Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Siartiau cyfrif, tablau amlder a thaflenni casglu data

Ydych chi erioed wedi cael eich stopio ar y stryd neu pan oeddech yn siopa, a chael rhywun yn gofyn ichi am eich dewis o gwmni ffôn symudol, neu i flasu bwyd neu ddiod a dweud pa un sy’n well gennych? Os ydych chi, mae’n debyg bod y person oedd yn cynnal yr arolwg wedi defnyddio siart cyfrif i gasglu’r data.

Described image
Ffigur 2 Siart cyfrif hoff ffrwythau

Mae siartiau cyfrif yn gyfleus ar gyfer y math hwn o arolwg oherwydd gallwch nodi’r data wrth ichi fynd. Pan fydd yr holl ddata wedi’u casglu, gellir eu cyfrif yn hawdd oherwydd, fel y dangosir yn y llun uchod, nodir pob pumed darn o ddata fel llinell groeslinol. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfrif yn gyflym fesul pump i gael y cyfanswm. Yna gellir llenwi colofn amlder neu gyfanswm er mwyn ei gwneud yn haws i weithio gyda’r data.

Edrychwch ar yr enghraifft isod:

Tabl 1
Dull teithio Nifer Amlder
Cerdded 9
Beic 3
Car 6
Bws 12
CYFANSWM 30

Gallwch weld pob categori a’i gyfanswm, neu amlder, yn glir. Er bod hon yn enghraifft syml iawn, mae’n dangos diben siart cyfrif yn dda. Yn aml gellir troi siart cyfrif yn siart bar i gael cynrychioliad mwy gweledol o’r data, ond mae siartiau cyfrif yn ddefnyddiol ar gyfer casglu’r data.

Gallwch hefyd ddefnyddio siart cyfrif i gasglu data wedi’u grwpio. Er enghraifft, os oeddech eisiau gwneud arolwg o oedrannau cleientiaid neu gwsmeriaid, ni fyddech yn gofyn am oedran unigol pob person, byddech yn gofyn iddyn nhw gofnodi ym mha grŵp oedran yr oeddent. Os oeddech eisiau creu siart cyfrif ar gyfer y data hyn, efallai y byddai’n edrych yn debyg i’r isod:

Tabl 2
Oedran Nifer Amlder
0–9
10–19
20–29
30–39
40–49
50–59
60–69
70+

Noder nad yw’r grwpiau oedran yn gorgyffwrdd; camgymeriad cyffredin yw creu’r grwpiau 0-10, 10-20 ac ati. Mae hyn yn anghywir – ym mha grŵp fyddech chi’n nodi rhywun 10 oed?

Gellir gweld enghraifft fwy cymhleth o siart cyfrif isod. Yn yr enghraifft hon, gallwch weld bod y wybodaeth a gasglwyd wedi’i rhannu i fwy nag un categori. Weithiau, gelwir y rhain yn daflenni crynhoi data neu dablau casglu data. Nid oes ots lle caiff pob categori ei osod ar y siart, ar yr amod bod pob agwedd yn cael ei chynnwys.

Tabl 3
llai na 6 taith 6 taith neu fwy
o dan 26 oed 26 oed a throso dd o dan 26 oed 26 oed a throsodd
gwryw (1) (0) (3) (6)
benyw (3) (0) (1) (4)

Os ydych chi eisiau dylunio taflen gasglu data neu grynhoi data, yn gyntaf mae angen ichi wybod pa gategorïau o wybodaeth rydych yn chwilio amdanynt. Dewch inni edrych ar enghraifft o sut y byddech yn gwneud hyn.

Dychmygwch eich bod yn gweithio mewn gwesty ac eisiau casglu data am eich gwesteion. Rydych chi eisiau gwybod y wybodaeth ganlynol:

  • Gradd a roddir gan y gwestai: ardderchog, da neu wael.
  • Hyd yr arhosiad: llai na 5 diwrnod, 5 diwrnod neu fwy.
  • Lleoliad: o’r Deyrnas Unedig neu o dramor.

Gallai taflen crynhoi data ar gyfer y wybodaeth hon edrych fel hyn:

Tabl 4
Aros am lai na 5 diwrnod Aros am 5 diwrnod neu fwy
Ardderchog Da Gwael Ardderchog Da Gwael
O’r Deyrnas Unedig
O dramor

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod a cheisiwch greu taflen casglu data drosoch eich hun.

Gweithgaredd 2: Casglu data

Rydych yn gweithio mewn canolfan gymunedol ac eisiau casglu data am y bobl sy’n defnyddio’ch gwasanaethau. Hoffech wybod y canlynol:

  • a ydyn nhw’n wryw neu’n fenyw
  • a ydyn nhw’n defnyddio’r ganolfan yn ystod y dydd neu gyda’r nos
  • ym mha gategori oedran maen nhw: 0-25, 26-50, 51+.

Dyluniwch daflen casglu gwybodaeth addas i gasglu’r wybodaeth.

Ateb

Dylai’ch siart edrych rhywbeth fel yr enghraifft isod. Efallai y byddwch wedi dewis rhoi’r categorïau mewn rhesi a cholofnau gwahanol, sy’n hollol iawn. Cyn belled â bod y daflen casglu data’n cynnwys yr holl opsiynau, bydd hi’n gywir.

Tabl 5
Ymwelydd yn ystod y dydd Ymwelydd gyda’r nos
0–25 26–50 51+ 0–25 26–50 51+
Gwryw
Benyw

Nawr eich bod yn gwybod y gwahanol ffyrdd o gasglu’ch data, mae’n bryd edrych ar sut i roi’r wybodaeth hon mewn gwahanol siartiau a graffiau.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • edrych ar y gwahaniaethau rhwng siartiau cyfrif, tablau amlder a thaflenni casglu data, a deall eu defnyddioldeb o ran casglu data.