2.2 Arwynebedd siapiau cyfansawdd
Edrychwch ar y siâp isod: dyma enghraifft o siâp cyfansawdd. Er na allwch ganfod arwynebedd y siâp hwn fel y mae trwy ddefnyddio fformiwla fel y gwnaethoch o’r blaen, gallwch ei rannu’n ddau siâp sylfaenol (petryalau) ac yna defnyddio’r wybodaeth sydd gennych eisoes i weithio allan arwynebedd pob un o’r siapiau hyn.
Dylech allu gweld y gallwch rannu’r siâp hwn yn ddau betryal. Nid oes ots pa ffordd rydych yn ei rannu – fe gewch yr un ateb ar y diwedd.
Gallech ei rannu fel hyn:
Nawr mae gennych ddau betryal. I weithio allan arwynebedd petryal ①, rydych chi’n gwneud A = 9 × 5 = 45 cm2.
I weithio allan arwynebedd petryal ②, rydych chi’n gwneud A = 10 × 4 = 40 cm2.
Nawr bod gennych chi arwynebedd y ddau betryal, adiwch nhw at ei gilydd i ganfod arwynebedd y siâp cyfan:
- 45 + 40 = 85 cm2
Mae angen ichi fod yn ofalus eich bod yn defnyddio’r mesuriadau cywir ar gyfer hyd a lled pob petryal (y mesuriadau mewn coch). Yn yr enghraifft hon, nid oes angen yr hydoedd 15 cm a 5 cm (mewn du).
Fel arall, gallech rannu’r siâp fel hyn:
Unwaith eto, nawr mae gennych ddau betryal. I weithio allan arwynebedd petryal ①, rydych chi’n gwneud A = 5 × 5 = 25 cm2.
I weithio allan arwynebedd petryal ②, rydych chi’n gwneud A = 15 × 4 = 60 cm2.
Nawr bod gennych chi arwynebedd y ddau betryal, adiwch nhw at ei gilydd i ganfod arwynebedd y siâp cyfan:
- 25 + 60 = 85 cm2
Unwaith eto, mae angen ichi fod yn ofalus eich bod yn defnyddio’r mesuriadau cywir ar gyfer hyd a lled pob petryal (y mesuriadau mewn coch). Yn yr enghraifft hon, nid oes angen yr hydoedd 9 cm a 10 cm (mewn du).
Byddwch yn sylwi, waeth pa ffordd y dewiswch rannu’r siâp, eich bod yn cael yr un ateb sef 85 cm2.
Y ffordd orau ichi ymarfer y sgil hwn yw rhoi cynnig ar ychydig o enghreifftiau drosoch eich hun. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod ac yna gwiriwch eich atebion.
Gweithgaredd 5: Canfod arwynebedd siapiau cyfansawdd
Gweithiwch allan arwynebedd y siapiau isod.
Ateb
108 cm2 yw arwynebedd y siâp cyfan
Gan ddibynnu sut yr ydych wedi rhannu’r siâp gallech fod wedi gwneud:
- 6 × 8 = 48 cm2
- 15 × 4 = 60 cm2
- 48 + 60 = 108 cm2
neu:
- 12 × 6 = 72 cm2
- 9 × 4 = 36 cm2
- 72 + 36 = 108 cm2
Awgrym: Bydd angen ichi ganfod rhai hydoedd sydd ar goll ar y siâp hwn cyn y gallwch weithio allan yr arwynebedd.
Ateb
13 cm (9 cm + 4 cm) yw’r hyd fertigol sydd ar goll ac 8 cm (20 cm – 12 cm) yw’r hyd llorweddol. 212 cm2 yw arwynebedd y siâp cyfan.
Gan ddibynnu sut yr ydych wedi rhannu’r siâp gallech fod wedi gwneud:
- 13 × 8 = 104 cm2
- 12 × 9 = 108 cm2
- 104 + 108 = 212 cm2
neu:
- 20 × 9 = 180 cm2
- 4 × 8 = 32 cm2
- 180 + 32 = 212 cm2
Nawr eich bod yn gallu cyfrifo arwynebedd siapiau sylfaenol a chyfansawdd, dim ond un siâp arall y byddwch yn ymarfer canfod ei arwynebedd: cylchoedd. Yn yr un modd â chanfod perimedr cylch, bydd angen ichi ddefnyddio fformiwla sy’n cynnwys y llythyren Roeg π.