Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Darllen tablau

Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol o lyfryn. Mae’n bwysig gallu deall y tabl oherwydd bydd yn eich helpu i ddewis y gwyliau sgïo sy’n gweddu orau i chi.

Described image
Ffigur 1 Pa cyrsiau sy’n gweddu orau i chi?

Enghraifft: Y tywydd

Os edrychwch mewn papur newydd, mae’n debygol y bydd yno adran sy’n rhoi rhagolygon y tywydd ichi. Efallai y bydd y wybodaeth hon hyd yn oed mewn tabl sy’n edrych fel hyn:

Diweddariad ar y tywydd
LleoliadHeddiwYfory
TywyddTym. isaf

(°C/°F)

Tym. uchaf

(°C/°F)

TywyddTym. isaf

(°C/°F)

Tym. uchaf

(°C/°F)

Y De a’r De-orllewinEicon haul.22/7227/81Eicon haul a chawodydd.16/6121/70
Canolbarth LloegrEicon haul.22/7228/82Eicon haul.24/7531/88
Yr AlbanEicon haul.20/6824/75Eicon mellt.19/6621/70
CymruEicon glaw.15/5919/66Eicon mellt.17/6321/70
Gogledd IwerddonEicon mellt.18/6424/75Eicon haul.21/7027/81

Gallai’r wybodaeth fod wedi ei hysgrifennu fel hyn:

  • Bydd y tywydd heddiw yn heulog yn y de, y de-orllewin, canolbarth Lloegr a’r Alban. Bydd cawodydd yng Nghymru a stormydd yng ngogledd Iwerddon. Yfory bydd hi’n heulog gyda chawodydd yn y de a’r de-orllewin. Bydd hi’n heulog yng nghanolbarth Lloegr a gogledd Iwerddon a bydd stormydd yn yr Alban a Chymru.

Allwch chi weld sut roedd dangos y wybodaeth ar ffurf tabl yn ei gwneud yn haws ei deall?

Mae tablau’n cynnwys rhesi a cholofnau. Mae rhesi’n llorweddol (hynny yw, yn mynd ar draws y dudalen) ac mae’r colofnau’n fertigol (i fyny ac i lawr).

Described image
Ffigur 2 Rhesi a cholofnau

I wneud synnwyr o dabl, mae arnoch chi angen tri pheth:

  1. Teitl sy’n dweud wrthych chi beth yw pwnc y tabl. Teitl y tabl hwn yw ‘Diweddariad ar y tywydd’.

  2. Penawdau rhesi sy’n dweud wrthych chi beth sydd ym mhob rhes. Yn y tabl tywydd, y penawdau rhesi yw:

    • Y de a’r de-orllewin

    • Canolbarth Lloegr

    • Yr Alban

    • Cymru

    • Gogledd Iwerddon

  3. Penawdau colofnau sy’n dweud wrthych chi beth sydd ym mhob colofn. Yn y tabl tywydd, y penawdau colofnau yw:

    • Lleoliad

    • Heddiw

    • Yfory

Gall tablau fod yn fawr iawn, gyda llawer o resi a cholofnau. Mae’n dibynnu faint o wybodaeth rydych yn ei dangos.

Er enghraifft, mewn gorsaf fysiau neu drenau, byddwch yn gweld amserlen enfawr ar y wal â llawer o resi a cholofnau. Mae hon i fod i wneud y data’n haws eu deall, ond mae’n dal i fod yn gymhleth ac mae’n hawdd drysu.

Yn aml mae amserlenni’n defnyddio’r cloc 24 awr. Os nad ydych yn gyfarwydd â hwn, gweler yr adran ar amser yn Sesiwn 2 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] cyn rhoi cynnig ar y gweithgareddau hyn.

Enghraifft: Amserlen fysiau

Edrychwch ar y dudalen ganlynol o amserlen fysiau:

Described image
Ffigur 3 Amserlen fysiau

Hoffai Mr Newman ddal bws o Woodgreen Avenue i weld ei fab yn Bridge Street yn Banbury. Hoffai gyrraedd yno cyn 8:45 a.m. Beth yw’r bws hwyraf y gall Mr Newman ei ddal i gyrraedd tŷ ei fab yn brydlon?

Dull

Y bws hwyraf y gall Mr Newman ei ddal yw’r bws 8:21 a.m. o Woodgreen Avenue, a fyddai’n cyrraedd tŷ ei fab am 8:39 a.m.

I weithio hyn allan, rydych yn dechrau trwy edrych ar ba fws sy’n cyrraedd Bridge Street cyn 8:45 a.m. Gan ddilyn y rhes ar draws o Bridge Street yn y golofn ar yr ochr chwith, gallwch weld bod bws yn cyrraedd am 8:39 a.m. (Mae’r bws nesaf yn cyrraedd am 8:51 a.m., sy’n rhy hwyr). Yna mae angen ichi edrych i fyny’r golofn hon i ganfod faint o’r gloch mae’r bws hwn yn gadael Woodgreen Avenue, sef 8:21 a.m.

Described image
Ffigur 4 Amserlen fysiau (ateb)

Gweithgaredd 4: Darllen amserlen fysiau

Defnyddiwch yr un amserlen i ateb y cwestiwn canlynol:

Mae’n rhaid i Siân fynd i gyfweliad yn The Fairway am 9 a.m. Faint o’r gloch ddylai hi adael Woodgreen Avenue?

Awgrym: Defnyddiwch y dull a ddisgrifiwyd yn y gweithgaredd diwethaf.

Ateb

Mae bws yn cyrraedd y Fairway am 8:53 a.m, felly byddai angen i Siân ddal y bws hwn o Woodgreen Avenue am 8:45 a.m. Pe bai hi’n dal y bws 8:57 a.m. o Woodgreen Avenue, ni fyddai’n cyrraedd The Fairway tan ar ôl 9 a.m.

Gweithgaredd 5: Darllen amserlen fysiau arall

Edrychwch ar amserlen fysiau arall yn Ffigurau 5a a 4b, ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn.

Awgrym: Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y penawdau i weld pa ddyddiau o’r wythnos y mae pob adran o’r amserlen yn berthnasol iddynt.

Described image
Ffigur 5a Amserlen fysiau
Described image
Ffigur 5b Amserlen fysiau
  1. Faint o’r gloch mae’r bws cyntaf yn gadael safle 16 Parkside yng Nghaergrawnt ar ddydd Mawrth?

  2. Faint o’r gloch mae’r bws olaf yn gadael safle parcio a theithio Madingley Road ar ddydd Sadwrn?

  3. Mae Dai eisiau cyfarfod â ffrind yng ngorsaf drenau Milton Keynes ar ddydd Iau am 9 a.m. Faint o’r gloch ddylai Dai adael Goldington Green? (Awgrym: mae Milton Keynes wedi’i dalfyrru i ‘MK’ ar yr amserlen, a nodir y gorsafoedd trenau gyda logo’r rheilffyrdd mewn cylch coch).

  4. Ar ddydd Llun, mae Susan yn cyrraedd safle D Market Square yn St Neots am 10:45 a.m. Faint o’r gloch fydd y bws nesaf yn gadael i Buckingham High Street, a beth fydd hyd y daith?

Ateb

  1. Mae’r bws cyntaf yn gadael safle 16 Parkside yng Nghaergrawnt ar ddydd Mawrth am 6:10 a.m. (sydd wedi’i ysgrifennu fel ‘0610’ ar yr amserlen).

  2. Mae’r bws olaf yn gadael safle parcio a theithio Madingley Road ar ddydd Sadwrn am 11:15 p.m. (sydd wedi’i ysgrifennu fel ‘2315’ ar yr amserlen).

  3. Dylai adael Goldington Green ar y bws 7:37 a.m., sy’n cyrraedd Milton Keynes am 9 a.m.

  4. Ar ôl 9:05 a.m. ar ddydd Llun, mae bysiau’n cyrraedd safle D Market Square yn St Neots pob 30 munud, am bum munud wedi a 35 munud wedi pob awr. Felly os yw Susan yn cyrraedd y safle am 10:45 a.m., bydd y bws nesaf yno am 11:05 a.m.

    Mae’r bws yn cyrraedd Buckingham High Street am 12:50 p.m. I weithio hyn allan, dilynwch y golofn munudau i lawr o’r 05 (gweler yr amserlen isod) at y rhes ar gyfer Buckingham High Street, lle mae’n dangos 50 munud wedi. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod y bws yn cyrraedd 45 munud yn ddiweddarach. Os edrychwch ar y safleoedd, byddwch yn gweld bod y bws hefyd yn stopio am 8 munud wedi, ac yna 16, 27, 35 a 45 munud wedi; yna mae’n mynd i lawr i 10 munud wedi, ac yna 20 a 30 munud wedi, cyn safle Susan am 50 munud wedi. Os edrychwch ar yr amserau hyn, byddwch yn gweld bod y bws yn teithio am fwy nag awr, felly mae’r daith yn cymryd 1 awr a 45 munud, neu 105 munud. (Ffordd arall i wirio hyn yw edrych ar amserau taith bws cynharach lle dangosir yr amserau yn llawn: er enghraifft, mae’r bws sy’n cyrraedd safle D Market Square yn St Neots am 9:05 a.m. yn cyrraedd Buckingham High Street am 10:50 a.m.)

    Described image
    Ffigur 6 Amserlen fysiau (ateb)

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgareddau canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 6: Trip i’r llyfrgell

Mae amserau agor y llyfrgell leol fel a ganlyn:

DyddAmser agorAmser cau
Llun9:3012:30
Mawrth12:305:30
Mercher9:305:30
Iau9:3012:30
Gwener9:305:30
Sadwrn9:3012:30
SulAr gau
  1. Pryd mae’r llyfrgell ar agor drwy’r dydd?

  2. Pryd mae’r llyfrgell ar agor yn y prynhawn yn unig?

Ateb

  1. Mae’r llyfrgell ar agor trwy’r dydd ar ddydd Mercher a dydd Gwener.

  2. Mae’r llyfrgell ar agor dim ond yn y prynhawn ar ddydd Mawrth.

Gweithgaredd 7: Shifft y gweinydd

Ar ddiwedd ei shifft, lluniodd gweinydd y tabl canlynol i weithio allan faint o ddiodydd yr oedd wedi’u gweini:

DiodyddNifer a weinwyd
TeMarc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 1.
CoffiMarc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 2.
Sudd orenMarc rhifiad o 2.
Siocled poethMarc rhifiad o 3.
CokeMarc rhifiad o 5.
  1. Does dim teitl gan y tabl. Beth fyddai’n deitl addas?

  2. Beth yw’r penawdau rhesi a’r penawdau colofnau?

  3. Faint o Cokes a weinodd y gweinydd?

  4. Faint o ddiodydd oer a weinodd y gweinydd?

  5. Beth oedd cyfanswm y diodydd a weinwyd gan y gweinydd?

Ateb

  1. Teitl addas fyddai rhywbeth fel ‘Diodydd a weinwyd yn ystod y shifft’.

  2. Penawdau’r rhesi yw ‘Te’, ‘Coffi’, ‘Sudd oren’, ‘Siocled poeth’ a ‘Coke’. Penawdau’r colofnau yw ‘Diodydd’ a ‘Nifer a weinwyd’.

  3. Gweinodd y gweinydd 5 Coke.

  4. Gweinodd y gweinydd ddau sudd oren a phum Coke, sef cyfanswm o saith diod oer.

  5. Gweinodd y gweinydd gyfanswm o 6 + 7 + 2 + 3 + 5 = 23 o ddiodydd.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu ynghylch trin data, ac yn benodol, sut i gyflwyno data mewn tablau.