Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Talgrynnu

Os ydych allan yn siopa, byddai gallu amcangyfrif cyfanswm cost eich siopa’n gyflym yn gallu’ch helpu i benderfynu a oes gennych ddigon o arian i dalu amdano. Mae brasamcanu atebion i gyfrifiadau’n sgil defnyddiol iawn.

Cofiwch y rhigwm talgrynnu a fydd yn eich helpu chi:

Described image
Ffigur 4 ‘Pedwar neu lai, gadewch fel y mae. Pump neu fwy, i fyny â hwy!’

Gwyliwch y fideo hwn i’ch atgoffa o’ch gwybodaeth am dalgrynnu. Dylech gymryd nodiadau drwyddo draw:

Gwylio’r fideo ar.

Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgareddau canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 15: Talgrynnu i 10, 100 a 1 000

  1. Talgrynnwch y rhifau hyn i’r 10 agosaf:
    • a.64
    • b.69
    • c.65
    • d.648
    • e.271
    • f.587

Gwiriwch ein hawgrymiadau cyn mynd ymlaen.

Ateb

Described image
Ffigur 5 Llinell Rhif

Gallwch weld yn Ffigur 5:

  • a.64 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 60.
  • b.. 69 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 70.
  • c.65 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 70. (Cofiwch: pan mae rhif union hanner ffordd, rydych bob amser yn talgrynnu i fyny. Fel mae’r rhigwm yn ei ddweud, ‘Pump neu fwy, i fyny â hwy!’)

Mae’r atebion eraill fel a ganlyn:

  • d.648 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 650.
  • e.271 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 270.
  • f.587 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 590.

Nawr dylech ymarfer talgrynnu i’r 100 agosaf. Mae’r rheol yn union yr un peth.

  1. Talgrynnwch y rhifau hyn i’r 100 agosaf:
    • a.325
    • b.350
    • c.365
    • d.2 924
    • e.1 630
    • f.2 279

Gwiriwch ein hawgrymiadau cyn mynd ymlaen.

Ateb

Described image
Ffigur 6 Llinell Rhif

Gallwch weld yn Ffigur 6:

  • a.325 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 300.
  • b.350 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 400.
  • c.365 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 400.

Mae’r atebion eraill fel a ganlyn:

  • d.2 924 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 2 900.
  • e.1 630 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 1 600.
  • f.2 279 wedi’i dalgrynnu i’r 100 agosaf yw 2 300.

Nawr dylech ymarfer talgrynnu i’r 1 000 agosaf.

  1. Talgrynnwch y rhifau hyn i’r 1 000 agosaf:
    • a.4 250
    • b.4 650
    • c.4 500
    • d.4 060
    • e.31 300
    • f.13 781
    • g.155 600

Gwiriwch ein hawgrymiadau cyn mynd ymlaen.

Ateb

Described image
Ffigur 7 Llinell Rhif

Gallwch weld yn Ffigur 7:

  • a.4 250 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 4 000.
  • b.4 650 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 5 000.
  • c.4 500 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 5 000.
  • d.4 060 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 4 000.

Mae’r atebion eraill fel a ganlyn:

  • e.31 300 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 31 000.
  • f.13 781 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 14 000.
  • g.155 600 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 156 000.

Rydym yn aml talgrynnu rhifau mewn bywyd go iawn, yn enwedig pan siopa. Gwyliwch y fideo ar wefan BBC Skillswise [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddysgu mwy am esiamplau talgrynnu bywyd go iawn.

Talgrynnu i’r £ agosaf

Y rheol yw, os yw ffigur olaf y swm yn 50c neu fwy, talgrynnwch i’r £ nesaf, ac os yw ffigur olaf y swm yn llai na 50c, mae’r £ yn aros yr un peth.

Er enghraifft:

£6.32 = £6 i’r £ agosaf (oherwydd bod 32c yn llai na 50c)

£42.51 = £43 i’r £ agosaf (oherwydd bod 51c yn fwy na 50c)

Gweithgaredd 16: Talgrynnu i’r £ agosaf

Talgrynnwch y symiau canlynol i’r £ agosaf:

  1. £5.20
  2. £1.70
  3. £7.35
  4. £13.13
  5. £23.51
  6. £128.85

Ateb

  1. £5
  2. £2
  3. £7
  4. £13
  5. £24
  6. £129

Gweithgaredd 17: Siopa Bill

  1. Mae gan Bill £20 i’w wario ar ei siopa. Dyma restr o’i eitemau, ynghyd â faint mae pob un yn ei gostio:

    Described image
    Ffigur 8 Rhestr siopa

    Defnyddiwch eich sgiliau talgrynnu i weithio allan a oes gan Bill ddigon o arian i dalu am ei holl siopa.

Awgrym: Yn y gweithgaredd hwn, talgrynnwch i’r bunt agosaf, felly byddai £2.20 yn cael ei dalgrynnu i £2.

Ateb

Dylai talgrynnu’r holl eitemau roi ichi gyfanswm o £19, felly oes, mae’n debyg bod gan Bill ddigon o arian i dalu am ei holl siopa.

  1. Allwch chi gyfrifo cyfanswm yr holl eitemau ar y rhestr siopa i weld beth yw gwir gost siopa Bill?

Ateb

Cyfanswm cost yr holl eitemau ar y rhestr siopa yw £19.33, sy’n agos iawn i’r ateb a gawsoch trwy dalgrynnu.

Da iawn! Rydych yn awr wedi talgrynnu a chwblhau rhywfaint o waith rhifau sylfaenol yn llwyddiannus. Allwch chi weld pwysigrwydd talgrynnu? Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gadw at gyllideb.