Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Mathemateg bob dydd 1

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor aml mae angen sgiliau mathemateg arnoch yn eich bywyd bob dydd? Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydoli chi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aeth yn angof.

Bydd gweithio trwy’r enghreifftiau a gweithgareddau rhyngweithiol y cwrs hwn yn eich helpu chi i redeg cartref neu symud ymlaen yn eich gyrfa, ymysg pethau eraill. Er mwyn cwblhau’r cwrs, bydd arnoch angen cyfrifiannell, llyfr nodiadau ac ysgrifbin.

Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol.

Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn.

Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg  343336yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 344337 a gyda chymorth caredig Dangoor Education 345338, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation.


Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Anna E. Crossland, Middlesborough College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a West Herts College.


Mathemateg bob dydd 1

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • deall problemau ymarferol, nad yw rhai ohonynt yn arferol
  • adnabod y sgiliau mathemateg sydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael â phroblem
  • defnyddio mathemateg mewn ffordd drefnus i ddod o hyd i'r datrysiad rydych yn ei geisio
  • defnyddio gweithdrefnau gwirio priodol ar bob cam
  • esbonio'r broses a ddefnyddioch i gael ateb a thynnu casgliadau syml ohoni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/05/2019

Wedi'i ddiweddaru: 15/04/2020

Hepgor Graddau y Cwrs