Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Trosi unedau amser

Gallwch weld o’r diagram isod y gallwch, er mwyn trosi unedau amser, ddefnyddio dull tebyg iawn i’r un a ddefnyddioch wrth drosi unedau mesur eraill. Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth bach wrth weithio gydag amser.

Described image
Ffigur 19 Siart trosi amser

Dywedwn eich bod eisiau gweithio allan pa mor hir yw 245 o funudau mewn oriau. Mae’r diagram uchod yn dangos y dylech wneud: 245 ÷ 60 = 4.083. Nid yw’r ateb hwn yn arbennig o ddefnyddiol gan eich bod eisiau’r ateb yn fformat __ awr __ munud mewn gwirionedd. Oherwydd y ffaith nad yw amser yn gweithio mewn 10au, mae angen ichi wneud ychydig mwy o waith ar ôl cael eich ateb o 4.083.

Mae’n amlwg mai 4 awr a rhywfaint o funudau yw’r ateb.

Felly 4 awr yw 4 × 60 = 240 o funudau.

Gan eich bod eisiau gwybod pa mor hir yw 245 o funudau, rydych chi’n gwneud: 245 – 240 = 5 munud dros ben. Felly 245 o funudau yw 4 awr a 5 munud.

Mae’n broses debyg iawn os ydych eisiau mynd o funudau i eiliadau, dyweder. Cymerwn eich bod eisiau gwybod pa mor hir yw 5 munud ac 17 eiliad mewn eiliadau. Byddai 5 munud yn 5 × 60 = 300 o eiliadau. Yna mae gennych chi 17 eiliad arall i’w adio felly rydych chi’n gwneud: 300 + 17 = 317 o eiliadau.

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod i wneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n hyderus wrth drosi amserau.

Gweithgaredd 7: Trosi amserau

Troswch yr amserau canlynol:

  1. 6 awr and 35 munud = ___ o funudau.
  2. 85 munud  = ____ awr a ____ munud.
  3. 153 o eiliadau = ____ munud a ___ eiliad.
  4. 46 o ddyddiau = ___ wythnos a ____dydd.
  5. 3 munud a 40 eiliad = ____ o eiliadau.

Ateb

  1. 6 awr = 6 × 60 = 360 o funudau

    360 o funudau + 35 munud = 395 o funudau

  2. 85 o funudau ÷ 60 = 1.417 (wedi’i dalgrynnu i dri lle degol)

    1 awr = 60 munud.

    85 o funudau − 60 munud = 25 munud yn weddill

    Felly 85 o funudau = 1 awr a 25 munud

  3. 153 o eiliadau ÷ 60 = 2.55

    2 funud = 2 × 60 = 120 o eiliadau

    153 o eiliadau − 120 o eiliadau = 33 eiliad yn weddill

    Felly 153 o eiliadau = 2 funud a 33 eiliad

  4. 46 o ddyddiau ÷ 7 = 6.571 (wedi’i dalgrynnu i dri lle degol)

    6 wythnos = 6 × 7 = 42 o ddyddiau

    46 o ddyddiau − 42 o ddyddiau = 4 dydd yn weddill

    Felly 46 o ddyddiau = 6 wythnos a 4 dydd

  5. 3 munud = 3 × 60 = 180 o eiliadau

    180 o eiliadau + 40 eiliad = 220 o eiliadau

Gobeithio eich bod wedi cael y gweithgaredd yn weddol syml a’ch bod yn teimlo’n barod nawr i symud ymlaen i’r rhan nesaf o’r sesiwn ‘Unedau mesur’ – Cyflymder cyfartalog.