Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Beth yw fy mhrif gyflawniadau?

Yng Ngweithgaredd 4, gofynnwyd i chi nodi cyflawniadau penodol – pethau rydych yn eu hystyried yn llwyddiannau personol. Gallai'r rhain fod yn gysylltiedig â gwaith, cydberthnasau neu bethau rydych yn eu gwneud yn eich amser rhydd. Er enghraifft, gallai'r ffaith eich bod wedi llwyddo i basio pob un o'ch arholiadau y tro cyntaf ddangos eich bod yn fyfyriwr ardderchog; gallai'r ffaith eich bod wedi pasio eich prawf gyrru ar eich pumed ymgais ddweud llawer am eich dyfalbarhad a'ch penderfyniad. Cofiwch, mae a wnelo hyn â'r pethau rydych chi'n eu hystyried yn llwyddiant – wedi'r cyfan, chi sydd yn y sefyllfa orau i ddeall eich amgylchiadau personol a'r rhwystrau rydych wedi gorfod eu goresgyn er mwyn cyflawni nod penodol.

Gweithgaredd 5

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Edrychwch yn ôl ar y llinell bywyd a luniwyd gennych yng Ngweithgaredd 1, y rolau rydych wedi'u chwarae a'r profiadau rydych wedi'u cael. Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a nodwch y cyflawniadau rydych yn fwyaf balch ohonynt. Yna, meddyliwch am y wybodaeth a'r galluoedd a ddefnyddiwyd gennych er mwyn cyflawni'r hyn a wnaethoch. Efallai eich bod wedi gorfod dysgu techneg newydd, neu ddefnyddio neu ddatblygu sgil a oedd gennych eisoes.

Mae Tabl 1 yn enghraifft o dabl sydd wedi'i gwblhau.

Dechrau'r Tabl

Tabl 1 Enghraifft o'ch cyflawniadau a'r hyn y maent yn ei ddweud amdanoch chi
Yr hyn a gyflawnaisSgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau a ddefnyddiwyd/a oedd yn ofynnol
Pasio fy mhrawf gyrruRoedd yn rhaid i mi ddangos bod fy sgiliau gyrru yn cyrraedd y safon ofynnol. Roedd yn rhaid i mi fod yn hyderus yn fy ngallu i beidio â chynhyrfu o dan bwysau. Roedd yn rhaid i mi basio prawf i ddangos fy mod yn gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr.
Cymhwyso fel hyfforddwr tîm pêl-droed ieuenctidRoedd yn rhaid i mi ddysgu sgiliau hyfforddi (theori ac ymarferol). Mae'n rhaid i mi allu cyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc a'u rhieni. Wedi ennill cymhwyster cymorth cyntaf. Mae'n rhaid i mi hyrwyddo agwedd gadarnhaol ymhlith aelodau'r tîm ac arwain drwy esiampl.
Dod yn rhiantRoedd yn rhaid i mi ddysgu am yr hyn sydd ei angen ar fabanod a phlant bach i'w cadw'n hapus ac yn iach. Wedi dod i wybod am faeth da i blant a sut i ddelio â salwch cyffredin sy'n effeithio ar blant. Roedd angen i mi drefnu pethau'n well wrth gynllunio gwibdeithiau ac ati.
Codi £6000 i elusen ganser drwy drefnu arwerthiant elusennolRoedd yn rhaid i mi drefnu lleoliad. Wedi hyrwyddo'r digwyddiad a gwerthu tocynnau. Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio fy rhwydwaith teulu a ffrindiau i gasglu eitemau ar gyfer yr arwerthiant. Roedd yn rhaid i mi drefnu darpariaeth arlwyo ac adloniant ar gyfer y noson. Roedd yn rhaid i mi reoli'r gyllideb fel bod y digwyddiad yn codi'r swm a nodwyd fel targed. Defnyddiais sgiliau TG sylfaenol (Word, Excel a'r rhyngrwyd) i drefnu agweddau gwahanol ar y digwyddiad. Roedd yn rhaid i mi ddangos cymhelliant a phenderfyniad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant a sgiliau rhyngbersonol da er mwyn darbwyllo pobl i gymryd rhan a helpu allan.
Sicrhau lle yn y colegCefais fy niswyddo (o swydd heb ddyfodol) a phenderfynais fod angen i mi newid cyfeiriad fy ngyrfa. Cefais wybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd gan y ganolfan gwaith, fy llyfrgell leol a'r gwasanaeth gyrfaoedd. Penderfynais fy mod am weithio yn y diwydiant chwaraeon a hamdden a gwneud gyrfa ohono. Dysgais y byddai angen rhai cymwysterau arnaf er mwyn cychwyn ar y lefel gywir, felly ymchwiliais i gyrsiau perthnasol a oedd yn cael eu cynnal yn lleol a gwnes gais am le. Roedd yn rhaid i mi fynd i gyfweliad a darbwyllo'r cyfwelydd fy mod i'n wirioneddol ymrwymedig i'r cwrs (gwnaeth fy mhrofiad o hyfforddi tîm pêl-droed ieuenctid fy helpu yn hyn o beth). Roedd yn rhaid i mi ddangos fy mod i'n hyderus yn fy ngallu i wneud y cwrs a dangos sgiliau cyfathrebu da yn ystod y broses gwneud cais a'r cyfweliad.

Pa rai o'r sgiliau neu'r rhinweddau a restrwyd gennych allai gael eu defnyddio mewn sefyllfa waith? Mae'n debygol y byddwch wedi nodi rhai 'sgiliau trosglwyddadwy' (fel sgiliau gweinyddol/trefnu a chyfathrebu) a rhinweddau a fyddai'n ddefnyddiol mewn sawl math gwahanol o waith.

Sut gallaf roi tystiolaeth o'm cyflawniadau?

Nawr eich bod wedi nodi eich galluoedd, byddai'n ddefnyddiol i chi feddwl am y dystiolaeth y gallwch ei rhoi i'w cefnogi. Gofynnir yn aml ar ffurflen gais i chi roi enghraifft o adeg pan wnaethoch ddefnyddio sgil penodol yn effeithiol neu ddangos gwybodaeth mewn maes penodol. Os ydych yn honni bod gennych alluoedd penodol, disgwylir i chi roi tystiolaeth i ategu'r honiad hwnnw.

Wrth feddwl am dystiolaeth, gall fod yn ddefnyddiol i chi feddwl am ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys eich astudiaethau, gwaith (tâl neu ddi-dâl) a hobïau. Er mwyn rhoi strwythur i'r hyn rydych yn ei ysgrifennu ar ffurflen gais, gallech ddefnyddio'r dull STAR (Sefyllfa, Tasg, Camau gweithredu, Canlyniadau yn y Saesneg).

Gweithgaredd 6

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Dyma ddwy enghraifft, sy'n defnyddio un neu ddau o'r cyflawniadau a nodwyd yn Nhabl 1, i ddangos sut y gellir defnyddio dull STAR os gofynnir i chi am eich sgiliau gweinyddol/trefnu a chyfathrebu wrth wneud cais am swydd:

  • Gweinyddol/trefnu: Er mwyn codi arian i elusen ganser (sefyllfa), trefnais arwerthiant elusennol llwyddiannus (tasg): llogi'r lleoliad, llunio amserlen ar gyfer y digwyddiad, sicrhau rhoddion ar gyfer yr arwerthiant gan ffrindiau, teulu a busnesau lleol, rheoli'r gyllideb a gwerthu tocynnau (camau gweithredu). Llwyddwyd i godi mwy na £6000 yn erbyn targed o £5000 (canlyniad).
  • Cyfathrebu: Yn fy rôl fel hyfforddwr tîm pêl-droed ieuenctid (sefyllfa), mae'n rhaid i mi gyfathrebu'n effeithiol â grwpiau gwahanol o bobl; chwaraewyr, rhieni a swyddogion (tasg). Mae'n hanfodol fy mod yn nodi'n glir yr hyn rwy'n ei ddisgwyl gan y chwaraewyr o ran tactegau ac ymddygiad cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm. Mae'n rhaid i mi hefyd ddelio'n sensitif â dadleuon sy'n codi weithiau rhwng rhieni yng ngwres y funud a lleddfu sefyllfaoedd. Rwy'n cyfathrebu â swyddogion mewn ffordd broffesiynol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin â pharch camau gweithredu). Mae fy sgiliau cyfathrebu effeithiol yn golygu bod gemau yn cael eu chwarae yn yr ysbryd cywir ac mae'r ffaith mai fy nhîm i enillodd y tlws chwarae'n deg y tymor diwethaf yn dystiolaeth o hynny (canlyniad).

Nawr eich tro chi yw hi. Edrychwch yn ôl ar eich rhestr o gyflawniadau a'r galluoedd cysylltiedig. Meddyliwch sut y gallech ddefnyddio dull STAR i gyflwyno eich cyflawniadau ar ffurflen gais neu mewn cyfweliad pe bai gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o sgiliau trosglwyddadwy fel sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Cofiwch fod nodi a rhoi tystiolaeth o'ch galluoedd yn allweddol wrth farchnata eich hunan i gyflogwr.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 4 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.