Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Unedau mesur

Yn syml, uned mesur yw’r hyn rydych chi’n mesur rhywbeth ag ef a byddwch eisoes yn gyfarwydd â defnyddio centimetrau, metrau, cilogramau, gramau, litrau a mililitrau i fesur. Wrth fesur rhywbeth, mae angen ichi ddewis yr uned mesur briodol i’r eitem rydych yn ei mesur. Er enghraifft, fyddech chi ddim yn mesur hyd ystafell mewn milimetrau. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd byr isod a dewiswch yr uned fwyaf priodol ar gyfer pob enghraifft.

Gweithgaredd 1: Dewis yr uned

Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.

  1. Mililitrau (ml)

  2. Metrau (m)

  3. Cilogramau (kg)

  4. Gramau (g)

  5. Centimetrau (cm)

  6. Litrau (l)

  • a.Hyd sgrin cyfrifiadur

  • b.Pwysau wy

  • c.Pwysau ci

  • d.Maint y dŵr mewn pwll padlo

  • e.Hyd ffens yn yr ardd

  • f.Maint yr hylif mewn gwydryn

The correct answers are:
  • 1 = f
  • 2 = e
  • 3 = c
  • 4 = b
  • 5 = a
  • 6 = d

Gobeithio eich bod wedi cael y gweithgaredd yn weddol syml. Nesaf byddwch yn edrych yn fanylach ar rai unedau mesur a sut i drosi rhyngddynt.