Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Nodweddion siart bar

Pa fath bynnag o siart bar rydych yn ei luniadu, mae yna nodweddion penodol y dylai pob siart fod â nhw. Edrychwch ar y diagram isod i ddysgu beth ydynt.

Described image
Ffigur 6 Nodweddion siart bar

Os ydych yn lluniadu graff neu siart â llaw, bydd angen ichi ddefnyddio papur graff. Fodd bynnag, mae’n llawer haws a mwy cyfleus i greu graff ar gyfrifiadur. Bydd y cyfrifiadur yn dewis graddfa’r graff ac yn ei blotio’n gywir. Y cyfan mae’n rhaid ichi ei wneud yw sicrhau eich bod yn dewis y math gorau o graff ar gyfer eich data a chofio ei labelu’n glir ac yn briodol.

Gweithgaredd 3: Lluniadu siart bar

  1. Lluniadwch siart bar i gynrychioli’r wybodaeth a ddangosir yn y tabl isod. Cewch luniadu’r graff â llaw neu ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i’w greu.

Tabl 6 Defnyddwyr canolfan hamdden
Ionawr Chwefror Mawrth Ebrill
Gwryw 175 154 120 165
Benyw 205 178 135 148
  • Cofiwch ddewis graddfa addas i’ch siart a sicrhau bod ganddo deitl a labeli ar yr echelinau. Bydd angen allwedd arno hefyd.

Ateb

  1. Dylai’ch siart bar edrych rhywbeth fel yr enghraifft isod. Efallai y byddwch wedi dewis defnyddio graddfa rifol ychydig yn wahanol, ond dylai’ch siart fod â’r nodweddion canlynol:

    • teitl

    • labeli ar yr echelin lorweddol a’r echelin fertigol

    • barrau wedi’u labelu ag enw’r mis

    • barrau wedi’u tynnu’n gywir a phob bar yr un lled

    • graddfa rifol ar yr echelin fertigol

    • allwedd i ddangos pa farrau sy’n cynrychioli gwrywod a pha rai sy’n cynrychioli benywod.

    Described image
    Ffigur 7 Siart bar yn dangos niferoedd defnyddwyr canolfan hamdden
  1. Lluniadwch siart bar i gynrychioli’r data a ddangosir yn y tabl isod. Mae’r rhifau llawer yn fwy na’r rhai yn yr enghraifft flaenorol, felly os ydych yn lluniadu’ch siart â llaw, bydd angen ichi ystyried eich graddfa’n ofalus.

Tabl 7 Gwerthiannau bwyd mewn gŵyl gerddoriaeth haf dros dridiau

Mathau o fwyd

Nifer y dognau a werthwyd

Brechdanau a baguettes 37 000
Byrgyrs 25 000
Pysgod a sglodion 16 000
Conau hufen iâ 12 000
Arall 8 500

Ateb

  1. Dylai’ch siart bar edrych rhywbeth fel yr enghraifft isod.

    Nodwch y defnyddir llinellau grid i’ch helpu i ddehongli’r data yn y graff. Nodwch hefyd bod y raddfa a’r label ar yr echelinau fertigol (gweler yr ail enghraifft ar ochr dde’r graff) ychydig yn wahanol. Mae’r ddau fformat wedi’u dangos yma fel enghreifftiau gwahanol a byddai’r naill neu’r llall yn dderbyniol.

    Described image
    Ffigur 8 Siart bar yn dangos gwerthiannau bwyd mewn gŵyl gerddoriaeth dros dridiau

    Dylai’ch siart bar fod yn debyg i’r uchod ac yn cynnwys:

    • teitl

    • barrau wedi’u labelu â’r mathau bwyd

    • barrau wedi’u labelu â’r mathau bwyd

    • barrau yr un lled wedi’u tynnu’n gywir

    • graddfa rifol ar yr echelin fertigol, sy’n codi mewn cyfyngau rheolaidd.

Nawr eich bod yn deall nodweddion siartiau bar ac yn gallu eu lluniadu, dewch inni edrych ar sut i ddehongli’r wybodaeth a ddangosant.