Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3 Paru'r gofynion

Unwaith y byddwch wedi dadansoddi'r hysbyseb, penderfynwch a yw o ddiddordeb i chi ac yna gofynnwch am fanylion pellach, fel y disgrifiad swydd a manyleb y person. Mae angen i chi geisio paru eich hun â gofynion y swydd er mwyn penderfynu a hoffech wneud cais amdani neu beidio.

Fel arfer, nodir y disgrifiad swydd a manyleb y person o dan benawdau fel 'Profiad', 'Cymwysterau' a 'Rhinweddau personol'. Dylent nodi'r hyn y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano, felly bydd angen i chi ystyried sut y gallwch ddangos eich bod yn bodloni'r gofynion.

Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 6 sy'n hysbysebu swydd wag ar gyfer swyddog codi arian ar gyfer Cymdeithas Gwarchod Natur yr Alban. Rhestrir y gofynion allweddol o ran profiad ac, yn yr ail golofn, nodir sut y byddai ymgeisydd yn dangos bod ganddo'r profiad angenrheidiol. Mae hon yn ffordd ddefnyddiol o fynd i'r afael ag unrhyw hysbyseb swydd, gan ei bod yn eich helpu i ganolbwyntio ar yr agweddau pwysig wrth i chi gwblhau eich ffurflen gais neu baratoi CV.

Tabl 6

Gofynion allweddol o ran profiadFy nhystiolaeth
Rhifedd

Wedi llunio cynigion neu gynlluniau cyllidebol o fewn canllawiau cytûn a gweithdrefnau i'w cyflwyno i gyrff mewnol ac allanol.

Yn gyfrifol am asesu gwariant posibl o ran gwerth am arian a chymryd camau priodol i sicrhau y cyflawnir hyn.

Sgiliau bysellfwrdd

Wedi dysgu sut i ddefnyddio pecynnau fy hun er mwyn ysgrifennu traethawd hir ar gyfer fy ngradd.

Wedi gweithio gyda phecynnau Windows ar gyfer nifer o swyddi gwyliau.

Gwybodaeth farchnata

Swydd dros dro (gyda chyfnod sefydlu a hyfforddiant llawn) yn ystod dau wyliau haf fel cyfwelydd ymchwil i'r farchnad.

Wedi cwblhau modiwl marchnata fel rhan o'm gradd (12 mis), yn ymdrin â nodi, rhagweld a bodloni gofynion cwsmeriaid yn broffidiol.

Y gallu i weithio ar eich pen eich hun

Fel myfyriwr rhan amser, rwyf wedi gweithio o fewn calendr astudio 32 wythnos ac wedi rheoli llwyth gwaith wythnosol yn cynnwys darllen, aseiniadau, tiwtorialau a gwaith adolygu ochr yn ochr â swydd rhan amser a gwaith gwirfoddol.

Rwyf wedi gweithio heb oruchwyliaeth fel trysorydd ar gyfer Cymdeithas Preswylwyr leol am ddwy flynedd ac wedi bodloni terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau bob amser.

Diddordeb mewn bywyd gwyllt

Rwyf wedi trefnu sawl cyfarfod rhwng yr RSPB a changen leol yr Ymgyrch i Ddiogelu Lloegr Wledig er mwyn edrych ar y dirywiad yn nifer y titw tomos las yn Swydd Gaer a mesurau ataliol.

Rwy'n godwr arian rhanbarthol ar gyfer BTCV a'r PDSA.

Rwy'n gwirfoddoli bob yn ail ddydd Sul yn yr ysbyty anifeiliaid lleol.

Rwy'n ddarllenydd brwd ac yn tanysgrifio i gylchgrawn cenedlaethol The Warbler ac yn cyfrannu ato'n rheolaidd.

Sgiliau cyflwynoRwyf wedi defnyddio PowerPoint i gyflwyno gwybodaeth am y dirywiad mewn poblogaethau adar lleol i grŵp cymunedol a chynghorwyr.

Gweithgaredd 7

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Dechreuwch drwy edrych ar hysbyseb neu ddisgrifiad swydd ar gyfer swydd sydd o ddiddordeb i chi. (Os nad oes swydd benodol gennych mewn golwg, gallech edrych mewn papur newydd cenedlaethol neu leol, neu ar wefan fel jobs.co.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .)

Beth bynnag a wnewch, gofynnwch y cwestiynau canlynol:

  • A yw'r gwaith wir o ddiddordeb i mi?
  • A yw'n cyfateb i'm personoliaeth, gwerthoedd, diddordebau ac anghenion?
  • Beth yw gofynion allweddol y swydd?
  • Pa sgiliau sydd eu hangen i'w cyflawni?
  • A allaf gyflwyno tystiolaeth o'r sgiliau hyn?

Gan ddefnyddio Tabl 6 fel canllaw, agorwch y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau a nodwch brif nodweddion a gofynion y swydd wag a ddewiswyd gennych. Ceisiwch gynhyrchu tystiolaeth sy'n dangos pa mor addas ydych yn erbyn pob pwynt.