Strwythur y cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu'n dri bloc, gyda phob un ohonynt yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar gynllunio dyfodol gwell:
- Sut y gwnes i gyrraedd yma? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy'n eich helpu i ystyried eich sefyllfa drwy ystyried y rolau rydych yn eu chwarae mewn bywyd, myfyrio ar brofiadau cadarnhaol a negyddol, cydnabod yr hyn rydych wedi'i gyflawni a nodi eich cryfderau, gwendidau a'r cyfleoedd a'r bygythiadau rydych yn eu hwynebu.
- I ble rwyf am fynd?, sy'n eich helpu i symud ymlaen drwy ystyried y newidiadau rydych am eu gwneud, casglu gwybodaeth, ystyried yr opsiynau sydd ar gael, gwneud penderfyniadau da a diffinio a mireinio eich nodau.
- Sut gallaf gyrraedd yno?, sy'n eich helpu i wneud penderfyniadau cadarn, pennu nodau realistig a chreu cynlluniau gweithredu y mae'n bosibl eu cyflawni. Byddwch hefyd yn cael cyngor defnyddiol ar y broses recriwtio, sut i gwblhau ceisiadau am swyddi, ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a'r hyn sy'n deillio ohonynt.
Gellir ystyried y blociau yn broses barhaus sy'n cynnwys pwyso a mesur, archwilio cyfleoedd, pennu nodau a gweithredu (gweler Ffigur 1).
Gyda'i gilydd, maent yn cyfateb i tua 15 awr o amser astudio. Mae pob bloc yn cynnwys cymysgedd o ddeunydd darllen, clipiau fideo, gweithgareddau a chwisiau a fydd yn eich helpu i ymgysylltu â chynnwys y cwrs.
Bydd adran ychwanegol, Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach, yn eich galluogi i fyfyrio ar hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn.Bydd yr adran yn eich cyfeirio hefyd at wefannau ac adnoddau perthnasol sy'n ymwneud â datblygu eich dysgu a'ch rhagolygon gyrfa.
Unwaith y byddwch wedi astudio bloc, gofynnir i chi gwblhau cwis ar-lein byr o hyd at bum cwestiwn fesul bloc. Mae'r cwis hwn yn helpu i brofi'r hyn rydych wedi'i ddysgu a'i ymgorffori.
Nod Cynllunio dyfodol gwell yw eich galluogi i ddefnyddio'r adnoddau fel y mynnoch, fel eich bod yn gallu astudio fesul tipyn er mwyn cyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith a bywyd. Os byddwch yn dewis cwblhau pob un o flociau Cynllunio dyfodol gwell ac yn casglu bathodyn, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi sy'n cydnabod yr hyn rydych wedi'i gyflawni. Gallai hyn fod o ddefnydd i chi ddangos i'ch cyflogwr fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ennill eich bathodynnau, darllenwch Beth yw bathodyn?
Llywio'r wefan
Er mwyn dod o hyd i'ch ffordd o amgylch y cwrs hwn, cliciwch ar y dolenni. Mae'r hafan yn cynnwys dolenni i'r holl flociau, cwisiau ac adnoddau perthnasol. Pan fyddwch mewn bloc, bydd gan y ddewislen ar yr ochr chwith ddolenni i'r pynciau yn y bloc hwnnw a'i gwis cysylltiedig. Mae'r ddewislen hefyd yn cynnwys dolenni i adrannau eraill o Cynllunio dyfodol gwell a'r adran adnoddau.
Os nad ydych yn siŵr, symudwch eich llygoden dros un o'r dolenni yn y ddewislen a chlicio arni. Dyma'r ffordd hawsaf o symud o dudalen i dudalen. Gallwch hefyd glicio ar y ddolen 'Nesaf' ar ddiwedd pob tudalen o destun. Peidiwch â phoeni am dorri dolen neu ddifrodi'r dudalen we - mae'n amhosibl gwneud hynny. Rhowch gynnig arni cyn gynted â phosibl cyn i chi ddechrau astudio.