Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Goresgyn anawsterau

Mae sawl ffordd o gael help i oresgyn anawsterau a dod o hyd i'r ffordd orau o gyflawni eich nodau. Gallwch fynd i wefannau a chwilio am yr help sydd ei angen arnoch ar-lein, neu gallwch gael cyngor wyneb yn wyneb gan rai o'r sefydliadau a restrir yn yr adran Rhagor o wybodaeth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   ar ddiwedd y cwrs.

Edrychwch ar yr help y mae Christine yn ei gael er mwyn goresgyn anawsterau.

Fy ffynonellau o gymorth

  • NEWCIS (canolfan gofalwyr leol)
  • Rhieni - cyllid
  • Gŵr - dealltwriaeth a chefnogaeth
  • Cwrs busnes - os byddaf yn sefydlu stondin neu siop grefftau
  • Trefnydd y digwyddiad crefftau
  • FLVC – (cyngor gwirfoddol lleol)
  • Fitfish – (encil)

Dywed Christine fod ei gwasanaeth gofalwyr lleol ac aelodau o'r teulu yn ffynonellau pwysig o gymorth, yn ogystal â chyfleoedd eraill a fyddai'n helpu gan gynnwys dilyn cwrs astudio a gwirfoddoli.

Gweithgaredd 4.4 Help i oresgyn anawsterau

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y gweithgaredd hwn.

Rydych wedi gweld y ffynonellau o gymorth a nodwyd gan Christine. Nawr meddyliwch am eich amgylchiadau chi. Os ydych yn credu y bydd angen help arnoch:

  • Dysgwch pwy all eich helpu.
  • Siaradwch am eich syniadau a'ch cynlluniau a'u trafod â'r bobl bwysig yn eich bywyd.
  • Edrychwch ar y rhestr o sefydliadau a roddir yn yr adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs.
  • Nodwch fanylion unrhyw sefydliad rydych yn ystyried gofyn iddo am help.

Defnyddiwch daflen Gweithgaredd 4.4 i fyfyrio ar bwy y gallwch ofyn iddynt neu ble y gallwch droi am help a'u rhestru

NEU

Ewch i Weithgaredd 4.4 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp, gallwch drafod hyn gyda thiwtor y grŵp ac eraill yn eich grŵp.