Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Cylchedd cylch

Efallai eich bod wedi sylwi bod term newydd wedi sleifio i mewn i deitl yr adran hon. Mae’r term cylchedd yn cyfeirio at y pellter o gwmpas y tu allan i gylch – ei berimedr. Mae perimedr a chylchedd cylch yn golygu’r un peth yn union, ond wrth gyfeirio at gylchoedd fel arfer byddech yn defnyddio’r term cylchedd yn hytrach na pherimedr.

Download this video clip.Video player: s3_1.3_circumference.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 3: Canfod cylchedd

  1. Rydych chi wedi gwneud teisen ac eisiau ei haddurno â rhuban.

    15 cm yw diamedr y deisen. Mae gennych ddarn o ruban sy’n 0.5 m o hyd. Fydd gennych chi ddigon o ruban i fynd o gwmpas y tu allan i’r deisen?

    Ffigur 11 Teisen siocled gron
  2. Yn ddiweddar rydych wedi gosod pwll yn eich gardd ac rydych yn ystyried rhoi ffens o’i gwmpas er diogelwch. 7.4 m yw radiws y pwll.

    Pa hyd o ffens fyddai arnoch ei angen i ffitio o gwmpas hyd llawn y pwll? Talgrynnwch eich ateb i fyny i’r metr llawn nesaf.

    Ffigur 12 Pwll crwn mewn gardd

Ateb

  1. d = 15 cm

    Gan ddefnyddio’r fformiwla C = πd

    •       C = 3.142 × 15
    •       C = 47.13 cm

    Gan fod arnoch angen 47.13 cm ac mae gennych ruban sy’n 0.5 m (50 cm) o hyd, oes, mae gennych ddigon o ruban i fynd o amgylch y gacen.

  2. Radiws = 7.4 m felly’r diamedr yw 7.4 × 2 = 14.8 m

    Gan ddefnyddio’r fformiwla C = πd

    C = 3.142 × 14.8

    C = 46.5016 m sy’n 47 m i’r metr llawn nesaf.

Nawr dylech deimlo’n hyderus wrth ganfod perimedr pob math o siapiau, gan gynnwys cylchoedd. Drwy gwblhau Gweithgaredd 3, rydych hefyd wedi atgoffa’ch hun ynghylch defnyddio fformiwlâu a thalgrynnu.

Mae’r rhan nesaf o’r adran hon yn edrych ar ganfod arwynebedd (gofod tu mewn) siâp neu ofod. Fel y dywedwyd o’r blaen, mae hyn yn anhygoel o ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd pob dydd fel gweithio allan faint o garped neu dyweirch i’w prynu, faint o roliau o bapur wal mae arnoch eu hangen neu faint o duniau o baent mae arnoch eu hangen i roi dwy got ar y wal.

Crynodeb

Yn yr adran hon rydych wedi dysgu:

  • mai’r pellter o gwmpas y tu allan i ofod neu siâp yw perimedr

  • sut i ganfod perimedr siapiau syml a mwy cymhleth

  • sut i ddefnyddio’r fformiwla ar gyfer canfod cylchedd cylch.