Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Dadansoddeg dysgu

Described image
Ffigur 2 Mae’n bwysig dadansoddi a myfyrio ar eich arfer addysgu

Mae nifer o wahanol ddulliau y gallwn eu defnyddio i werthuso addysgu ar-lein. Mae Oliver (2000) yn rhoi trosolwg manwl o rai o’r dulliau hyn, gan gynnwys:

  • grwpiau ffocws cydamserol ar-lein (Cousin a Deepwell, 1998)
  • holiaduron ar y we (Phelps a Reynolds, 1998; Taylor et al., 2000)
  • creu ardal drafod ac adborth ar-lein (Taylor et al., 2000).

Mae Oliver yn mynd ymlaen i grynhoi’r anawsterau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r dulliau uchod, y gellir eu rhannu’n ddwy brif thema: mae’r prosesau’n ‘anrheoledig’ i raddau helaeth a gall adborth fod yn ddiffocws neu’n ddienw; ac mae dulliau ar gyfer gwerthuso data o’r math hwn yn datblygu o hyd, gydag ymagweddau gwahanol yn arwain at gasgliadau gwahanol.

Mae dadansoddeg dysgu yn cynnig dewis amgen i’r dulliau hyn o gasglu adborth ac adroddiadau gan ddysgwyr. Yn lle hynny, mae’r ymagweddau hyn yn defnyddio’r data sy’n cael ei adael gan ddysgwyr ac athrawon wrth iddynt weithredu: eu ‘data olrhain’. Gall hyn ddweud wrthym pryd mae dysgwyr yn ymuno â chyrsiau, pryd a sut maent yn ymgysylltu â gweithgareddau ar-lein, yn edrych ar dudalennau, yn benthyca adnoddau o’r llyfrgell, yn gosod neu’n cwblhau gweithgareddau neu asesiadau, ac yn y blaen. Gall unrhyw ryngweithio â system ar y we gael ei olrhain, a gallai’r data hwn gael ei ddefnyddio i gael dealltwriaeth well o’r hyn y mae dysgwyr ac athrawon yn ei wneud. Mae’r defnydd helaeth o amgylcheddau dysgu rhithwir (VLEs) – a elwir hefyd yn systemau rheoli dysgu (LMSs) – yn golygu bod sefydliadau addysgol bellach yn ymdrin â setiau data cynyddol fawr. Bob dydd, mae eu systemau’n casglu mwy o ddata personol, gwybodaeth am systemau a chofnodion academaidd.

Mae dadansoddeg dysgu’n faes ymchwil arloesol, ond mae’n rhywbeth y mae llawer o addysgwyr a sefydliadau’n gwneud mwy a mwy o ddefnydd ohono trwy adnoddau, dangosfyrddau ac adroddiadau newydd, gan ddefnyddio data ar-lein i ymchwilio i weithgarwch defnyddwyr. Mae’n helpu i ateb cwestiynau fel:

  • Faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan / deunyddiau dysgu ar-lein?
  • Pryd maent hwy’n ymweld / rhyngweithio?
  • Pa ddolenni sy’n boblogaidd?
  • Faint o bobl sy’n cwblhau’r gweithgareddau?

Gallai ateb y cwestiynau a ofynnwyd uchod olygu dadansoddi setiau data mawr o amgylcheddau dysgu rhithwir a thechnolegau eraill a ddefnyddir ar gyfer dysgu. Gall dadansoddeg dysgu fynd un cam ymhellach trwy ddarparu dealltwriaeth y gellir gweithredu arni – mae’n cymryd data olrhain o leoliadau addysgol ac yn awgrymu, annog neu gychwyn camau gweithredu i wella dysgu ac addysgu. Efallai eich bod wedi clywed y term ‘data mawr’ yn cael ei ddefnyddio mewn trafodaethau ynglŷn â thechnoleg. Fe’i defnyddir mewn llawer o wahanol ffyrdd, ond, yn ei hanfod, mae’n golygu bod y set ddata’n fawr iawn a hefyd yn gymhleth iawn. Oherwydd hyn, efallai na fydd yn bosibl defnyddio ymagwedd syml, draddodiadol at brosesu a dadansoddi data. Gall archwilio ymddygiad niferoedd mawr o fyfyrwyr trwy ddadansoddeg dysgu syrthio i gategori data mawr yn rhwydd. Ond, yn yr un modd, fe allech edrych ar ymddygiad un dosbarth o fyfyrwyr ar hyd cwrs a chanfod bod modd cael dealltwriaeth ddefnyddiol heb dechnegau ac adnoddau datblygedig.

Er enghraifft, mewn trafodaeth fforwm ar-lein yn gysylltiedig â modiwl neu gwrs ar-lein penodol, gallai amgylchedd dysgu rhithwir gasglu ystod o ddata o’r fforwm, gan gynnwys:

  • pwy ymunodd â’r fforwm
  • pryd yr ymunodd
  • pa mor hir yr arhosodd
  • pa system weithredu yr oedd yn ei defnyddio
  • faint o eiriau yr ychwanegodd.

Gellid defnyddio unrhyw un o’r enghreifftiau hyn o ddata i greu dadansoddeg. Fodd bynnag, dim ond rhywfaint o’r wybodaeth ddadansoddeg hon fyddai’n ddefnyddiol i athrawon. Nid oes modd adnabod pa wybodaeth ddadansoddeg fydd yn fwyaf defnyddiol heb wybod rhywbeth am sut mae’r fforwm yn cael ei ddefnyddio. Dylai presenoldeb dyluniad dysgu ddangos diben y fforwm mewn perthynas â’r deilliannau dysgu. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws penderfynu pa wybodaeth ddadansoddeg i’w defnyddio.

Gweithgaredd 1 Beth allwn ni ei ddysgu o ddadansoddeg dysgu?

Timing: Caniatewch oddeutu 45 munud

Mae’r Athro Bart Rienties o’r Athrofa Technoleg Addysgol yn y Brifysgol Agored wedi arwain y ffordd mewn ymchwil ac ymarfer yn ymwneud â dadansoddeg dysgu. Dyma ei ddarlith agoriadol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar y pwnc ym mis Ionawr 2018. Mae’n cyflwyno rhai o’r canfyddiadau o waith ymchwil ar ddadansoddeg dysgu yn y Brifysgol Agored, a rhai o’r ffyrdd y mae hyn yn taflu goleuni ar ein harferion addysgu.

Gwyliwch y fideo ac, wrth i chi wneud hynny, gwnewch nodiadau ynglŷn â pha fath o wybodaeth dadansoddeg dysgu yr hoffech ei chael am eich arferion addysgu chi. Pan fyddwch yn symud i addysgu ar-lein, a oes unrhyw rai o’r enghreifftiau hyn o ddadansoddeg dysgu y gallech ddechrau eu casglu? Sut gallech wneud hyn?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

I rai athrawon, gallai gweithio mewn sefydliad olygu y gallant gael at ddata penodol trwy ddadansoddeg dysgu. I’r gwrthwyneb, efallai na fydd data o’r math hwn yn cael ei gasglu fel mater o drefn, neu efallai na fydd yn cael ei rannu gydag athrawon fel mater o drefn. Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i feddwl am yr hyn sydd ar gael i chi ar hyn o bryd, a’r hyn y gallech ei gasglu wrth addysgu ar-lein. Mae’r fideo’n rhoi syniad o’r hyn sy’n bosibl, ond hefyd bod llawer mwy o botensial i ddefnyddio dadansoddeg dysgu nag a welir mewn arferion prif ffrwd ar hyn o bryd, yn enwedig os byddwn yn gwella ein gallu i gasglu a dadansoddi data.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am ddadansoddeg dysgu, efallai yr hoffech ddarllen Ferguson (2012) a Long a Siemens (2011), yn ogystal â Chod Ymarfer Jisc ar gyfer Dadansoddeg Dysgu (Sclater a Bailey, 2015).