyfyrwyr wneud nodiadau tra’u bod yn gwylio fideo, sy’n gwneud y dasg yn fwy anodd. Felly, cofiwch efallai na fydd y dewis amgen hwn yn darparu profiad teg i’r dysgwyr.

Gweithgaredd 3 Hygyrchedd wrth addysgu ar-lein

Timing: Caniatewch oddeutu 30 munud

Rydych eisoes wedi gwneud nodiadau mewn gweithgareddau blaenorol ar yr hyn rydych eisiau ei gyflawni wrth addysgu ar-lein, a sut gallai OER helpu i gyflawni’r amcanion hyn. Nawr, ystyriwch hygyrchedd – beth fydd angen i chi ei wneud â’ch deunyddiau presennol neu OER sy’n cael eu hailddefnyddio i sicrhau bod eich addysg ar-lein mor hygyrch â phosibl?

Lluniwch restr o chwe cham cychwynnol y gallech eu cymryd yn eithaf rhwydd (er enghraifft ‘adolygu fy sleidiau PowerPoint i weld a oes blychau testun wedi’u hychwanegu ac esbonio delweddau’, neu ‘wirio cyferbynnedd lliwiau mewn OER sy’n cael eu hailddefnyddio’).

Unwaith eto, cadwch eich atebion mewn man diogel, oherwydd byddwch yn eu hadolygu.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Lluniwyd y gweithgaredd hwn i’ch helpu i feddwl am anghenion eich cynulleidfa, a sut gallai eich gwrthrychau dysgu neu’ch deunyddiau addysgu ar-lein weithio iddynt. Ni ddylai hygyrchedd gael ei ystyried yn faich ychwanegol ar yr athro/athrawes, ond fel elfen o reoli ansawdd, gan sicrhau bod eich addysgu ar-lein yn addas i’r diben, trwy beidio ag eithrio dysgwyr sydd â namau penodol. Diwedd y Gweithgaredd