Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10 Dod â phopeth ynghyd

Llongyfarchiadau ar gwblhau Mathemateg Pob Dydd 2. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r profiad ac yn awr wedi’ch ysbrydoli i ddatblygu’ch sgiliau mathemateg ymhellach.

Drwy gydol y cwrs hwn, rydych wedi datblygu’ch sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • deall a defnyddio rhifau cyfan a rhifau degol, a deall rhifau negatif yng nghyd-destun arian a thymheredd
  • datrys problemau sy’n galw am ddefnyddio’r pedwar gweithrediad a thalgrynnu atebion i radd benodol o gywirdeb
  • deall a defnyddio cywertheddau rhwng ffracsiynau cyffredin, degolion a chanrannau
  • gweithio allan ffracsiynau syml a rhai mwy cymhleth, a chanrannau meintiau
  • cyfrifo newid canrannol
  • adio, tynnu, lluosi a rhannu degolion hyd at dri lle degol
  • datrys problemau cymhareb lle caiff y wybodaeth ei chyflwyno mewn ffyrdd gwahanol
  • deall trefn gweithrediadau a defnyddio hyn i weithio gyda fformiwlâu
  • datrys problemau sy’n galw am gyfrifiadau â mesuriadau cyffredin, gan gynnwys arian, amser, hyd, pwysau, cynhwysedd a thymheredd
  • trosi unedau mesur yn yr un system a’r rhai mewn systemau gwahanol
  • tynnu gwybodaeth o dablau, diagramau, siartiau a graffiau, a’i dehongli
  • casglu a chofnodi data arwahanol, a threfnu a chynrychioli gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd
  • canfod y cymedr, canolrif, modd ac amrediad ar gyfer setiau o ddata
  • defnyddio data i asesu tebygolrwydd canlyniad a’i fynegi mewn gwahanol ffurfiau
  • gweithio gydag arwynebedd, perimedr a chyfaint, lluniadau wrth raddfa a chynlluniau.