Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Pa fath o waith hoffwn ei wneud?

Mae mynd ati i ystyried eich diddordebau a'r pethau sy'n apelio atoch neu sy'n rhoi pleser i chi yn ffordd dda o feddwl am y math o waith yr hoffech ei wneud. Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu i wneud hyn.

Gweithgaredd 3

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Cymerwch y prawf gyrfa [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i gael syniad o'r math o waith a allai fod yn addas i chi. Peidiwch ag anghofio ei gadw neu e-bostio'r ddolen barhaol i'ch canlyniadau, sydd ar waelod y dudalen canlyniadau.

Gadael sylw

Beth oedd eich barn am y canlyniadau? Oeddech chi'n cytuno â'ch math o bersonoliaeth? A gawsoch chi eich synnu gan rai o'r galwedigaethau a awgrymwyd – neu na chawsant eu hawgrymu? Bydd gennych rywfaint o brofiad neu wybodaeth am rai o'r galwedigaethau a restrwyd fwy na thebyg, ond ceisiwch ddychmygu p'un a fyddech yn hoffi gwneud y galwedigaethau eraill nad ydych mor gyfarwydd â nhw. Nid yw eich gallu na'ch cymwysterau yn bwysig ar y cam hwn – dim ond yr hyn rydych yn ei ffafrio – felly tybiwch y gallech gyflawni'r swydd pe baech wir eisiau ei gwneud. Nodwch unrhyw alwedigaethau a oedd yn apelio'n fawr atoch.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 2 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.