Sut y gwnes i gyrraedd yma?
Cyflwyniad
Pa mor dda rydych yn adnabod eich hun mewn gwirionedd? Bydd y bloc hwn yn eich helpu i feithrin eich hunanymwybyddiaeth ac ystyried eich bywyd drwy eich helpu i adolygu eich profiadau a nodi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ohonynt. Mae eich gorffennol wedi eich llywio drwy eich cefndir teuluol, addysg a hyfforddiant, gwaith a gweithgareddau hamdden. Rydych wedi meithrin gwybodaeth a sgiliau o'ch profiadau – mwy nag a dybiwch fwy na thebyg – a byddwch wedi datblygu nodweddion a galluoedd sy'n eich helpu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac ymateb i heriau gwahanol.
Mae'r gweithgareddau sy'n dilyn yn gofyn i chi feddwl am gyfres o gwestiynau i'ch helpu i adolygu eich sefyllfa bresennol. Maent yn cynnig ffyrdd gwahanol o ystyried sut berson ydych a'r hyn y gallwch ei wneud. Bob hyn a hyn, gofynnir i chi nodi eich atebion. Mae'r cwestiynau fel a ganlyn:
- Pwy ydw i?
- Pa rolau sydd gennyf mewn bywyd?
- Pa brofiadau dysgu rwyf wedi'u cael?
- Beth yw fy mhrif gyflawniadau?
- Pa ffactorau sy'n fy helpu ac yn fy llesteirio?
- Beth yw fy nghryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau?
Drwy ymgymryd â'r gweithgareddau hyn, dylech gael syniad mwy realistig o'r hyn rydych yn ei wybod, yr hyn y gallwch ei wneud a'ch cryfderau. Mewn geiriau eraill, byddwch yn dysgu mwy am eich galluoedd – eich gallu i wneud rhywbeth. Mae galluoedd yn cynnwys eich sgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau. Y gobaith yw y bydd y pethau y byddwch yn eu dysgu amdanoch chi eich hun yn rhoi mwy o hyder i chi. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dysgu bod ganddynt lawer mwy i'w gynnig nag yr oeddent yn ei dybio'n wreiddiol. Ar y cam hwn, dylech ganolbwyntio ar yr hyn rydych yn ei wybod a'r hyn y gallwch ei wneud, yn hytrach nag unrhyw wybodaeth a sgiliau nad ydych yn meddu arnynt. Cofiwch y gall fod gennych botensial mewn sawl maes nad yw wedi'i ddatblygu eto am ryw reswm neu'i gilydd.