Sefydliadau cymorth i ofalwyr
Name of organisation | Information | Contact details | |||
---|---|---|---|---|---|
Ymddiriedolaeth y Gofalwyr ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru | Cymorth ar-lein 24 awr y dydd; ble i ddod o hyd i'ch gwasanaethau gofalwyr lleol; help a chyngor penodol gan gynnwys hawl i fudd-daliadau, asesu anghenion gofalwyr a llawer mwy. | www.carers.org | |||
Canolfannau a gwasanaethau gofalwyr lleol | Mae canolfannau gofalwyr yn elusennau annibynnol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau cymorth lleol sy'n diwallu anghenion gofalwyr yn eu cymunedau eu hunain. Mae pob canolfan gofalwyr yn darparu'r gwasanaethau craidd canlynol, naill ai dros y ffôn neu mewn cyngorfeydd galw heibio neu allgymorth:
| I ddod o hyd i'ch canolfan gofalwyr leol ewch i: | |||
Cynlluniau Gofal Croesffyrdd | Mae cynlluniau Gofal Croesffyrdd yn rhwydwaith o elusennau annibynnol lleol sy'n darparu gwasanaethau seibiant yn y cartref gan alluogi gofalwyr i gymryd seibiant. Gellir eu darparu naill ai fel rhan o becyn gofal wedi'i ariannu gan yr awdurdod lleol neu telir amdanynt yn breifat. | I ddod o hyd i'ch cynllun Gofal Croesffyrdd agosaf ewch i: | |||
Beth mae eich Bwrdd Iechyd Lleol a'ch Awdurdod Lleol yn ei gynnig i ofalwyr | |||||
Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru | O dan Fesur Strategaeth Gofalwyr (Cymru) 2010 mae'n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd gyhoeddi a gweithredu Strategaeth Ymgynghori a Gwybodaeth Gofalwyr leol sy'n hysbysu gofalwyr am y wybodaeth a'r cymorth y mae ganddynt hawl i'w cael er mwyn eu helpu i gyflawni eu rôl ofalu. | Er mwyn gweld beth mae eich Bwrdd Iechyd Lleol yn ei wneud, ewch i wefan 'GIG Cymru' a theipiwch 'gofalwyr' neu 'carers' yn y bar chwilio: | |||
Cymorth a ddarperir gan eich Awdurdod Lleol | Hefyd, bydd gan eich Awdurdod Lleol fanylion am gymorth i ofalwyr a'r hyn a ddarperir ganddynt. | Rhestrir pob un yn y ddolen isod. Cliciwch ar eich rhanbarth a theipiwch 'gofalwyr' neu 'carers' yn y peiriant chwilio. http://gov.wales/topics/localgovernment/unitary-authorities/?skip=1&lang=cy | |||
Canolfannau Cyngor ar Bopeth | Cyngor am ddim ar ystod eang o faterion - yn agored i bawb yng Nghymru a ledled y DU. |