Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Arwynebedd

Arwynebedd yw faint o ofod mae siâp gwastad yn ei gymryd. Bydd angen ichi allu cyfrifo arwynebedd os byddwch eisiau archebu carped i’ch tŷ, prynu teils ar gyfer cegin neu ystafell ymolchi, neu gyfrifo faint o baent i’w brynu wrth ailaddurno.

Mae gan y patio hwn gerrig palmant sy’n 1 metr sgwâr (mae pob ochr yn mesur 1 metr). Faint o gerrig palmant sydd ar y patio?

Described image
Ffigur 20 Cerrig palmant

Caiff arwynebedd ei fesur mewn unedau ‘sgwâr’. Mae hyn yn golygu y dangosir yr arwynebedd fel nifer y sgwariau fyddai’n gorchuddio’r wyneb. Felly os yw patio wedi’i orchuddio ag 18 sgwâr sy’n mesur 1 metr wrth 1 metr, yr arwynebedd yw 18 metr sgwâr.

(Os cyfrwch y sgwariau, byddwch yn gweld bod yna 18 ohonyn nhw.)

Byddai arwynebeddau llai yn cael eu mesur mewn centimetrau sgwâr. Gall arwynebeddau mwy gael eu mesur mewn cilometrau sgwâr neu filltiroedd sgwâr.

Gallwch weithio allan arwynebedd petryal, fel y patio uchod, trwy luosi’r ochr hir â’r ochr fer:

lled × hyd = arwynebedd

Arwynebedd y patio yw:

6 × 3 = 18 metr sgwâr

Gellir ysgrifennu ‘metrau sgwâr’ hefyd fel ‘m2’.

Enghraifft: Arwynebedd bwrdd

Mae Fran yn gweld bwrdd cinio petryal mae’n ei hoffi. Mae’r bwrdd yn mesur 2 m wrth 1.5 m. Beth yw arwynebedd y bwrdd?

Described image
Ffigur 21 Bwrdd cinio

Dull

I ganfod yr arwynebedd, mae angen inni luosi hyd y bwrdd â’i led:

2 m × 1.5 m = 3 metr sgwâr

Felly arwynebedd y bwrdd yw 3 m2.

Gweithgaredd 9: Arwynebedd petryal

Cwblhewch y tabl canlynol trwy gyfrifo’r arwynebedd sydd ar goll heb ddefnyddio cyfrifiannell. Byddwch wedi edrych ar ddulliau lluosi rhifau cyfan a degolion [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn Sesiwn 1. Dangoswch eich atebion yn yr unedau sgwâr cywir.

HydLledArwynebedd mewn unedau sgwâr (centimetrau, metrau, cilometrau)
80 cm30 cm
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
7 m4 m
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
2.5 km2 km
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
5.5 m2.4 m
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

HydLledArwynebedd mewn unedau sgwâr (centimetrau, metrau, cilometrau)
80 cm30 cm2 400 cm2
7 m4 m28 m2
2.5 km2 km5 km2
5.5 m2.4 m13.2 m2

Awgrym: Defnyddiwch yr un unedau ar gyfer y ddwy ochr bob amser. Weithiau rhoddir hyd a lled y petryal mewn unedau gwahanol. Rhaid iddynt fod yn yr un uned cyn y gallwch gyfrifo’r arwynebedd, felly efallai y bydd angen ichi drosi un ochr i’r un unedau â’r ochr arall.

Enghraifft: Arwynebedd ryg

Faint o gefnyn sydd ei angen ar gyfer y ryg hwn?

Described image
Ffigur 22 Ryg

Dull

I ganfod yr ateb, mae angen ichi weithio allan y lled wedi’i luosi â’r hyd.

  • 90 cm × 3 m = arwynebedd

Yn gyntaf, mae angen ichi drosi’r lled i fetrau fel bod y ddwy ochr yn yr un unedau. Mae 90 cm yr un peth â 0.9 m, felly’r cyfrifiad yw:

  • 0.9 × 3 = arwynebedd = 2.7 m2

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Mae angen ichi wneud y cyfrifiadau heb gyfrifiannell, ond gallwch ailwirio’ch atebion ar gyfrifiannell os oes angen. Os oes angen eich atgoffa sut iluosi rhifau cyfan neu rifau degol heb gyfrifiannell, edrychwch nôl ar Sesiwn 1 yn gyntaf.

Cofiwch wirio a oes angen ichi drosi’r mesuriadau cyn cyfrifo’r arwynebedd.

Gweithgaredd 10: Canfod yr arwynebedd

  1. Faint o len plastig sydd arnoch ei angen i orchuddio’r pwll hwn dros y gaeaf?

    Described image
    Ffigur 23 Pwll dŵr
  2. Bydd un bag o raean yn gorchuddio hanner metr sgwâr o’r llawr. Faint o fagiau fydd arnoch eu hangen i orchuddio’r dreif hwn?

    Described image
    Ffigur 24 Dreif
  3. Mae biolegydd yn astudio twf burum. Yn yr arwynebedd sampl a ddangosir mewn porffor isod, canfu’r biolegydd 80 burum. Beth fyddai’n mynd yn y lleoedd gwag ar ei thaflen cofnodi, yn lle’r marc cwestiwn?

    Described image
    Ffigur 25 Dysgl Petri
Cyfrif burum
Rhif yr arwynebedd sampl21
Dyddiad17 Hydref
Cyfrif burum80
Dimensiynau’r sampl? cm × ? cm
Arwynebedd y sampl? cm2
Burum/cm2?
  1. Pa mor fawr yw’r darn hwn o dir coedwigaeth?

    Described image
    Ffigur 26 Coedwig

Ateb

  1. Mae angen i’r llen plastig fod yn:

    • 2.5 × 4 = 10 m2

  2. Yn gyntaf, mae angen ichi weithio allan arwynebedd y dreif:

    • 8 × 4 = 32 m2

    Os yw pob bag yn gorchuddio hanner metr sgwâr, bydd arnoch angen dau fag ar gyfer pob metr sgwâr:

    • 32 × 2 = 64 o fagiau

  3. Yn gyntaf mae angen ichi newid y lled i gentimetrau. Mae 25 mm yr un peth â 2.5 cm. Yna gallwch weithio allan yr arwynebedd:

    • 2.5 × 4 = 10 cm2

    Mae 80 burum, felly nifer y burum ar bob centimetr sgwâr (burum/ cm2) yw:

    • 80 ÷ 10 = 8 burum y cm2

    Dylai’r daflen cofnodi edrych fel hyn:

Cyfrif burum
Rhif yr arwynebedd sampl21
Dyddiad17 Hydref
Cyfrif burum80
Dimensiynau’r sampl2.5 cm × 4 cm
Arwynebedd y sampl10 cm2
Burum/cm28
  1. Arwynebedd y tir coedwigaeth yw:

    • 4.5 × 2 = 9 milltir sgwâr

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i weithio allan arwynebedd siâp petryal.