Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Dehongli siartiau cylch

Dychmygwch eich bod wedi cael y siart cylch isod. Mae’r siart yn dangos oedrannau myfyrwyr sy’n cystadlu mewn digwyddiad athletau.

Described image
Ffigur 16 Oedrannau myfyrwyr sy’n cystadlu mewn digwyddiad athletau

Mae dau fath posibl o wybodaeth y gallech eu cael. Naill ai cyfanswm nifer y myfyrwyr oedd yn y digwyddiad, neu nifer y myfyrwyr yn un o’r categorïau oedran.

Enghraifft: Darllen siart cylch 1

Dewch inni ddweud y cawsoch wybod bod 72 o bobl wedi mynd i’r gystadleuaeth. Gan eich bod yn gwybod bod 360˚ wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y 72 o bobl, rydych yn gwneud 360 ÷ 72 = 5˚ y person.

Unwaith y byddwch yn gwybod hyn, os oeddech eisiau gwybod faint o fyfyrwyr 16 oed a gymerodd ran, byddech yn edrych ar nifer y graddau ar y siart ar gyfer y rhai 16 oed, sef 60˚ yn yr enghraifft hon.

Yna rydych yn gwneud 60 ÷ 5 = 12 o fyfyrwyr.

Os oeddech eisiau gweithio allan nifer y rhai 15 oed, byddai angen ichi weithio allan yr ongl sydd ar goll yn gyntaf. Rydych yn gwybod y bydd yr onglau’n adio i fyny i 360˚, felly gwnewch:

360 – 115 – 90 – 60 = 95˚

Nawr gwnewch yr un peth ag o’r blaen sef 95 ÷ 5 = 19 o fyfyrwyr 15 oed.

Enghraifft: Darllen siart cylch 2

Gan ddefnyddio’r un siart cylch, dewch inni ddweud mai’r cyfan y cawsoch wybod oedd bod 23 o fyfyrwyr 14 oed wedi cymryd rhan.

Gallwch weld mai 115˚ yw’r ongl ar gyfer y rhai 14 oed a chawsoch wybod bod hyn yn cynrychioli 23 o fyfyrwyr.

I ganfod faint o raddau a roddir i bob myfyriwr, rydych yn gwneud 115 ÷ 23 = 5˚ y myfyriwr.

Pan fyddwch yn gwybod hyn, gallwch ganfod faint o fyfyrwyr a gynrychiolir gan bob rhan arall yn yr un ffordd ag y gwnaethom yn enghraifft 1. Er enghraifft, mae gan y rhai 13 oed ongl o 90˚.

I ganfod faint o fyfyrwyr sy’n 13 oed, rydych yn gwneud 90 ÷ 5 = 18 o fyfyrwyr.

Mae siartiau cylch yn debyg iawn i gymarebau. Mewn cwestiynau cymhareb, rydych yn ceisio canfod gwerth 1 rhan; mewn cwestiynau siart cylch, rydych yn ceisio canfod faint o raddau sy’n cynrychioli 1 person (neu beth bynnag mae’r siart cylch yn ei gynrychioli).

Yn ogystal â’r cysylltiad agos â chymhareb, gyda siartiau cylch mae angen defnyddio’ch sgiliau ffracsiynau hefyd. Er enghraifft, os gofynnwyd ichi ba ffracsiwn o’r myfyrwyr oedd yn 16 oed, gallwch ei ddangos fel 60 divided by 360, gan fod y rhai 16 oed yn 60 o raddau allan o’r cyfanswm o 360 o raddau.

Fodd bynnag, gan ddefnyddio’ch sgiliau ffracsiynau, gellir symleiddio’r ffracsiwn 60 divided by 360 i one divided by six.

Mae’n bryd ichi ymarfer eich sgiliau dehongli siartiau cylch. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod ac yna gwirio’ch atebion yn erbyn yr adborth a roddwyd.

Gweithgaredd 8: Dehongli siartiau cylch

  1. Mae’r siart cylch isod yn dangos faint o amser a dreuliodd garddwr yn gwneud gweithgareddau amrywiol dros gyfnod o fis.

    Described image
    Ffigur 17 Amser a dreuliwyd yn gwneud gweithgareddau garddio
    • a.Pa ffracsiwn o’r amser a dreuliwyd yn plannu? Rhowch eich ateb yn ei ffurf symlaf.
    • b.Treuliwyd 5 awr yn palu. Faint o amser a dreuliwyd yn torri’r glaswellt?

Ateb

  1.  

    • a.Plannu = 80 divided by 360 = two divided by nine yn ei ffurf symlaf.

    • b.100˚ yw’r palu, ac rydych yn gwybod bod hynny’n 5 awr.

      100˚ ÷ 5 = 20˚ ar gyfer pob awr.

      Gan fod gan dorri’r glaswellt ongl o 40˚, rydych yn gwneud 40 ÷ 20 = 2 awr yn torri’r glaswellt.

  1. Gofynnwyd i 120 o oedolion oedd yn cymryd rhan mewn cwrs ar-lein a oedden nhw’n teimlo bod digon o weithgareddau iddynt eu cwblhau drwy gydol y cwrs.

    Dangosir y canlyniadau yn y siart cylch isod.

    Described image
    Ffigur 18 Siart cylch o safbwyntiau am gwrs ar-lein
    • a.pa ffracsiwn o’r oedolion oedd yn meddwl bod gormod o weithgareddau? Rhowch eich ateb yn ei ffurf symlaf.
    • b.faint o oedolion oedd yn meddwl bod digon o weithgareddau?

Ateb

  1.  

    • a.Gormod = 105 divided by 360 = italic seven divided by 24 yn ei ffurf symlaf.

    • b.Rydych yn gwybod bod 120 o oedolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg. I ganfod faint o raddau sy’n cynrychioli pob oedolyn, rydych yn gwneud 360 ÷ 120 = 3 gradd y person.

      Nesaf mae angen ichi wybod yr ongl ar gyfer y rhai a ddywedodd bod digon o weithgareddau. Ar gyfer hyn, rydych yn gwneud:

       360 – 105 – 60 – 45 = 150˚

      Nawr eich bod yn gwybod hyn, gallwch wneud:

       150 ÷ 3 = 50 o oedolion oedd yn meddwl bod digon o weithgareddau.

Da iawn! Nawr gallwch luniadu a dehongli siartiau bar a siartiau cylch. Mae’r ddau yn ffyrdd da o gynrychioli data arwahanol. Yn y rhan nesaf o’r sesiwn hwn, byddwch yn dysgu sut i luniadu a dehongli graffiau llinell.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:

  • pa fathau o wybodaeth y gellir eu cynrychioli’n effeithiol ar siart cylch
  • sut i ddefnyddio a dehongli siart cylch
  • sut i luniadu siart cylch cywir pan roddir set ddata ichi.