Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 5: Canfod, defnyddio a rhannu deunyddiau addysgol ar-lein

Cyflwyniad

Mae’r rhyngrwyd yn cynnwys toreth o ddelweddau, gwerslyfrau, fideos, gwrthrychau dysgu a mwy, y gallai athrawon eu cymryd a’u defnyddio wrth addysgu. Fodd bynnag, mae hyn yn creu cyfleoedd a heriau i athrawon ar-lein. Nid oes modd ailddefnyddio’r holl adnoddau hyn yn rhwydd o ganlyniad i gyfyngiadau hawlfraint neu eiddo deallusol.

Yr wythnos hon, byddwn yn archwilio’r pwnc hwn ac yn canolbwyntio’n benodol ar Adnoddau Addysgol Agored (OER). Deunyddiau ar-lein yw’r rhain a rannwyd gyda’r bwriad o alluogi pobl eraill i’w hailddefnyddio. Byddwch yn dysgu am drwyddedau Creative Commons, sy’n sail i OER, ac y gallwch eu cymhwyso i rannu’ch gwaith eich hun. Mae’r rhain yn egluro pa ganiatadau yn union sy’n bodoli i ailddefnyddio’r adnoddau a rennir, ac yn rhoi dewisiadau i chi ynglŷn â sut gall yr adnoddau a rannwyd gennych chi gael eu hailddefnyddio gan bobl eraill. Yn olaf yr wythnos hon, byddwch yn archwilio rhai storfeydd a ffyrdd eraill o ddod o hyd i OER i’w hailddefnyddio a’u haddasu at ddibenion gwahanol yn eich cyd-destun chi.

Myfyrdodau athrawon

Yr wythnos hon, rydym ni’n clywed gan Andy, sy’n trafod ei brofiadau â darganfod, defnyddio, a rhannu adnoddau addysgol agored fel rhan o arfer addysgu. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hon yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hon yn Gymraeg.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, fe ddylech allu:

  • diffinio Adnoddau Addysgol Agored a rhestru rhai enghreifftiau o’r hyn sydd dan sylw
  • deall trwyddedau Creative Commons a defnyddio’r rhain yn gywir
  • chwilio storfeydd OER a’r rhyngrwyd ehangach am ddeunydd y gallwch ei ailddefnyddio’n gyfreithlon wrth addysgu.