Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Modelau meddwl

Yn Adran 1, gofynnwyd i chi ystyried eich diffiniadau eich hun o addysg gynhwysol. Yn Adran 2, rydym yn dangos sut mae profiad personol o gynhwysiant ac allgáu wedi bod yn ffactor ysgogi mawr wrth ddatblygu addysg gynhwysol, gydag oedolion anabl yn arbennig yn ei chael hi'n anodd ailddiffinio eu profiadau o addysg. Un rhwystr mawr i ailddiffinio fu'r newid tuag at fodel anabledd cymdeithasol.

Fel rhan o'u hymchwil academaidd, disgrifiodd Rieser a Mason fodel a oedd ‘not necessarily the truth as borne out by scientific fact, just an idea that helps us to make sense of information’ (Rieser a Mason, 1992, t. 13). Ac yntau'n ysgrifennu o safbwynt person anabl, mae Mason yn disgrifio'r modd y mae ymagweddau meddygol at nam wedi arwain at y farn bod pobl yn wrthrychau unigol y dylid eu trin, eu newid, eu gwella a'u gwneud yn fwy normal. (Rieser a Mason, 1992, t. 13). Mae'r model anabledd meddygol yn honni bod angen i berson anabl fod yr un peth â phawb arall yn hytrach nag ystyried sut y gallai cymdeithas ei hun newid. Mae Rieser a Mason yn cyferbynnu'r farn hon â'r model anabledd cymdeithasol:

“Barn pobl anabl o'r sefyllfa yw, er ei bod yn bosib fod gennym gyflyrau meddygol sy'n ein rhwystro rywfaint - rhai a all fod angen triniaeth feddygol neu beidio, mae safon y wybodaeth ddynol, technoleg ac adnoddau cyfunol sydd eisoes yn bodoli yn golygu nad oes rhaid i'n namau corfforol neu feddyliol ein hatal rhag gallu byw bywydau perffaith dda. Amharodrwydd cymdeithas i roi'r dulliau hyn ar waith i newid ei hun, yn hytrach na ni, sy'n achosi ein hanableddau.”

(Rieser a Mason, 1992, t. 15)

Gellir ystyried llawer o ‘anawsterau dysgu’ yn ‘wahaniaethau dysgu’, sy'n golygu, yn syml, bod angen dull pedagogaidd gwahanol i hwyluso dysgu. Mae'r dulliau pedagogaidd gwahanol hyn yn fuddiol i bob myfyriwr am fod yn well gan bob un ohonom ddysgu mewn ffyrdd gwahanol.

Mae Rieser a Mason wedi cyferbynnu'r modelau meddygol a chymdeithasol ac wedi dangos goblygiadau pob ffordd o feddwl i ysgolion. Dangosir hyn yn Nhabl 1 isod:

Tabl 1 Cymharu'r modelau anabledd meddygol a chymdeithasol
Y model meddygolY model cymdeithasol
Mae'r plentyn yn ddiffygiolCaiff y plentyn ei werthfawrogi
DiagnosisCaiff cryfderau ac anghenion y plentyn eu diffinio ganddo ef ei hun ac eraill
LabeluCaiff rhwystrau eu nodi ac atebion eu datblygu
Daw'r nam yn ffocws sylwCaiff rhaglenni sy'n seiliedig ar ganlyniadau eu dylunio
Asesu, monitroDarperir adnoddau
Gwahanu a gwasanaethau amgenHyfforddiant i rieni a gweithwyr cymdeithasol
Anghenion arferol yn cael eu rhoi o'r neilltuCaiff cydberthnasau eu meithrin
Aildderbyn y plentyn os yw'n ddigon 'normal' neu ei allgáu'n barhausCroesewir amrywiaeth; croesewir y plentyn
Nid yw cymdeithas yn newidMae cymdeithas yn datblygu
Gan: Rieser (2001, t. 139).

Tra bod Rieser a Mason yn canolbwyntio ar agweddau ac ymatebion i anabledd, gellid cymhwyso eu dadansoddiad at nifer o grwpiau o bobl ifanc sy'n teimlo eu bod yn cael eu hymyleiddio mewn sefyllfaoedd dysgu. Nid dysgwyr ag anableddau neu anawsterau dysgu yn unig sy'n teimlo eu bod yn cael eu hallgáu. Gall allgáu fod yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, ac fel y dangosodd Ghuman (1999) yn ei waith gyda phobl ifanc yn eu harddegau yn Ne Asia, mae rhai poblogaethau yn teimlo eu bod yn destun sawl math o allgáu – hiliol, cymdeithasol, addysgol ac economaidd. Mae sawl math o allgáu wedi'i gofnodi yn Lloegr, lle mae Parsons (1999), er enghraifft, wedi archwilio'r cyswllt rhwng ethnigrwydd ac achosion o allgáu o'r ysgol, ac wedi cofnodi'r nifer anghymesur o fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig sy'n cael eu hallgáu'n barhaus o'r ysgol.

Yn fwy diweddar, mae newidiadau i batrymau addysgu o ganlyniad i bandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at yr anghysondebau rhwng y rhai sy'n byw mewn tai gorlawn gydag adnoddau cyfyngedig a mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd, a'r rhai mewn lleoliadau mwy breintiedig. Mae llawer o'r rhai â chyfleoedd cyfyngedig wedi cael eu hallgáu o weithgareddau'r ysgol oni bai bod yr ysgol wedi gwneud ymdrechion penodol i sicrhau darpariaeth briodol. Nid yw canlyniadau tymor hwy hyn yn hysbys ar adeg ysgrifennu'r cwrs hwn. Mae'r sefyllfa yn tynnu ein sylw at y ffaith na ellir byth cyflawni ‘cynhwysiant’ – mae pob newid i'r amgylchedd yn effeithio ar y rheini a allai gael eu hallgáu. Ystyrir bod cynhwysiant yn broses yn hytrach na chynnyrch.

Gweithgaredd 3: Profiad o safbwynt diffygiol

Meddyliwch am enghreifftiau o'ch profiad chi eich hun lle mae unigolion neu grwpiau o ddysgwyr wedi cael eu hystyried o safbwyntiau 'diffygiol'. Mae hyn yn debygol o ymwneud ag ochr chwith Tabl 1 uchod. (Gallech hefyd ystyried eich profiadau chi eich hun fel dysgwr.) Pa effaith y mae hyn wedi ei chael ar eu profiad nhw (neu eich profiad chi) o gynhwysiant mewn cyd-destunau dysgu penodol? Nodwch i ba raddau y gellir ystyried y deilliannau hyn yn rhai cadarnhaol a/neu negyddol o safbwynt y dysgwr.

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod. Gallwch lawrlwytho'r sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Os caiff myfyriwr ei ystyried o safbwynt y golofn chwith, caiff ei ystyried yn broblem i'r athro a'r ysgol. Caiff y myfyriwr ei ystyried yn rhywun nad yw'n gallu ‘cadw i fyny’ ag eraill, yn rhywun y bydd angen mwy o amser ac adnoddau ychwanegol arno, ac yn rhywun a fydd yn amharu ar lif didrafferth yr ysgol, o bosibl. Mae'n hawdd iawn labelu myfyriwr yn ‘broblem’ cyn bod yr athrawon hyd yn oed wedi cwrdd ag ef neu cyn iddo gael cyfle i ddangos yr hyn y gall ei wneud a'r ffordd y mae wedi dysgu i oresgyn ei anawsterau a diwallu ei anghenion ei hun. Maent yn creu pryderon am bethau na fyddant byth yn digwydd o bosibl! Maent hefyd yn lleihau hyder y person ifanc ac yn gwneud iddo deimlo ei fod yn niwsans neu'n analluog mewn rhyw ffordd. Gall hyn ynddo'i hun atal y person ifanc rhag cymryd rhan yn y gymuned ddysgu.

Gall modelau meddwl penodol ddylanwadu ar gyfleoedd dysgu drwy gyfyngu ar ddisgwyliadau athrawon a dysgwyr. Wrth ysgrifennu am hanes bywyd pobl sydd wedi cael profiad o 'addysg arbennig', mae Armstrong (2003) yn dangos effaith modelau o'r fath. Mae'n cyfeirio at achos Penny, a fynychodd ddosbarth anghenion arbennig mewn coleg addysg bellach lleol ar ôl gadael ysgol arbennig. Dyma beth ddigwyddodd pan benderfynodd Penny ei bod am ymuno â chwrs arlwyo llawn amser yn y coleg arferol:

‘Es i i weld fy nhiwtor ynglŷn â'r cwrs, ond nid yw am i mi ei ddilyn. Mae ef am i mi ddilyn cwrs sydd ond yn cael ei gynnal un diwrnod yr wythnos. Dim ond pobl o ysgolion arbennig sy'n ei ddilyn. Dydw i ddim am wneud hynny ond mae'n debyg y caiff ef ei ffordd.’

(Penny, yn Armstrong, 2003, t. 108)

Mae Armstrong yn tynnu sylw at y ffaith mai'r cwestiwn i Penny oedd pwy ddylai ddiffinio ei fuddiannau. Roedd penderfyniadau'n cael eu gwneud amdani ar sail disgwyliadau gweithwyr proffesiynol o bobl ag 'anableddau dysgu' yn hytrach nag ar sail ei barn hi. Fodd bynnag, roedd Penny yn barod i ymwrthod a phenderfynodd gysylltu'n uniongyrchol ag athro'r cwrs prif ffrwd. Wrth siarad am ei thiwtor, dywedodd Penny:

‘Dydy'r hyn sy'n bwysig i mi ddim yn bwysig iddo ef. Mae ef am i mi wneud yr hyn sydd orau i mi, yn ei farn ef. Oherwydd fy mod yn y ganolfan hon, mae'n anodd i mi gael lle ar gwrs prif ffrwd a gwneud yr hyn rydw i am ei wneud. Gwnaeth neb hyd yn oed ofyn i mi a oeddwn i am fod mewn sefyllfa brif ffrwd neu sefyllfa ar wahân. Dyna fyddwn i wedi ei hoffi. Byddwn i wedi hoffi pe bai rhywun wedi trafod â mi ac wedi gofyn i mi: "Fyddet ti'n hoffi rhoi cynnig ar gwrs prif ffrwd, yna os byddi di'n cael trafferth, mynna sgwrs gydag aelod o'r Ganolfan Dysgu â Chymorth." Hynny yw, dylai fod gan fyfyrwyr yr hawl i leisio eu barn ac i ddisgwyl i rywun wrando arnynt. Gwrando arnynt yn hytrach na'u hanwybyddu drwy'r amser.’

(Penny, yn Armstrong, 2003, t. 109)

Mae stori Penny yn codi cwestiynau am anghenion, hawliau a chyfranogiad, y mae pob un ohonynt yn feysydd trafod allweddol wrth i ni geisio diffinio cynhwysiant. Efallai y byddwn yn teimlo bod yr holl gwestiynau hyn yn ymwneud â phŵer cymharol mewn systemau addysg.

Gweithgaredd 4: Anghenion Penny

Yn y gweithgaredd hwn gofynnir i chi ystyried sut mae profiadau disgybl o 'addysg arbennig' wedi effeithio ar ei brofiadau addysgol diweddarach a'i hunan-barch. Yn gyntaf, ysgrifennwch ddiffiniad byr o 'anghenion' Penny. Dychmygwch mai chi yw Penny. Sut y byddech chi'n diffinio eich anghenion eich hun?

Dylech bwysleisio pwysigrwydd ystyried 'anghenion' o wahanol safbwyntiau: ystyriwch sut mae pobl wahanol yn 'creu' anawsterau dysgu, yn seiliedig ar eu profiadau personol a/neu broffesiynol.

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod. Gallwch lawrlwytho'r sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Wrth gynnal y gweithgaredd hwn, efallai y byddwch wedi dod i gasgliadau tebyg i rai Armstrong (2003), sy'n nodi:

“Gall y diffiniad o ‘anghenion’ mewn unrhyw sefyllfa benodol godi o drafodaethau rhwng pobl â diddordebau gwahanol, a diddordebau sy’n gwrthdaro weithiau (er enghraifft, diddordebau athrawon, rhieni, disgyblion eraill, yr AALI a chynghorwyr proffesiynol yr AALI).”

(Armstrong, 2003, t. 87)

Efallai na fydd Penny yn cytuno â'r hyn y gallai fod ei 'angen' arni ym marn gweithiwr proffesiynol, er enghraifft grwpiau bach, amgylchedd diogel, deunyddiau wedi'u haddasu. O'i safbwynt hi, yr hyn sydd ei angen arni yw ymreolaeth a'r pŵer i wneud penderfyniadau yn ei bywyd.

I Penny, mae disgwyliadau pobl eraill ohoni yn creu rhwystr i ddysgu. Serch hynny, mae'n herio'r disgwyliadau hynny ac mae ganddi ymdeimlad cryf o'i hawl i ddisgwyl i rywun wrando arni. Mae'n arfer ei hawl i gymryd rhan yn ei haddysg yn y ffordd y mae'n dymuno gwneud hynny. Mae ‘cynnwys Penny’ yn golygu newid sylfaenol mewn safbwyntiau a disgwyliadau, sy'n gofyn am newidiadau i ddiwylliant ymhlith unigolion ac mewn ystafelloedd dosbarth ac ysgolion.

Efallai y byddwch am ystyried y ffordd y mae plant yn eich ysgol yn cael eu grymuso i sicrhau bod ganddynt lais, fel yr oedd gan Penny.