Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Ymwelwyr a Phreswylwyr

Mae’r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn rhyngweithio â thechnoleg ddigidol, a’i hystyried, yn destun gwaith ymchwil a thrafodaethau parhaus. Er enghraifft, amlygodd Prensky (2001) wahaniaeth rhwng ‘brodorion digidol’ a ‘mewnfudwyr digidol’. Dadleuodd fod y cenedlaethau iau wedi’u trwytho mewn technoleg wrth ymuno â byd addysg a bod ganddynt ddealltwriaeth wahanol o dechnoleg a pherthynas wahanol â hi na’r ‘mewnfudwyr digidol’, y mae’n rhaid iddynt ei dysgu. Roedd y syniad hwn yn boblogaidd a chafodd lawer o sylw. Fodd bynnag, nid oedd ei honiadau’n gwrthsefyll craffu. Er enghraifft, canfu Bennett et al. (2008) fod yr un faint o wahaniaeth o fewn defnydd o dechnoleg gan y cenedlaethau iau, yr ystyriwyd eu bod yn ‘frodorion digidol’, ag yr oedd rhyngddynt hwy â’r cenedlaethau hŷn o ‘fewnfudwyr digidol’. Yr hyn sy’n bwysig yw bod sgiliau technoleg y brodorion digidol yn aml yn gyfyngedig. Felly, mae’n ymddangos na ddylem dybio bod rhywun yn hyderus neu’n hyfedr wrth ddefnyddio technoleg ar sail ei oed.

Mae David White wedi aralleirio’r syniad hwn fel ‘Preswylwyr Digidol’ ac ‘Ymwelwyr Digidol’. Mae hyn yn disgrifio ystod o fathau o ymddygiad ar-lein, a gall yr un unigolyn weithredu fel Preswyliwr neu Ymwelydd wrth wneud gwahanol dasgau. Mae White a Le Cornu (2011) yn eu diffinio fel hyn:

‘Mae Ymwelwyr yn meddwl am y we fel rhywbeth tebyg i sied offer gardd anniben. Maen nhw wedi diffinio nod neu dasg ac yn mynd i mewn i’r sied i ddewis teclyn priodol i’w ddefnyddio i gyflawni eu nod. Ar ôl gorffen y dasg, maen nhw’n dychwelyd y teclyn i’r sied.

Mae Preswylwyr, ar y llaw arall, yn meddwl am y we fel lleoliad, efallai fel parc neu adeilad, lle mae clystyrau o ffrindiau a chydweithwyr y gallant gysylltu â nhw a rhannu gwybodaeth â nhw am eu bywyd a’u gwaith. Maen nhw’n byw rhan o’u bywydau ar-lein, mewn gwirionedd.’

Wrth wneud newidiadau i’ch ymarfer o ran addysgu ar-lein, ystyriwch i ba raddau y mae’r dechnoleg yn ffurfio eich datblygiadau, a cheisiwch ddadansoddi p’un a ydych yn gweithredu fel Preswyliwr neu Ymwelydd, neu’n disgwyl i ddysgwyr fod yn un neu’r llall.

Dylech hefyd fyfyrio ar unrhyw dybiaethau rydych yn eu gwneud ynglŷn â phwy fydd yn gallu ymgysylltu â dysgu ar-lein, a phwysigrwydd asesu a, lle y bo’r angen, datblygu sgiliau dysgwyr ac addysgu er mwyn ymgysylltu â dysgu ar-lein yn iawn.

Gweithgaredd 1 Meddwl am eich dysgwyr fel ‘Ymwelwyr a Phreswylwyr’

Timing: Caniatewch oddeutu 20 munud

Mae David White yn esbonio’r model Ymwelwyr a Phreswylwyr yn y fideo hwn o’r enw Ymwelwyr a Phreswylwyr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

 

Wrth i chi wylio’r fideo, gwnewch nodiadau ar ba elfennau y credwch y gallent fod yn berthnasol i’ch dysgwyr – pa weithgareddau ydych chi’n credu y byddent yn Breswylwyr ar eu cyfer a pha rai y byddent yn Ymwelwyr ar eu cyfer? A oes gennych gymysgedd yn eich dosbarth – ac, os felly, beth yw’r cyfrannau, yn fras? Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hon yn Gymraeg.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Lluniwyd y gweithgaredd hwn i’ch helpu i feddwl am sgiliau (ac anghenion) technolegol eich dysgwyr. Gallai’r modelau a ddisgrifir eich helpu i gategoreiddio’r dysgwyr mewn perthynas â gwahanol dasgau neu dechnolegau, a dylai hyn, yn ei dro, eich helpu i adnabod sut i fodloni eu hanghenion trwy eich addysgu ar-lein. Er enghraifft, fe allech ganfod bod rhai o’ch dysgwyr yn bresennol bob amser, ac y gallent fod yn gyfforddus iawn yn cyfuno gweithgareddau dysgu ar-lein ag arferion cyfryngau cymdeithasol sy’n rhan o’u bywyd pob dydd. Gallai eraill fynd ar-lein i wneud tasg benodol a osodir iddynt, ond ni fyddant yn credu bod angen iddynt fod wedi’u cysylltu bob amser. Mae angen i chi archwilio’ch disgwyliadau ynglŷn â’u hymddygiadau a bod yn hyblyg i’w hymagweddau.

Mae’r fideo’n pwysleisio pwysigrwydd peidio â gorsymleiddio tybiaethau ynglŷn â’r angen i addysgu sgiliau digidol i unrhyw gynulleidfa. Yn lle hynny, mae’n bwysig cydnabod y gallai fod angen i bob dysgwr ac athro/athrawes ddatblygu ei sgiliau er mwyn ymgysylltu’n llawn â dysgu ar-lein.