Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gofal lliniarol a gofal diwedd oes

Cyflwyniad

Mae'n bwysig sylweddoli y bydd pawb yn marw rywbryd – ni ellir osgoi marwolaeth. Gan na ellir ei osgoi, mae cynllunio ar gyfer marwolaeth a thrafod marwolaeth gydag anwyliaid yn rhan o gael marwolaeth dda. Nid yw'n rhywbeth y dylech chi fel gofalwr ei wrthod i'r person sy'n derbyn gofal os yw'n dymuno siarad am ei ddymuniadau a'i ofnau. Mae'n bwysig bod y person sy'n derbyn gofal yn cael y cyfle i siarad am ei farwolaeth ond ni ddylid gwneud iddo deimlo bod yn rhaid iddo wneud hynny. Naill ai fel gofalwr cyflogedig neu ofalwr di-dâl, dim ond un cyfle sydd i gael gofal diwedd oes yn gywir. Ni fyddwch yn cael ail gyfle ar gyfer unrhyw berson unigol sy'n derbyn gofal.

Er bod y cwrs yn werthfawr i bob gofalwr, mae tîm y cwrs yn cydnabod y gallai gofal lliniarol a gofal diwedd oes fod yn anffurfiol neu gallai gael ei gyflwyno gan weithwyr gofal cyflogedig. Er y byddai'n well gan lawer o bobl farw gartref, gyda'u perthnasau'n gofalu amdanynt yn ystod eu misoedd, wythnosau a diwrnodau olaf, yn aml bydd gweithwyr gofal cyflogedig yn eu helpu. Mae rhai gweithwyr gofal cyflogedig yn arbenigo mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Un ystyriaeth bwysig a bwysleisir ar y cwrs hwn yw bod angen i ofalwyr ofalu amdanynt eu hunain yn ogystal â'r person sy'n derbyn gofal ganddynt. Wrth i chi ddarllen, ystyriwch pa gymorth fyddai ar gael i chi gan deulu neu ffrindiau, neu pa gymorth y gallech ei gynnig i deulu a ffrindiau os byddant yn rhoi gofal lliniarol neu ofal diwedd oes. Efallai y bydd Adran 1, Cyfathrebu da [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   (yn enwedig y rhan ar gael sgyrsiau anodd), ac Adran 5, Gofalu amdanoch eich hun hefyd yn ddefnyddiol i chi.

Yn yr adran hon, byddwch yn astudio gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Byddwch yn dysgu sut i sicrhau bod person yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl drwy gymhwyso'r egwyddorion craidd sy'n sail i ofal diwedd oes o ansawdd da. Byddwch yn ystyried sut y gallwch wella'r broses o farw er mwyn helpu'r person i gael marwolaeth dda.

Tuag at ddiwedd yr adran, byddwch yn myfyrio ar astudiaeth achos sy'n dod â'r hyn rydych wedi'i ddysgu ynghyd ac yn disgrifio'r arwyddion bod rhywun yn agosáu at farwolaeth. Yn yr astudiaeth achos, byddwch yn dilyn Frank a Grace yn ystod wythnosau olaf Frank.

Caiff yr adran ei rhannu'n bum pwnc a dylai gymryd tua hanner awr i chi astudio a chwblhau pob un o'r rhain. Mae'r pynciau fel a ganlyn:

  1. Mae Gofal lliniarol yn cyflwyno gofal lliniarol fel triniaeth sy'n lleddfu ond nad yw'n gwella clefyd neu salwch. Ni ddylai gyflymu marwolaeth y person na'i hoedi. Mae'n canolbwyntio ar les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol y person sy'n marw, a'r rhai sy'n agos ato.
  2. Mae Sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl yn trafod sut y gellir gwella ansawdd bywyd person sy'n cael gofal lliniarol a'i wneud yn bersonol i'r unigolyn, tra'n ystyried y gallai fod angen ffocws arbennig os bydd plentyn yn cael gofal lliniarol.
  3. Mae Gofal diwedd oes yn rhan o ofal lliniarol ar gyfer pobl yr ystyrir eu bod ym mlwyddyn olaf eu bywyd. Gellir helpu'r bobl hyn i gael marwolaeth dda, lle mae'r hyn a olygir wrth farwolaeth dda yn dibynnu ar beth sy'n bwysig i'r person sy'n marw.
  4. Mae Egwyddorion craidd cyffredin yn disgrifio fframwaith ar gyfer yr arweiniad a gaiff ymarferwr ar gyfer darparu gofal diwedd oes, tra'n cydnabod nad yw llawer o ymarferwyr sy'n darparu gofal diwedd oes yn arbenigwyr gofal diwedd oes.
  5. Mae Agosáu at farwolaeth yn trafod beth yw ystyr marwolaeth dda yn ôl y person sy'n marw, a chydnabod arwyddion marwolaeth.