Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Beth yw fy nghryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau?

Hyd yn hyn ym Mloc 1, rydych wedi dwyn ynghyd wybodaeth amdanoch chi eich hun a'ch galluoedd. Rydych wedi cael eich annog i feddwl am eich cryfderau a'ch gwendidau, ac ystyried y ffactorau cadarnhaol a negyddol yn eich sefyllfa ddomestig a gwaith a all roi cyfleoedd i chi neu fygwth eich cynlluniau yn y dyfodol. Gallwch ddefnyddio dadansoddiad SWOT (cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau) i grynhoi a dadansoddi'r wybodaeth hon, fel y dangosir yn Nhabl 2.

CryfderauGwendidau

Sgiliau rhyngbersonol da

Llawn cymhelliant

Gweithio'n dda mewn tîm

Trefnus - cwrdd â thargedau

Sgiliau arwain

Ceisio gwneud gormod ar unwaith

Ei chael hi'n eithaf anodd rheoli sefyllfaoedd ansicr

Gallu bod yn rhy benderfynol

CyfleoeddBygythiadau

Swydd dda

Ymrwymedig i astudio ymhellach

Cefnogaeth o'r gwaith ar gyfer hyfforddiant pellach

Teulu cefnogol

Cydbwyso gwaith a'r cartref

Marchnad anfasnachol ansicr, yn enwedig ym maes TG

Beth yw'r blaenoriaethau?

Mae fframwaith dadansoddi sylfaenol SWOT yn eich helpu i drefnu a blaenoriaethu ffactorau sy'n gysylltiedig â'r pwnc sy'n cael ei ddadansoddi – eich datblygiad personol a gyrfaol yn yr achos hwn. Fel y gwelwch wrth wneud y gweithgaredd nesaf, gallwch gynllunio i adeiladu ar eich cryfderau a delio â'ch gwendidau, a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa well i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a mynd i'r afael ag unrhyw fygythiadau.

Gweithgaredd 8

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Rhan 1

Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 2 ac yna cwblhewch y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   er mwyn trefnu eich syniadau ac ystyried yr hyn rydych yn ei wneud yn dda, y meysydd y mae angen i chi weithio arnynt, y posibiliadau sydd ar gael i chi a'r pethau a allai achosi anawsterau.

  • Cryfderau: beth rydych yn ei wneud yn dda? Beth yw eich cryfderau ym marn pobl eraill?
  • Gwendidau: pa feysydd sydd angen eu datblygu? Beth ddylech chi ei osgoi?
  • Cyfleoedd: pa bosibiliadau sydd ar gael i chi? Pa adnoddau sydd gennych? Pwy all eich helpu?
  • Bygythiadau: beth allai achosi anawsterau i chi? Pa gyfrifoldebau sydd gennych? Beth allai eich cyfyngu?

Gall y dechneg hon eich helpu i ganolbwyntio ar y prif faterion y mae angen i chi eu hystyried ac anelu at nod penodol cyrraeddadwy. Unwaith rydych wedi defnyddio'r dechneg hon i nodi'r hyn sy'n bosibl, gallwch ddechrau blaenoriaethu a phenderfynu ar yr hyn rydych am ei gyflawni gyntaf.

Efallai y byddwch yn darganfod bod eich cryfderau wedi'u grwpio mewn rhai meysydd yn hytrach na rhai eraill. Mae'n ddefnyddiol gwybod hyn, gan ei fod yn eich galluogi i nodi'r talentau sydd gennych ac i weld hefyd a oes bylchau rydych am weithio arnynt. Mae'n ddefnyddiol hefyd fel tystiolaeth pan fyddwch yn cwblhau CV neu'n mynd i gyfweliad.

Rhan 2

Fel y gallwch fod yn ei ddarganfod, mae'n ddefnyddiol myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol wrth i chi fynd ati i wneud penderfyniad a fydd yn cael effaith sylweddol ar eich bywyd. Ar ôl gweithio ers ffordd drwy Floc 1 o Cynllunio dyfodol gwell, efallai eich bod wedi dechrau dysgu mwy amdanoch chi eich hun. Efallai eich bod yn darganfod pethau sy'n ymwneud â'ch sgiliau a'ch galluoedd neu eich agweddau, eich uchelgeisiau, eich anghenion a'ch gwerthoedd. Efallai eich bod wedi dysgu mwy am eich personoliaeth, eich natur neu eich ffordd o ddelio â'r byd.

Cymerwch ychydig funudau i feddwl am yr hyn rydych wedi'i ddysgu a'i nodi. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i chi siarad am yr hyn rydych wedi'i ganfod gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo i roi barn onest i weld a yw'n cytuno â'ch hunanddelwedd eich hun.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 6 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu. Os byddwch yn casglu'r gyfres lawn o fathodynnau, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.