Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechreuwch y cwrs yma am ddim nawr. Crëwch gofrif a mewngofnodwch. Ar ôl o chi gwblhau cwrs byddwch yn derbyn datganiad cyfranogiad neu fathodyn digidol os oes un ar gael.

Cwrs am ddim

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Astudiaethau achos

Gwrandewch ar y bobl ganlynol yn sôn am eu profiadau o ofalu, eu rolau a'u cyfrifoldebau a sut maent yn teimlo am eu sefyllfa bresennol.

Os hoffech ddarllen geiriau siaradwr wrth wrando, cliciwch ar y ddolen 'Trawsgrifiad' o dan y chwaraewr.

Alana

Download this video clip.Video player: cym_s1_alana_main_case_352x288.mp4
Alana
Fy enw i yw Alana. Dwi'n 17 oed ac yn gofalu am fy mam a'm chwaer. Fel rhan o'm rôl ofalu, dwi weithiau'n coginio, yn glanhau, yn egluro'r hyn y mae'r meddygon wedi'i ddweud ac, os nad ydw i'n deall yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud, yna mae'n rhaid i mi fynd i ffwrdd a cheisio symleiddio hynny. Dwi'n gwneud 'DIY' a llawer o bethau eraill. Dwi'n mynd ati i ddatrys problemau bwlio, sefyllfaoedd...dwi'n disgyblu fy chwaer fach gan ei bod hi'n gwthio'r ffiniau gyda fy mam. Llawer o bethau. Mae fy chwaer yn 11 oed. Mae ganddi ddyslecsia a llawer o anawsterau dysgu. Mae'n ei chael hi'n anodd magu hyder a gwneud gwaith cartref a phethau felly. Mae wedi bod yn her dros y blynyddoedd. Fe ddechreuais i ofalu amdanyn nhw pan oedd mam a dad yn byw gyda'i gilydd oherwydd roedd gan dad lawer o anawsterau hefyd. Ar ôl i dad adael, roedd e'n rhywbeth awtomatig; roedd rhaid i fi ofalu amdanyn nhw gan nad yw fy mam yn ymdopi'n dda iawn mewn rhai sefyllfaoedd.
Rydych yn cael cyfnodau da a chyfnodau gwael. Rydych yn wynebu heriau. Mae'n rhaid i chi fynd ati i ddelio â nhw. Gall rhai ohonyn nhw fod yn ergyd drom, gall rhai ohonyn nhw wneud i chi feddwl "o wel, gwnaeth hynny ddigwydd", ac mae rhai pethau da yn digwydd - mae'n rhaid i chi ddelio â phob un.
Wel, gyda fy mam, dyw hi ddim yn dda iawn am dreulio amser gyda fi a'm chwaer. Mae wedi mynd â ni allan i lefydd, rydym wedi cael ein sbwylio, rydym ni wedi mynd ar wyliau a phethau felly, ac mae hynny'n gwneud i chi deimlo'n dda, ond rydym wedi cael cyfnodau gwael hefyd.
O ran cefnogaeth, rydym yn mynd allan unwaith y mis gyda Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc. Os oes angen help arnoch, mae ar gael. Dwi'n cwrdd ag un o weithwyr Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc unwaith yr wythnos i siarad oherwydd dyw'r sefyllfa gartref ddim yn dda ar y foment. Mae'r gefnogaeth honno yn ddefnyddiol. Pe na bai'r gefnogaeth honno ar gael, dwi ddim yn credu y byddwn i yma oherwydd...mae'n anodd...yn anodd, mae bywyd yn anodd iawn, iawn.
Yn y coleg, dwi'n gwneud cwrs Trin Gwallt Lefel 1 ac mae'n dda iawn, dwi'n ei fwynhau. Fe ges i fy nghymhwyster ddoe felly dwi'n gwella drwy'r amser. Dwi'n mynd i wneud Lefel 2 ym mis Medi a Lefel 3 hefyd gobeithio.
Dwi'n mwynhau'r coleg yn fawr; dwi'n cael yr holl gymorth sydd ei angen arna' i. Maen nhw'n deall fy mod i'n ofalwr ifanc ac mae yn achosi problemau ond dwi'n dweud wrthyn nhw bod gen i gerdyn A-2-A. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw oherwydd mae'n anodd bod yn y coleg, gweithio a mynd adref i ofalu am y teulu. Fe syrthiais i ymhell ar ei hôl hi gyda'r gwaith a dwi wedi bod yn hwyr weithiau...dydyn nhw ddim wedi lleihau fy EMA oherwydd dwi wedi dangos fy ngherdyn A2A, sy'n rhyddhad.
Yn y dyfodol, dwi'n gobeithio trin gwallt a gwneud rhyw fath o waith gwirfoddol hefyd oherwydd dwi am fynd i weithio dramor. Dyna wnaeth fy nghyfnither ac roeddwn i'n hoffi'r syniad o wneud hynny, dwi'n hoffi'r syniad o her.
End transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Cerdyn 'Access to Action' yw A2A. Mae rhai Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn rhoi'r rhain i ofalwyr ifanc. Mae'n helpu pobl ifanc i ddweud wrth athrawon/tiwtoriaid eu bod yn ofalwyr.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg yw EMA. Mae'n daliad wythnosol i bobl ifanc o gartrefi incwm isel, er mwyn helpu i dalu costau aros mewn addysg.

James

Download this video clip.Video player: cym_s1_james_main_video.mp4
James
James: Fe ddechreuais i yn fy rôl ofalu go iawn pan roeddwn i'n 40 oed ac fe fydda' i'n 46 oed ym mis Gorffennaf. Cafodd fy mam wybod bod ganddi Alzheimer pan oedd hi tua 75 oed. Mae'n 80 oed nawr. Mae wedi mynd i gartref gofal preswyl yn ddiweddar gan fod y clefyd a'r salwch wedi datblygu i'r pwynt lle roedd angen iddi fod mewn amgylchedd mwy diogel na byw'n annibynnol.
Roedd yr effaith a gafodd ar fy mywyd yn anhygoel. Fe es i o yrfa brysur iawn, yn gweithio'n galed yn fy ugeiniau a'm tridegau, ar ôl bod yn y coleg a dilyn y llwybr arferol, i'r sefyllfa hon lle roedd ganddi'r salwch ofnadwy hwn ac roedd angen i ni fod yno iddi. Roedd hi'n byw tua 35 milltir i ffwrdd oddi wrtha' i i ddechrau, a byddwn i'n mynd draw bob penwythnos. Fe wnes i hynny am tua 20 mis, gan fynd â bwyd gyda mi. Un o ganlyniadau ei salwch oedd ei bod wedi rhoi'r gorau i fwyta, felly roedd hi'n bwysig iawn ar lefel ymarferol fy mod yn mynd â bwyd i'r tŷ ac yn ceisio ei hannog i fwyta. Wrth gwrs, beth ddigwyddodd wedyn oedd...byddwn i'n mynd i ffwrdd ac ni fyddai'n bwyta yn ystod yr wythnos. Felly, beth bynnag, ar ôl tua 20 mis, gwnaethon ni benderfynu ei symud yn agos iawn ata' i felly fe symudodd hi i mewn i fyngalo tua 500 llath i fyny'r ffordd. Fe fues i'n gweithio wedyn yn llawn amser am tua dwy flynedd, ond doedd hynny, hyd yn oed, ddim yn ddigon, roedd angen i mi dreulio mwy o amser gyda hi nag yr oedd swydd lawn amser yn caniatáu i mi ei wneud. Felly, flwyddyn i fis Mawrth diwethaf, fe wnes i gymryd diswyddiad gwirfoddol ar ôl 15 mlynedd mewn un sefydliad lle roeddwn wedi bod yn gweithio er mwyn rhoi mwy o amser i mi ac fe fues i'n lwcus iawn; fe ges i swydd ran amser yn NEWCIS yn fuan wedyn a rhoddodd hynny fwy o amser i mi fynd â hi i apwyntiadau ysbyty, apwyntiadau meddyg a gwneud pethau ymarferol bob dydd tra'n ceisio byw fy mywyd fy hun hefyd - fy nghydberthnasau fy hun, fy nghartref fy hun ac ati. Ond roedd hi'n anodd, hyd yn oed wedyn roedd hi'n eithaf anodd, oherwydd gydag unrhyw salwch cronig sy'n derfynol ac sydd ond yn mynd un ffordd, mae'n anochel y bydd y sefyllfa yn mynd yn waeth, yn mynd yn anoddach, felly aeth pethau'n fwy anodd yn hytrach na'n haws.
Felly, do, fe newidiodd pethau i mi. Un o'r pethau wnes i pan adawais i waith llawn amser - fe wnes i feddwl, wel, fe wnes i radd nôl pan oeddwn i...dwi ddim yn gwybod, tua 25 mlynedd yn ôl pan raddiais gyntaf nôl ar ddiwedd y 80au neu ddechrau'r 90au, ac roeddwn i wastad wedi bod eisiau gwneud gradd meistr, felly drwy fynd yn rhan amser fe ges i gyfle i gofrestru ar gwrs lleol. Felly, dwi'n agosáu nawr at ddiwedd blwyddyn gyntaf fy MSc mewn Seicoleg ac mae wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae wedi bod yn rhywbeth newydd, rhywbeth na fyddwn i wedi gallu ei wneud pe bawn i wedi bod yn gweithio'n llawn amser, rhywbeth dwi wir wedi ei fwynhau ac mae wedi helpu i dynnu fy meddwl oddi ar y sefyllfa - mae wedi gwneud i mi feddwl am bethau eraill. Ond mae'n od bod yn fyfyriwr eto ac i fod nôl mewn byd o draethodau ac arholiadau ond mewn ffordd ryfedd...mae'n gysur ac yn eithaf lleddfol. Yn rhyfedd ddigon, dwi'n teimlo bod addysg yn rhywbeth sy'n tawelu'r meddwl yn hytrach na rhywbeth a oedd efallai y tro cyntaf yn peri pryder i mi ac yn rhywbeth roeddwn am lwyddo ynddo. Bryd hynny, y peth pwysig oedd cael swydd a gyrfa. Y tro hwn, mae'n teimlo fel pe bawn i'n gwneud y peth am fy mod i'n ei fwynhau ac yn gwneud rhywbeth sydd o fudd i mi fy hun. Felly dwi'n gwneud hynny un diwrnod yr wythnos; dwi'n gweithio yma'n rhan amser. Ac yn sicr, roedd bod yn ofalwr yn beth rhyfedd; dwi dal yn ofalwr i'r graddau bod gen i bŵer atwrnai dros iechyd a lles fy mam, ei heiddo a'i harian, a dwi'n ymweld â hi mor aml ag y galla' i. Ond mae'n wahanol nawr, nawr ei bod hi mewn cartref gofal preswyl. Mae'n newid gwahanol. Ond roedd e'n flinedig iawn, galla' i ddim wir ei ddisgrifio mewn unrhyw ffordd arall heblaw ei fod yn mynd â'm holl sylw ac amser i'r fath graddau fel fy mod wedi rhoi'r gorau i gymaint o bethau yn fy mywyd a doedd dim ots gen i wneud hynny. Y peth ofnadwy oedd, roedd y salwch yn cael effaith andwyol arna' i hefyd, fel gofalwr mae'n gwneud hynny...mae'n cael cymaint o effaith arnoch chi ag y mae'n ei chael ar y person sy'n sâl. Felly, dim ond nawr, a dim ond ychydig fisoedd wedi mynd heibio, dwi'n cymryd camau bach yn ôl i feddwl "iawn, fy mywyd i yw hwn nawr a dwi'n ganol oed felly mae gen i'r pethau hyn i'w gwneud".
End transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae James yn 45 oed ac yn gofalu am ei fam sydd â chlefyd Alzheimer's. Yn ddiweddar, aeth mam James i mewn i ofal preswyl gan fod ei chlefyd wedi cyrraedd pwynt lle'r oedd angen iddi fod mewn amgylchedd mwy diogel.

Newidiodd bywyd James yn sylweddol pan ddaeth yn ofalwr. Roedd ganddo yrfa brysur a llwyddiannus ond wrth i salwch ei fam ddatblygu, symudodd yn agosach ato ac roedd angen iddo dreulio mwy a mwy o amser yn gofalu amdani. Er mwyn gallu gwneud hyn, cymerodd James ddiswyddiad gwirfoddol a chafodd waith rhan-amser gyda gwasanaeth gofalwyr lleol.

Ar ôl gadael ei swydd lawn-amser, bu'n bosibl iddo ddechrau MSc mewn Seicoleg un diwrnod yr wythnos. Mae astudio yn beth braf i James ac yn ffordd bwysig o dynnu ei sylw.

Suzanne

Ffigur 1.2 (Defnyddiwyd llun model at ddibenion enghreifftiol yn unig)
Download this audio clip.Audio player: cym_s1_suzanne_audio.mp3
Suzanne
Fy enw i yw Suzanne a dwi'n helpu i ofalu am fy mrawd sy'n saith mlynedd yn iau na fi ac sydd â sgitsoffrenia. Rydym ni...mae ein teulu wedi gwybod bod gan Steven broblemau iechyd meddwl ers tua 15 mlynedd, ac mae wedi byw gydag aelodau gwahanol o'r teulu, ond datblygodd ei sgitsoffrenia a chafodd ddiagnosis yn 2010. Ar yr adeg honno, llwyddais i fynd i America lle'r oedd wedi'i garcharu a lle'r oedd bellach yn ddigartref er mwyn mynd i'w ôl a gofalu amdano heb yn wybod i'm rhieni oherwydd bu tipyn o anghydweld pan gafodd ei garcharu.
Dwi'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol ynghylch gofalu yw bod pobl yn datblygu'n gryfach o lawer nag arfer. Mae'n debyg y gall weithio'r ffordd arall ond mae gan ein teulu ni yn sicr gydberthnasau teuluol cryf iawn. Mae fy chwaer a minnau, a'm mam a minnau, wedi dod yn agosach oherwydd hyn. O ran fy nhad a minnau, rydym wastad wedi bod yn agos iawn. Mae 3000 o filltiroedd o bellter rhwng y ddau gartref, ond rydym yn siarad bob dydd ac nid dim ond am Steve; mae llawer ohono'n ymwneud â'r ffordd rwy'n cefnogi Dad, neu'r hyn sy'n digwydd yn fy mywyd, felly mae hynny wedi bod yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol oherwydd pe na bawn wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygiad Steve a'r ffaith ein bod am iddo gael y mwyaf allan o fywyd, efallai na fyddai gennym gydberthynas mor agos; rydym wedi bod drwy lawer gyda'n gilydd.
Wrth dreulio amser gydag ef, roeddwn i'n gweld bod personoliaeth fy mrawd wedi newid cymaint; roeddwn i'n gwybod bod angen iddo gael ei drin yn wahanol. Dyna oedd y rhan anoddaf oherwydd roeddwn i'n teimlo'n eithaf unig. Oeddwn...
Drwy fod yn ofalwr, dwi wedi datblygu teimlad da iawn ynghylch fy ngreddfau mewnol fy hun: Dwi'n ymchwilydd da...bu'n rhaid i mi wneud llawer o waith ymchwil; dwi'n gallu ymchwilio i driniaethau ac opsiynau gofal gwahanol a chymryd camau dilynol, casglu gwybodaeth a'i rhannu â phobl eraill mewn ffordd ddealladwy. A does dim ofn arna' i ddweud "wel, a dweud y gwir, dwi ddim yn cytuno â chi", hyd yn oed os dwi'n siarad ag arbenigwyr: "ydych chi wedi edrych ar hwn? ydych chi wedi edrych ar y llall? pam?" Yn enwedig o ran meddyginiaeth Steven, oherwydd fe gymerodd gryn amser i ni ddod o hyd i feddyginiaeth nad oedd yn cael cymaint o sgil-effeithiau fel na allai weithredu, felly roedd hynny'n anodd iawn.
Roedd y cymorth ges i yn NEWCIS yn wych. Roeddwn i'n gwybod, pan ddechreuais i ofalu am fy mrawd yn llawn amser fel gofalwr, fy mod yn gallu dal fy llaw i fyny a dweud fy mod am gysylltu â'r elusen leol i ofalwyr i weld pa gymorth y gallwn ei gael. Roedden nhw'n wych. Roeddwn yn gallu cael gwasanaeth cwnsela am ddim. Roeddwn yn gallu manteisio ar yr hyfforddiant yma ac roedd hynny'n fuddiol iawn, yn enwedig o ran rheoli straen. Ac roedd y ffrindiau dwi wedi'u hadnabod ers pan oedd fy mhlant yn ifanc iawn yn ffantastig. Roedden nhw wedi cwrdd â'm brawd o'r blaen, pan roedd e'n holliach, ond roedden nhw wir am fod yng nghwmni fy mrawd - roedden nhw'n dod draw i'r tŷ, yn mynd i'r theatr, beth bynnag. Os oedd e'n ymddwyn mewn ffordd anarferol, doedden nhw ddim yn cynhyrfu. Ac roedd e'n wych gallu chwerthin gyda nhw! Roedd fy mhlant hefyd yn gefnogol iawn i'w hewythr. Roedd pob un o'r plant yn y brifysgol ar y pryd ac, unwaith eto, roedden nhw wedi adnabod eu hewythr pan oedd e'n holliach. Roedd personoliaeth Steven yn hollol wahanol pan wnaethon nhw gwrdd ag ef ar ôl iddo ddod draw fan hyn i fyw, ac fe wnaethon nhw ymgysylltu ag ef. Fe wnaethon nhw hefyd siarad â mi am y ffordd roeddwn i'n teimlo, ac roedden nhw wir yn empatheiddio.
Dwi wir yn credu yn y gwaith y mae NEWCIS yn ei wneud i ddatblygu talentau gofalwyr a sicrhau nad yw eu bywyd i gyd yn ymwneud â'u rôl gofalu pan maent yn ymgymryd â'r rôl honno - mae angen gollyngfa ar bawb. Galla' i siarad â'm ffrindiau am y cynnydd y mae fy mrawd yn ei wneud o hyd; fe aethon nhw drwy hynny gyda mi mewn ffordd.
Dwi'n awdur ac yn weithiwr cymunedol, ac mae gen i radd mewn Saesneg - fe wnes i ran ohoni yn yr Unol Daleithiau a rhan ohoni yma. Ac yna fe wnes i hefyd radd mewn Gwyddoniaeth a Rheoli Cefn Gwlad ac roeddwn i'n geidwad am dipyn yn y mynyddoedd gerllaw. Dwi hefyd yn awdur creadigol ac, yn y gorffennol, tua saith mlynedd ers i'r bechgyn adael cartref - mae mwy a mwy o'm gwaith wedi'i gyhoeddi a dwi'n credu mai dyma'r hyn y bydda' i'n ei wneud yn y dyfodol.
End transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae Suzanne yn helpu i ofalu am ei brawd sydd â sgitsoffrenia. Mae Suzanne yn teimlo bod ei rôl ofalu yn golygu mwy na gofalu am ei brawd ond hefyd helpu aelodau eraill o'r teulu, gan gynnwys ei thad.

Pan ddechreuodd ofalu am ei brawd, roedd Suzanne yn ei chael hi'n anodd ac roedd yn teimlo'n eithaf unig yn dod i delerau â newidiadau i bersonoliaeth ei brawd.

Fel gofalwr, cred Suzanne ei bod wedi meithrin gwell ymwybyddiaeth o'i greddfau a'i theimladau ei hun, yn ogystal â datblygu sgiliau ymchwil annibynnol. Mae hefyd yn teimlo bod gofalu wedi ei helpu i gwestiynu a herio pobl mewn rolau arbenigol neu awdurdodol. Bum mlynedd ar ôl diagnosis ei brawd, mae Suzanne wedi gweld ei fod wedi cael effaith gadarnhaol mewn sawl ffordd a bod ei theulu yn agosach.

Roedd cefnogaeth y gwasanaeth gofalwyr lleol yn bwysig i Suzanne, gan gynnwys yr elfennau cwnsela a hyfforddiant.

Mae Suzanne yn awdur ac yn weithiwr cymunedol sy'n gweld ei hun, yn y dyfodol, yn treulio mwy o amser yn ysgrifennu ac yn cyhoeddi mwy o waith.

Christine

Ffigur 1.3 (Defnyddiwyd llun model at ddibenion enghreifftiol yn unig)
Download this audio clip.Audio player: cym_s1_christine_auido.mp3
Christine
Fe enw i yw Christine. Dwi'n gofalu am fy mab sy'n 19 oed ym mis Medi. Mae ganddo Nychdod Cyhyrol Duchenne a chymhlethdodau eraill fel cardiomyopathi, scoliosis sy'n anllawdriniadwy oherwydd ei gyflwr cardioresbiradol ac anawsterau dysgu cymhleth.
Dwi'n berson gofalgar iawn yn naturiol beth bynnag, dwi'n berson sy'n hoffi cofleidio pobl. Dwi'n weinyddes feithrin. Mae'n rhywbeth y syrthiais i mewn iddo yn yr ysgol. Doeddwn i ddim yn ddisgybl academaidd felly fe fydden i'n gofalu am y plant iau, yn mynd â nhw i nofio ac yn treulio amser gyda nhw gyda'r nos. Felly, fe syrthiais i mewn i'r gwaith. Roeddwn i wrth fy modd gyda rôl nani - bod yn fam mewn gwirionedd, yn ddirprwy fam. Yna, bu'n rhaid i mi aros cryn amser cyn priodi a chael plentyn a dwi'n ei chael hi'n anodd iawn galw fy hunan yn ofalwr gan mai fi yw ei fam. Mae hynny, i ryw raddau, wedi gwneud i ni benderfynu mai'r peth gorau iddo fyddai mynd i ysgol - neu, yn hytrach, goleg preswyl - ac yna dod nôl atom ar gyfer gwyliau.
Dwi'n credu mai'r pwynt isaf yw'r teimlad o unigedd. Dwi'n hapus i ddelio â hynny fy hun ond dwi ddim am i'm mab orfod delio â hynny, a pha mor anodd yw hi i ofalu am blentyn, yn enwedig bachgen yn ei arddegau sy'n defnyddio cadair olwyn a'r diffyg darpariaeth gofal cymdeithasol yn y gymuned. Does dim byd ar gael, rydych yn mynd yn feudwy a dyw hi ddim yn deg. Mae fy mab yn golygu popeth i mi, mae wedi dysgu cymaint i mi am fy mywyd fy hun, mae'n anhygoel. Mae wedi dysgu mwy i mi amdana' i fy hun a phawb arall yn y byd. Problemau a phryderon ynghylch fy iechyd corfforol a meddyliol mewn gwirionedd. Rhai emosiynol yn fwy na rhai meddyliol mewn gwirionedd ond dwi'n gallu eu rheoli nawr. Ie...dwi ddim yn siwr...mae'n anodd gan y bydd e'n mynd i ffwrdd i'r coleg mewn tri mis ac mae popeth yn dibynnu ar sut y bydd pethau'n mynd, felly dwi'n ceisio bod yn gadarnhaol, ond dwi'n gwybod y bydd hi'n anodd. Ac rwy'n ddiolchgar fy mod i a'r gŵr gyda'n gilydd o hyd...ein bod ni gyda'n gilydd o hyd ac yn gweithio drwy bethau gyda'n gilydd. Mae pawb yn siarad byth a beunydd am "syndrom nyth gwag" ac ydy...mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb fynd drwyddo, p'un a ydych yn ofalwr neu p'un a yw'r plentyn yn mynd i ffwrdd i'r brifysgol neu'n mynd ar gwch i fyw ar ochr arall y byd. Onid yw pob un o'r rhain yn achosi trawma?
Mae'r sgiliau dwi wedi'u datblygu yn cynnwys empathi - dwi'n credu fy mod i'n berson sympathetig iawn ond dwi'n credu bod gen i empathi nawr. Dwi'n benderfynol. Byddwn i'n sefyll i fyny drosto. Galla' i roi pobl eraill o flaen fy hun. Does dim ofn arna' i ddweud na fel arfer...dwi ddim yn gwybod beth arall i'w ddweud...dwi'n credu fy mod i'n berson cryfach. Ydw...dwi wedi bod drwyddi. Dwi wedi'i wneud fy hun lawer o weithiau ond mae rhywun wedi fy sicrhau ac wedi dweud mai dyna'r hyn y mae pob un ohonom yn ei wneud.
End transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae Christine yn gofalu am ei mab sy'n 19 oed ac sydd ag anableddau lluosog a chymhleth.

Mae Christine yn ystyried ei bod yn berson gofalgar yn naturiol; mae'n nyrs meithrinfa gymwysedig ac mae'n mwynhau gofalu am blant. Mae'n ei chael hi'n anodd galw ei hun yn ofalwr ei mab am mai hi yw ei fam.

Y peth gwaethaf am ofalu i Christine yw'r unigrwydd a'r ynyswch, nid dim ond iddi hi ei hun ond hefyd i'w mab. Mae Christine yn teimlo'n rhwystredig am y diffyg darpariaeth i'w mab yn lleol.

Mae Christine o'r farn ei bod wedi dysgu cryn dipyn drwy ofalu am ei mab; amdani hi ei hun a phawb arall yn y byd. Ymhlith y sgiliau a nodir gan Christine mae empathi, pendantrwydd, anhunanoldeb a'r gallu i fod yn flaengar yn enwedig wrth gynorthwyo ei mab.

Mae Christine a'i mab yn mynd drwy gyfnod o newid oherwydd bydd ei mab yn mynd i goleg preswyl yn fuan. Mae Christine yn gwybod y bydd y cyfnod hwn yn anodd ond mae'n dal i fod yn gadarnhaol ac yn obeithiol y gall ddod drwyddi gyda chefnogaeth ei gŵr.

Claire

Download this video clip.Video player: cym_s1_claire_main_case_352x196.mp4
Claire
Drwy fod yn ofalwr, dwi wedi dod yn fwy amyneddgar. Dwi'n datrys problemau ac yn fwy hyblyg. Dwi wedi gorfod bod yn fwy amyneddgar a dysgu i ddarllen rhwng y llinellau, yn enwedig gyda fy mam. O ran fy mhartner, mae'n wahanol iawn. Roedd hi'n anodd yn feddyliol i mi ofalu am fy mam ond mae'n fwy anodd yn gorfforol i mi ofalu amdano ef. Felly, mae'r sgiliau dwi wedi'u defnyddio ar ei gyfer ef yn wahanol, hynny yw, mwy o drefn. Dwi'n mynd ag ef i'w apwyntiadau ac yn trefnu iddo gael ei drosglwyddo...mae'n rhaid i mi fod yn gefnogol ac yn galonogol am ei fod e'n digalonni. Mae'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac mae ei gyhyrau...mae'n cael diwrnodau pan maent yn wannach ac mae'n cynhyrfu, ac felly dwi wedi gorfod dod yn fwy...dwi wedi dod yn fwy cadarnhaol a dwi'n ceisio dweud wrtho "wel, edrych beth sydd gennyt".
Doedd fy nghyfnod yn yr ysgol ddim yn brofiad da iawn i mi; ces i fy mwlio'n eithaf gwael ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n teimlo'n gryf yn ei gylch, oherwydd effeithiau bwlio, oherwydd dwi ddim yn teimlo i mi wneud yn dda iawn yn yr ysgol; fe wnes i aros gartref o'r ysgol y rhan fwyaf o'r amser oherwydd yr hyn roeddwn i'n mynd drwyddo. Ar ôl ysgol, fe wnes i ddau gwrs gofal plant pan oeddwn i'n byw yn Lerpwl ac fe wnes i gwblhau'r cyrsiau hynny yn llwyddiannus ond wedyn fe fu'n anodd i mi ymdopi â'm problemau fy hun a'm hiechyd meddwl fy hun. Fe wnes i geisio dod o hyd i swydd ond gwnes i ddim llwyddo ac wedyn fe wnes i roi'r gorau i hynny oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo'n hyderus iawn ac wedyn fe wnes i gwrdd â'm partner felly fe ddes i'n ofalwr eto a dyna fu fy swydd a'm rôl i erioed.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyn i'm mam farw, roeddwn i'n ystyried dysgu iaith arwyddion ac, ers iddi farw, dwi wedi dechrau arni - roedd hynny ym mis Medi 2013. Fe wnes i lefel ragarweiniol yn 2013-2014 a llwyddo i'w chwblhau - dwi ddim yn gwybod sut y gwnes i hynny. Ond bu'n rhaid i mi gymell fy hun i fynd i'r noson gyntaf oherwydd roeddwn i'n nerfus iawn. Roeddwn i'n nerfus iawn am fynd i mewn i'r lleoliad hwnnw a'r amgylchedd hwnnw am fy mod i wedi cael fy mwlio yn y gorffennol ond llwyddais i oresgyn hynny a dwi nawr yn gwneud IBSL Lefel 1 a ddechreuodd fis Medi diwethaf. Mae gen i arholiad nos yfory, mae'r cwrs yn gorffen ym mis Mehefin ac yna, croesi bysedd, mi fyddai i'n llwyddo a dwi'n gobeithio y galla' i fynd nôl ym mis Medi i wneud Lefel 2. Dwi wrth fy modd yn astudio iaith arwyddion ond mae angen i mi wybod mwy felly dwi'n gobeithio gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol oherwydd...dim ond unwaith yr wythnos dwi'n ei wneud ac rwy'n pryderu ei fod yn rhywbeth y mae angen ei wneud yn aml er mwyn ei ddysgu a'i gofio, felly dwi'n gobeithio gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda phobl fyddar er mwyn i mi allu ymarfer yr iaith a dysgu mwy ohoni. Y bobl...yn enwedig y rhai o'm gwaith gwirfoddol, y bobl hynny sydd wedi bod drwy lawer neu sydd ag anabledd neu sydd wedi wynebu problemau - maen nhw wedi dysgu mwy i mi nag unrhyw un sydd wedi mynd i'r brifysgol neu sydd wedi cael eu haddysg oherwydd mae'n fywyd go iawn, maen nhw'n delio â'r peth, maen nhw'n delio â phethau bob dydd. Felly, o ran y gofalwyr, dwi'n credu fy mod wedi dysgu llawer o...dwi'n credu bod darllen pobl yn cynnwys llawer o sgiliau gwahanol. Ond dwi'n dueddol o sefyll i fyny drostyn nhw mwy nag yr wyf wedi'i wneud yn y gorffennol. Dwi yn sefyll i fyny dros fy hun yn fwy, ond dwi ddim yn ei hoffi pan fydd rhai pobl yn ei drin yn wahanol, a dwi ddim yn hoffi hynny oherwydd fe wnes i ysgrifennu cerdd o'r enw "When you look at me, what do you see? Do you see me, or a disability?" a gyhoeddwyd yn...galla' i ddim cofio...ychydig flynyddoedd yn ôl, am anabledd ac felly dwi'n eitha'...mae honno'n rhan arall o fywyd y mae gen i ddiddordeb ynddi.
End transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae Claire yn 32 oed ac yn gofalu am ei phartner sydd â Dystroffi Cyhyrol Becker. Hi hefyd oedd gofalwr hirdymor ei mam a fu farw yn 2012. Ni chafodd ei mam ddiagnosis ond roedd ganddi lawer o nodweddion Asperger/Awtistaidd.

Mae Claire o'r farn ei bod yn fwy deallgar a'i bod wedi meithrin sgiliau datrys problemau ac addasu drwy fod yn ofalwr. Roedd gofalu am ei mam yn brofiad emosiynol iawn tra bod gofalu am ei phartner yn fwy corfforol.

Nid oedd yr ysgol yn brofiad da i Claire oherwydd bwlio a'i hamgylchedd gartref. Ar ôl gadael yr ysgol, cwblhaodd gyrsiau gofal plant ond yna fe'i cafodd yn anodd ymdopi â'i phroblemau iechyd meddwl ei hun.

Mae Claire wedi bod yn dysgu iaith arwyddion. Roedd yn anodd iddi gyrraedd y pwynt lle'r oedd yn teimlo'n ddigon hyderus i fynd i mewn i amgylchedd dysgu, ond mae bellach yn astudio Lefel 1 Sefydliad Iaith Arwyddion Prydain ac mae'n gobeithio symud ymlaen i Lefel 2.

Mae Claire yn bwriadu gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda phobl fyddar fel y gall ymarfer iaith arwyddion a dysgu mwy. Teimla ei bod wedi dysgu fwyaf gan y bobl mae'n cwrdd â hwy sydd wedi wynebu rhwystrau.

Dengys yr enghreifftiau hyn lawer o'r heriau a wynebir gan ofalwyr ond hefyd y cyfleoedd sydd ar gael i ofalwyr feithrin eu sgiliau ac achub ar gyfleoedd sy'n bwysig iddynt - fel MSc mewn Seicoleg James a chwrs hyfforddi trin gwallt Alana. Efallai fod rhai agweddau ar y straeon uchod yn adlewyrchu eich profiadau chi?

Nid yw bob amser yn hawdd myfyrio - a gall meddwl am eich profiadau gofalu fod yn boenus ac yn anodd, am sawl rheswm. Ar yr un pryd, nid yw bob amser yn hawdd deall beth rydych wedi'i ddysgu o'ch profiadau blaenorol na'r penderfyniadau a wnaed.

Felly, weithiau, mae'n eithaf defnyddiol myfyrio gyda chymorth ychwanegol os yw ar gael i chi - cyfaill neu fentor neu weithiwr cymorth o wasanaeth gofalwyr lleol, er enghraifft. Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn teimlo bod y cwrs wedi esgor ar emosiynau anodd yna gallwch ymweld â Carers.org [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddod o hyd i'ch gwasanaeth cymorth lleol agosaf neu siarad â rhywun ar-lein. Hefyd, ceir cysylltiadau defnyddiol yn yr adran Rhagor o wybodaeth o'r cwrs hwn.

CYM-WAM_2

Ewch â'ch dysgu ymhellach

Gall gwneud y penderfyniad i astudio fod yn gam mawr, a dyna pam y byddwch eisiau Prifysgol y gellir ymddiried ynddi. Mae gan y Brifysgol Agored 50 mlynedd o brofiad yn cyflwyno dysgu hyblyg ac mae 170,000 o fyfyrwyr yn astudio gyda ni ar hyn o bryd. Cymerwch gip ar holl gyrsiau'r Brifysgol Agored.

Os ydych chi'n newydd i astudio ar lefel addysg uwch, darganfyddwch fwy am y mathau o gymwysterau rydyn ni'n eu cynnig, gan gynnwys ein cyrsiau lefel Mynediad a Thystysgrifau.

Ddim yn barod ar gyfer astudiaeth Prifysgol yna porwch dros 900 o gyrsiau am ddim ar OpenLearn a chofrestrwch i'n cylchlythyr i glywed am gyrsiau newydd am ddim, wrth iddynt gael eu rhyddhau.

Bob blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr yn penderfynu astudio gyda'r Brifysgol Agored. Gyda dros 120 o gymwysterau, mae gennym y cwrs iawn i chi.

Gofynnwch am brosbectws Prifysgol Agored