Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Lleihau ymddygiad negyddol

Er mwyn annog harmoni yn yr ystafell ddosbarth a chreu amgylchedd dysgu addas, mae'n ddefnyddiol meddwl am ffyrdd o leihau cyfleoedd i'r plant ymroi i ymddygiad negyddol neu aflonyddgar. Mae Gweithgaredd 6 yn eich annog i feddwl am ffyrdd o drefnu'r lle dysgu er mwyn helpu plant i ganolbwyntio ar ddysgu yn hytrach na bod yn aflonyddgar.

Gweithgaredd 6

Timing: Caniatewch tua 25 munud

Gwyliwch y clip fideo, 'Dyna natur bechgyn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ' [Trawsgrifiad], i gyd i ddechrau. Yna nodwch sut mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth rydych yn gweithio ynddo wedi'i drefnu cyn gwylio'r clip am yr eildro. Os nad ydych yn gweithio mewn ysgol ar hyn o bryd, meddyliwch am sut mae'r amgylchedd wedi'i drefnu mewn lleoliad addysg rydych yn ei adnabod.

Gwnewch nodiadau ar y canlynol cyn darllen ein sylwadau:

  • Sut mae'r ffordd y mae'r amgylchedd dysgu wedi'i drefnu yn y clip yn lleihau'r cyfleoedd ar gyfer ymddygiad negyddol?
  • Sut mae'r amgylchedd dysgu rydych yn gweithio ynddo yn helpu wrth reoli ymddygiad?
  • A oes unrhyw welliannau y gellid eu gwneud yn eich lleoliad?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai y byddwch yn cytuno neu'n anghytuno bod popeth a nodir yn y clip fideo yn wir, fel 'fel arfer, mae merched yn clywed 2–4 gwaith yn well na bechgyn' neu bod gan 'fechgyn synnwyr digrifwch unigryw'. Er y gall rhyw plentyn effeithio ar sut mae'n ymgysylltu â'r amgylchedd dysgu, mae plant yn unigolion ac nid ydynt bob amser yn ymddwyn mewn ffordd 'nodweddiadol' neu ystrydebol. Mae aeddfedrwydd, profiad bywyd, personoliaeth a llawer o ffactorau eraill hefyd yn effeithio ar sut mae plentyn yn ymateb mewn sefyllfa benodol.

Er hyn, mae'n bwysig ystyried sut y gall oedolion ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ffactorau sy'n ysgogi ymddygiad er mwyn creu amgylchedd sy'n cefnogi pob plentyn i ymddwyn yn 'briodol'.

Gallai rhai o'r enghreifftiau y gallech fod wedi sylwi arnynt o'r clip fideo er mwyn lleihau'r cyfleoedd i ymddwyn yn negyddol gynnwys:

  • darparu lle digon mawr i chwarae ynddo
  • mynd â gweithgareddau i'r awyr agored
  • defnyddio clustffonau er mwyn lleihau ymyriadau
  • rhybuddio am newid gweithgarwch.