Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9 Crynodeb o Sesiwn 4

Da iawn! Erbyn hyn rydych wedi cwblhau ‘Trin data’, y pedwerydd sesiwn a’r un olaf yn y cwrs. Os ydych wedi nodi unrhyw feysydd mae angen ichi weithio arnynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio’n ôl at yr adran hon o’r cwrs.

Erbyn hyn dylech chi fod yn gallu:

  • adnabod gwahanol fathau o ddata
  • creu a defnyddio siartiau cyfrif, tablau amlder a thaflenni casglu data i gofnodi gwybodaeth
  • lluniadu a dehongli siartiau bar, siartiau cylch a graffiau llinell
  • deall bod gwahanol fathau o gyfartaledd a gallu cyfrifo pob math
  • deall bod tebygolrwydd yn ymwneud a pha mor debygol yw hi y bydd digwyddiad yn digwydd, a’r ffyrdd gwahanol o’i fynegi.

Bydd yr holl sgiliau a restrwyd uchod yn eich helpu chi i archebu gwyliau, cyllidebu, darllen y newyddion neu ddadansoddi data yn y gwaith.

Erbyn hyn rydych yn barod i roi prawf ar y wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi’u dysgu ym mhob adran yn y cwis diwedd cwrs (cwis bathodyn gorfodol Sesiwn 4). Pob lwc!