Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Gwaith Amarya Sen

Mae gwaith yr economegydd Amartya Sen (1995, 1999) wedi cyfrannu at ddatblygiad y dull gweithredu o ran ‘hawliau’ ac wedi dylanwadu ar gysyniadau o ‘ddiwallu anghenion’ unigolion heterogenaidd mewn cyd-destunau amrywiol. Roedd Sen yn dadlau bod canolbwyntio ar adnoddau (e.e. nifer yr oriau o gymorth gan gynorthwyydd addysgu o ganlyniad i sgôr isel mewn prawf llythrennedd) yn anwybyddu amrywiaeth unigolion a'u sefyllfaoedd: gall un adnodd fod yn ddigon i un myfyriwr ond nid i un arall. Yn lle hynny, canolbwyntiodd Sen ar bwysigrwydd rhyddid pobl, gan ddadlau bod hyn yn gofyn am elfennau y mae pobl yn meddu arnynt (adnoddau), elfennau y gallent fod neu elfennau y gallent eu gwneud, ond hefyd eu ‘gallu i’w rhoi ar waith. Ystyriodd Sen ‘lesiant’ mewn amrywiaeth o ddimensiynau, gan roi pwyslais penodol ar y ffordd y mae unigolion yn nodi eu llesiant eu hunain, yn penderfynu ar yr hyn sy'n werthfawr iddynt a'r hyn yr hoffent ei ddilyn, ac yn cyfrannu at benderfyniadau democrataidd. Y Dull Gweithredu Galluogrwydd (The Capability Approach) yw'r enw ar ei syniadau. Mae'r gwaith o gymhwyso'r syniadau hyn at gymunedau ysgolion yn cyflwyno heriau o ran gwneud penderfyniadau ar bob lefel mewn ysgolion ac mae'n cyfeirio at gysyniadau eraill megis gwrando ar lais y myfyrwyr, ystyried anghenion mewn ffordd gyfannol, a gweithio'n hyblyg mewn tîm.