Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Dehongli siartiau bar

Os gwelwch siart bar sy’n dangos gwybodaeth ichi, mae’n ddefnyddiol gwybod sut i’w dehongli. Y peth pwysicaf y mae angen ichi ei ddarllen i ddeall siart bar yn gywir yw’r raddfa ar yr echelin fertigol.

Fel yr ydych yn gwybod o luniadu siartiau bar eich hun, gall y rhifau ar yr echelin fertigol godi mewn camau o unrhyw faint. Felly mae angen ichi weithio allan beth yw gwerth y rhaniadau llai cyn y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth. Y ffordd orau ichi ddysgu yw trwy ymarfer edrych ar, a darllen o, siartiau bar gwahanol.

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod.

Gweithgaredd 4: Dehongli siart bar

Mae’r siart isod yn dangos y ffigurau gwylio dyddiol cyfartalog ar gyfer sianelau Sky Cinema yn ystod y cyfnod 11-17 Mawrth 2019. Atebwch y cwestiynau sy’n dilyn. Dewiswch yr ateb cywir ym mhob achos.

Described image
Ffigur 9 Ffigurau gwylio cyfartalog Sky Cinema (11–17 Mawrth 2019)
  1. P’un oedd y sianel fwyaf poblogaidd?

    • a.Ymladd ac Antur
    • b.Disney
    • c.Teulu

Ateb

  • a.Ymladd ac Antur
  1. Tua faint o wylwyr a wyliodd sianel Disney Sky Cinema?

    • a.250 o wylwyr
    • b.25 000 o wylwyr
    • c.250 000 o wylwyr

Ateb

  • c.250 000 o wylwyr – nodwch fod label yr echelin fertigol yn dweud bod y ffigurau mewn 000 (miloedd) sy’n golygu bod y raddfa’n codi mewn cyfyngau o 20 000. Mae hyn yn golygu bod bar Disney yn mynd i fyny at 250 000.

  1. Tua faint yn fwy o wylwyr a wyliodd sianel Ffuglen Wyddonol ac Arswyd Sky Cinema na sianel Drama a Rhamant Sky Cinema?

    • a.100 000

    • b.80 000

    • c.100

Ateb

  • a.100 000 – cafodd y sianel Ffuglen Wyddonol ac Arswyd tua 175 000 o wylwyr a chafodd sianel Drama a Rhamant tua 75 000 o wylwyr, gan wneud gwahaniaeth o 100 000 o wylwyr.

Gweithgaredd 5: Dehongli siart bar cymharol

Mae’r siart isod yn dangos prisiau tai cyfartalog yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer 2017 a 2018. Atebwch y cwestiynau sy’n dilyn.

Described image
Ffigur 10 Pris tŷ cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ym mis Ionawr
  1. Pa awdurdod lleol a welodd y cynnydd mwyaf mewn prisiau tai cyfartalog rhwng 2017 a 2018?

Ateb

  • Ynys Môn
  1. P’un o’r canlynol yw’r amcangyfrif gorau o’r gwahaniaeth rhwng prisiau tai cyfartalog yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn 2018?

    • a.£50 000
    • b.£60 000
    • c.£120 000

Ateb

  • b.£60 000 - nodwch fod y raddfa’n codi mewn cyfyngau o £10 000. Tua £200 000 oedd pris tŷ cyfartalog yng Nghaerdydd yn 2018, o gymharu â phris tŷ cyfartalog yn Abertawe o tua £140 000, sy’n gwneud gwahaniaeth o £60 000.

Gweithgaredd 6: Dehongli siart bar cydrannol

Mae’r siart canlynol yn dangos nifer y cofrestriadau ar gyfer cyrsiau coleg gwahanol. Atebwch y cwestiynau sy’n dilyn.

Described image
Ffigur 11 Cofrestriadau cyrsiau coleg
  1. Pa gwrs a gafodd y nifer leiaf o gofrestriadau rhan amser?

Ateb

  • Teithio a Thwristiaeth
  1. Pa gwrs a gafodd mwy o gofrestriadau rhan amser nag amser llawn?

Ateb

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  1. Faint o gofrestriadau amser llawn a gafwyd i’r cwrs Gwallt a Harddwch?

Ateb

  • 49.

    Nodwch fod y raddfa’n codi fesul 2 a bod cydran amser llawn bar Gwallt a Harddwch yn cyrraedd hanner ffordd rhwng 48 a 50.

  1. Faint o gofrestriadau rhan amser a gafodd y cwrs Gweinyddu Busnes?

Ateb

  • 7
  1. Tua faint o gofrestriadau cyrsiau a gafwyd i gyd?

Ateb

  • 197 – mae angen ichi gyfrif cyfanswm cofrestriadau’r holl gyrsiau ar wahân ac yna eu hadio at ei gilydd:

    • Peintio ac Addurno = 20

    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol = 40

    • Teithio a Thwristiaeth = 12

    • Gweinyddu Busnes = 36

    • Gwaith Coed = 24

    • Gwallt a Harddwch = 65

    20 + 40 + 12 + 36 + 24 + 65 = 197

Nawr dylech deimlo’n hyderus i luniadu ac i ddehongli siartiau bar, felly mae’n bryd symud ymlaen i edrych ar fath arall o siart sef siartiau cylch.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:

  • am wahanol nodweddion siart bar
  • sut i ddefnyddio siartiau bar sengl a chymharol i gyflwyno data
  • sut i ddehongli’r wybodaeth a ddangosir ar y gwahanol fathau o siartiau bar.