Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Safbwynt eang ar gynhwysiant

Mae diffiniadau o gynhwysiant ac addysg gynhwysol wedi symud i ffwrdd oddi wrth ffocws penodol ar anabledd tuag at safbwynt ehangach sy'n cwmpasu myfyrwyr o grwpiau ethnig ac ieithyddol lleiafrifol, myfyrwyr o gartrefi dan anfantais economaidd, myfyrwyr sy'n absennol yn rheolaidd neu fyfyrwyr sy'n wynebu risg o gael eu hallgáu. Mae 'addysg gynhwysol' wedi dod i olygu darparu fframwaith lle y caiff pob plentyn – beth bynnag fo'i allu, ei ryw, ei iaith neu ei darddiad ethnig neu ddiwylliannol – ei werthfawrogi'n gyfartal a'i drin â pharch, a lle y caiff gyfleoedd dysgu gwirioneddol. Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â chyfranogiad a chyfle cyfartal i bawb – hynny yw, 'aelodaeth lawn' o ysgol ac, yn ddiweddarach, cymdeithas. Mae safbwynt o'r fath ar gynhwysiant yn herio strwythurau a systemau presennol sydd wedi cyfrannu at y rhwystrau y mae dysgwyr yn eu hwynebu.

Er mwyn sicrhau cynhwysiant, mae angen trawsnewid cyd-destunau dysgu:

Ym Maes addysg, mae cynhwysiant yn ymwneud â diwygio ac ailstrwythuro'r ysgol gyfan, gyda'r nod o sicrhau bod pob disgybl yn gallu manteisio ar yr amrywiaeth lawn o gyfleoedd addysgol a chymdeithasol a gynigir gan yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys y cwricwlwm dan sylw, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniadau disgyblion, y penderfyniadau a wneir wrth grwpio disgyblion mewn ysgolion neu ystafelloedd dosbarth, addysgeg ac arferion ystafell ddosbarth, chwaraeon a hamdden a chyfleoedd hamdden.

(Mittler, 2000, t. 2)

Nid yn unig y mae i'r broses drawsnewid hon oblygiadau radical o ran y ffordd rydym yn ystyried gwreiddiau dysgu ac anawsterau ymddygiadol, ond mae hefyd yn gofyn am newid systematig a pholisi cenedlaethol (Mittler, 2000, t. 5). Mae cyd-destun cymdeithasol ehangach addysg gynhwysol, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn elfen hanfodol o'n dealltwriaeth o gynhwysiant mewn ysgol.