Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Pobl ag anableddau dysgu

Mae Mencap [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn rhoi'r cyngor hwn ar gyfathrebu â phobl sydd ag anableddau dysgu:

'Cyhyd â'u bod yn cael yr help cywir i ddysgu, gall pobl ag anabledd dysgu gyflawni unrhyw beth. Cyhyd â'ch bod yn cyfathrebu'r cymorth hwnnw i rywun mewn ffordd ddeallgar.'

Mae'n bwysig defnyddio iaith hygyrch bob amser, ac osgoi jargon neu eiriau hir a allai fod yn anodd eu deall. Dylech hefyd ystyried unrhyw anableddau corfforol a all fod gan y person a allai olygu ei bod yn anodd iddo gyfathrebu.

  • Yn bersonol: mae llawer o bobl sydd ag anableddau dysgu wedi dweud wrth Mencap mai'r ffordd orau o gyfathrebu â nhw yw wyneb yn wyneb ac un i un.
  • Yn ysgrifenedig: yn ysgrifenedig, mae'n syniad da defnyddio testun mwy a phwyntiau bwled, a chadw'r ysgrifen yn 16 pwynt o leiaf. Mae hefyd yn bwysig cofio y gall gormod o liw olygu ei bod yn anoddach i rai pobl ei ddarllen.
  • Dros y ffôn: y ffordd orau o siarad â rhywun sydd ag anabledd dysgu dros y ffôn yw yn araf ac yn glir, gan ddefnyddio geiriau y gellir eu deall yn rhwydd.

Sylw mewnweledol gan rhywun gydag anabledd dysgu

'Pan fu'n rhaid i mi fynd i'r ysbyty, fel arfer, byddai'r meddygon yn siarad â Mam yn hytrach na fi. Felly dechreuais fynd i'r ysbyty hebddi. Yn y diwedd, gwnaethant ddechrau cydnabod mai fi oedd yn bwysig, fi oedd angen deall, nid fy mam.'

(Ffynhonnell: Mencap, 2016)

Mae gan rai pobl anawsterau cyfathrebu sy'n ganlyniad i anaf ar yr ymennydd, fel strôc, ac mae'n rhaid iddynt ddysgu sut i gyfathrebu mewn ffordd wahanol fel rhan o'u proses o wella. Dyma rai ffyrdd o helpu gyda'r broses hon:

  • Rhowch eich sylw llawn i'r person a cheisiwch osgoi unrhyw bethau sy'n tynnu sylw yn y cefndir. Ceisiwch siarad yn glir ar uchder arferol.
  • Gwrandewch a gwyliwch adweithiau'r person, cofiwch – nid dim ond yn llafar y gellir cyfathrebu.
  • Peidiwch â cheisio siarad ar ran y person, na gorffen ei frawddegau.
  • Peidiwch ag esgus eich bod wedi deall y person os nad ydych wedi ei ddeall na cheisio siarad ar ei ran.

Awgrym gofalwr o Scope

Yn aml, byddwn yn gwneud cymaint dros bobl fel nad oes angen iddynt gyfathrebu ac ni fyddant yn cael cyfle i wneud hynny. Gall hyn fod yn enghraifft o 'danseilio'. Rhowch wrthrychau pwysig mewn lle y bydd angen i'r person ofyn amdanynt; rhowch bryd o fwyd heb gyllell a fforc (eto, fel bod angen iddo ofyn). Meddyliwch am ffyrdd o addasu sefyllfaoedd fel bod angen cyfathrebu.

(Ffynhonnell: y GIG 2016)