Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Arweinyddiaeth a gwella ysgolion

Mae adroddiad helaeth Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (2016) yn cynnwys cydnabyddiaeth bwysig bod gan bob ysgol le i wella ac mai arweinyddiaeth yw'r ffactor pwysicaf sy'n dylanwadu ar gyflymder, ansawdd a chynaliadwyedd gwelliant yr ysgol.

Mae'r adroddiad yn nodi bod angen arddulliau arwain gwahanol ar ysgolion sydd ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn aml, a bod arweinwyr – ar bob cam o daith ddatblygiadol ysgol – yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu sgiliau proffesiynol eu staff a'u cefnogi.

Cymerir y sail dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn o arolygiadau o ysgolion cynradd ledled Cymru rhwng 2010 a 2015. Mae hefyd yn cynnwys model pedwar cam ar gyfer gwella ysgolion cynradd sy'n cynnig elfennau gwella generig y gellir eu trosglwyddo i addysg uwchradd.

Mae Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn nodi nodweddion cyffredin gwella ar bob cam:

Dyma lle mae arweinwyr yn:

  • diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella
  • sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol
  • sefydlu a chynnal diwylliant lle mae gwella safonau a llesiant i'r holl ddisgyblion yn brif flaenoriaeth
  • sicrhau mai gwella addysgu yw'r broses allweddol sy'n cyfrannu at wella safonau
  • darparu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn llawn
  • cynnal ffocws cyson ar wella llythrennedd disgyblion (yn Gymraeg ac yn Saesneg), sgiliau TGCh, a rhifedd (gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uwch a sgiliau rhesymu)
  • sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus staff yn gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau disgyblion
  • sicrhau bod pob aelod o'r staff (yn enwedig y rhai hynny mewn rolau rheoli) yn gyfrifol am ei faes gwaith
  • sicrhau bod canlyniadau hunanwerthuso yn deillio o dystiolaeth uniongyrchol, a bod cysylltiad agos rhyngddynt â blaenoriaethau gwella'r ysgol
  • darparu dadansoddiadau clir, dealladwy a gonest i lywodraethwyr o ran pa mor dda y mae'r ysgol yn perfformio, a'u hannog i herio achosion o dangyflawni.

Nawr dylech fynd ati i ddefnyddio'r nodweddion arweinyddiaeth hyn wrth i chi roi cynnig ar Weithgaredd 3.

Gweithgaredd 3: Nodweddion arweinyddiaeth Estyn

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Edrychwch yn ofalus ar nodweddion arwain mwyaf cyffredin Estyn a nodwch y nodweddion mwyaf a lleiaf cyffredin yn eich ysgol, yn eich barn chi.

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nawr, ystyriwch a fyddai'n bosibl ymdrin ag unrhyw un o'r nodweddion mewn ffordd ddefnyddiol a'u gwella yn eich sefydliad. Os felly, pa ddulliau arwain y byddai angen iddynt fod ar waith er mwyn galluogi hyn i gael ei wneud yn y ffordd orau posibl?

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod. Gallwch lawrlwytho'r holl sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Mae'r cwestiwn cychwynnol wedi'i gynllunio i ddangos y ffordd y mae arweinyddiaeth yn cwmpasu llawer o agweddau ar fywyd yr ysgol a bod amrywiaeth o ffactorau y mae angen eu hystyried yn rheolaidd. Gobeithio, fel Llywodraethwr, y byddwch yn teimlo bod gennych lefel dda o ddealltwriaeth o bob un o'r 10 o nodweddion a nodwyd ar ffurf pwyntiau bwled a'ch bod yn cael gwybod am y rhain yn unol â'r pwynt olaf sy'n ymwneud yn benodol â llywodraethwyr.

Os nad oedd unrhyw rai o'r ffactorau yn cynnwys ffocws clir nac unrhyw fath o sail dystiolaeth, yn eich barn chi, mae'n bosibl y bydd gennych rai cwestiynau perthnasol i'w gofyn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol!

Ni ddylid caniatáu i hunanfodlonrwydd amlygu ei hun mewn unrhyw sefydliad, ni waeth pa mor llwyddiannus y mae'n ymddangos. Nid yw unrhyw ysgol yn berffaith, ac mae'r 10 o nodweddion a nodwyd gan Estyn yn darparu fframwaith defnyddiol i ystyried agweddau ar fywyd yr ysgol y gellir eu gwella.

Bydd gan ysgolion flaenoriaethau penodol a all olygu bod agweddau penodol ar arweinyddiaeth yn cael eu rhoi ar waith, ond mae'n bwysig sicrhau bod y cyfeiriad strategol bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn un sy'n adeiladu ar hunanwerthusiadau cadarn a gwrthrychol.

Yng Nghymru, mae gan y llywodraeth ymrwymiad cryf i sicrhau datblygiad parhaus ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu. Mae'r dull gweithredu hwn yn cynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i bob aelod o'r staff. Mae gan lywodraeth Cymru ragor o wybodaeth am sefydliadau sy'n dysgu yn Ysgolion yng Nghymru yn gweithredu fel sefydliadau sy’n dysgu..

Fe'ch gwahoddir i ystyried sut mae'r nodweddion hyn yn gweithio yn erbyn enghraifft o fywyd go iawn.. Edrychwch ar astudiaeth achos Ysgol Gynradd Parkland eto., Yna, bydd angen i chi greu tabl dwy golofn mewn dogfen all-lein fel yr un isod. Ceisiwch ddod o hyd i enghraifft o bob nodwedd yn astudiaeth achos Parkland. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn o dan y tabl enghreifftiol.

Gweithgaredd 4: Nodweddion arweinyddiaeth Estyn ac astudiaeth achos Parkland

Timing: Caniatewch tua 60 munud

Mae'r enghreifftiau canlynol yn awgrymiadau ac yn brif ddatganiadau sy'n nodi'r hyn sydd wedi digwydd.

Byddai'r broses arwain wirioneddol yn fwy cymhleth a byddai'r mwyafrif o'r enghreifftiau hyn yn cynnwys llawer o gamau. Mae arweinyddiaeth yn waith caled!

Mae rhai enghreifftiau wedi cael eu cynnwys o dan fwy nag un pennawd weithiau, ac mae'n amlwg bod mwy o ddehongliadau personol posibl o'r astudiaeth achos. Mae arweinyddiaeth yn digwydd ar gontinwwm a bydd yn amrywio o ysgol i ysgol. Ni ellir trosglwyddo'r hyn sy'n gweithio mewn un sefyllfa i sefyllfa arall, a bydd llawer o ffactorau yn effeithio ar yr hyn y gellir ei gyflawni a'r hyn na ellir ei gyflawni ar unrhyw adeg benodol. Dyna pam y caiff arweinyddiaeth yn aml ei hystyried yn daith.

NodweddEnghraifft o'r astudiaeth
Diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella
Sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol
Sefydlu a chynnal diwylliant lle mae gwella safonau a llesiant i'r holl ddisgyblion yn brif flaenoriaeth
Sicrhau mai gwella addysgu yw'r broses allweddol sy'n cyfrannu at wella safonau
Darparu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn llawn
Cynnal ffocws cyson ar wella llythrennedd disgyblion (yn Gymraeg ac yn Saesneg), sgiliau TGCh, a rhifedd (gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uwch a sgiliau rhesymu)
Sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus staff yn gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau disgyblion
Sicrhau bod pob aelod o'r staff (yn enwedig y rhai hynny mewn rolau rheoli) yn gyfrifol am ei faes gwaith
Sicrhau bod canlyniadau hunanwerthuso yn deillio o dystiolaeth uniongyrchol, a bod cysylltiad agos rhyngddynt â blaenoriaethau gwella'r ysgol
Darparu dadansoddiadau clir, dealladwy a gonest i lywodraethwyr o ran pa mor dda y mae'r ysgol yn perfformio, a'u hannog i herio achosion o dangyflawni

(Os ydych chi am ddarllen mwy o Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae ar gael ar wefan Estyn.)

Gadael sylw

NodweddEnghraifft o'r astudiaeth
Diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella

Ar dudalen 1, yn adran Taith yr ysgol i wella, mae'r datganiad ‘mae pob rhanddeiliad yn rhannu'r un weledigaeth’ yn awgrymu bod yr arweinwyr wedi sefydlu proses lle mae gweledigaeth wedi'i sefydlu a'i diffinio'n llwyddiannus.

Fodd bynnag, er bod y diffiniad hwn o weledigaeth yn bwysig, ar dudalen 2, dangosodd dadansoddiad cynnar a gynhaliwyd gan y pennaeth yn dilyn ei phenodiad fod y staff wedi nodi ‘blaenoriaethau pwysig’, gan gynnwys yr angen i fynd i'r afael â diffyg cwricwlwm wedi'i gynllunio. Mae'r enghraifft hon yn dangos pa mor gymhleth yw cynllunio gwelliant mewn ysgol a hefyd pa mor bwysig yw gwrando ar y staff, y mae ganddynt yn aml ddealltwriaeth dda o'r hyn y mae angen ei wneud.

Ar dudalen 2, ar ddechrau adran Cymell y staff drwy gymorth a her, mae'n amlwg bod y pennaeth a'r uwch-arweinwyr wedi amlinellu eu disgwyliadau'n glir i bob aelod o'r staff. Yn nes ymlaen yn yr un adran, mae'n amlwg bod annog y staff i gymryd rhan mewn hyfforddiant wedi 'cynyddu cyfraniad y staff at y broses o bennu cyfeiriad a strategaeth gyffredinol yr ysgol.'

Sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol

Ar dudalen 2 o adran Taith yr ysgol i wella, mae awgrym clir y gallai athrawon elwa ar fwy o gydweithio er mwyn eu helpu i gynllunio'n gydlynus, a fydd yn gwella cynnydd y disgyblion.

Roedd y cydweithio hwn yn amlwg wrth i'r staff gymryd rhan mewn cyfarfodydd pennu targedau a chymedroli rheolaidd, fel yr esbonnir ar dudalen 2, mewn perthynas ag adran Cymell y staff drwy gymorth a her. Roedd mesurau cysylltiedig wedi gwella cyfraniad y staff at y broses o bennu cyfeiriad a strategaeth gyffredinol yr ysgol, ac roedd bron pob aelod o'r staff yn ‘frwdfrydig’ ynghylch y mentrau cydweithredol hyn.

Manteisiodd y pennaeth ar bob cyfle i atgyfnerthu statws y dysgu, gan gynnwys gwasanaethau ac ymweliadau rheolaidd â phob ystafell ddosbarth. Ategwyd hyn gan fuddsoddiad i wella'r amgylchedd ffisegol, a oedd wedi cael effaith gadarnhaol o ran rhoi ymdeimlad o falchder i'r staff a'r disgyblion.

Ar dudalen 3 o adran Datblygu diwylliant o fonitro a gwerthuso, fel rhan o'r broses, daeth yr athrawon yn rhan weithredol o'r gweithgareddau monitro a'r gwaith o graffu ar ddata er mwyn eu helpu i nodi camau i wella.

Yn adran Meithrin gallu ar dudalen 3, nodwyd bod ‘pob athro bellach yn rhan annatod o'r broses o gynllunio gwelliant yr ysgol gyfan drwy ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu cynlluniau gweithredu yn eu meysydd cyfrifoldeb.’ Roedd y staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan ddiwylliant ysgol sy'n annog y staff i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol pan fyddant yn teimlo eu bod yn barod i wneud hynny, er enghraifft drwy arwain sesiynau hyfforddi a gwaith tîm er mwyn mynd ar drywydd blaenoriaethau y cytunwyd arnynt. Drwy hyn, maent yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth i arwain eraill.

Yn adran Gweithio gydag eraill ar dudalen 4, mae'r staff yn defnyddio amser myfyrio ar y cyd i ystyried canlyniadau eu hymarfer gyda'i gilydd a nodi gwelliannau posibl.

Sefydlu a chynnal diwylliant lle mae gwella safonau a llesiant i'r holl ddisgyblion yn brif flaenoriaeth

Mae'r frawddeg olaf yn adran Taith yr ysgol i wella, ar dudalen 2, yn rhoi tystiolaeth glir o'r uwch-dîm arwain yn ymateb i gais y staff i ddatblygu cwricwlwm mwy cynlluniedig ac yn achub ar y cyfle hwnnw i ysgogi ‘ymdeimlad o ddiben a rennir.’ Dylai hyn helpu i fynd i'r afael â'r angen i sefydlu diwylliant i helpu i wella safonau.

Ar dudalen 2, mae paragraff agoriadol adran Cymell y staff drwy gymorth a her yn nodi'r ffordd y mae'r pennaeth a'r uwch-aelodau o'r staff yn cynnwys pob aelod o'r staff yn y broses o gynllunio cwricwlwm newydd yn ystod cyfarfodydd staff er mwyn rhoi ‘ymdeimlad o berchenogaeth’ i bob un ohonynt.

Byddai'r newid diwylliannol hwn yn cael ei gynnal drwy sicrhau bod y staff yn rhan o gyfarfodydd pennu targedau a chymedroli rheolaidd, fel yr esbonnir ar dudalen 2 o adran Cymell y staff drwy gymorth a her. Mae'r broses hon yn helpu i feithrin ‘lefel gyffredin o ddealltwriaeth’ sydd â'r nod o nodi anghenion unigol disgyblion a mynd i'r afael â nhw.

Drwy weithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys hyfforddiant i gyflawni technegau ymyrryd, bu cynnydd yng nghyfraniad y staff at y broses o bennu cyfeiriad cyffredinol yr ysgol. Roedd y dull cydweithredol hwn yn ysgogol iawn ac roedd y mwyafrif o'r staff yn teimlo'n frwdfrydig yn ei gylch. Ystyriwyd bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar safonau.

Sicrhau mai gwella addysgu yw'r broses allweddol sy'n cyfrannu at wella safonau

Ar dudalen 1 o adran Taith yr ysgol i wella, mae'r datganiad ‘ffocws ar ddatblygu addysgeg ysgol’ yn dangos ymrwymiad cadarn i wella addysgu a fydd, gobeithio, yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at wella safonau.

Mae'n amlwg o dudalen 1 fod y pennaeth, yn dilyn ei phenodiad, wedi dadansoddi data perfformiad yr ysgol a gwaith y plant, yn ogystal ag arsylwi ar wersi. Dangosodd y dadansoddiad hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth fod lle i wella'r addysgu, yn ogystal â darparu cymorth wedi'i dargedu i grwpiau o ddisgyblion. Ceir awgrym hefyd fod yr athrawon yn gweithio'n galed ond y gallai'r staff gael budd mawr o gydweithio a rhannu arferion da.

Fel yr esbonnir ar dudalen 2, roedd angen deall y broses o ystyried a datblygu dulliau asesu ar gyfer dysgu yn llwyr a'u rhoi ar waith yn effeithiol ym mhob dosbarth er mwyn gwella'r addysgu a chodi safonau, ac roedd hyn yn amlwg yn y mwyafrif o ddosbarthiadau.

Ar dudalen 2, gwerthfawrogir hefyd fod angen sicrhau bod adnoddau o ansawdd da ar gael a'u bod yn cael eu defnyddio'n briodol fel rhan o'r strategaeth hon.

Darparu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn llawn

Ar dudalen 2, tuag at ddiwedd adran Taith yr ysgol i wella, mae'n amlwg bod y staff yn gweld bod angen blaenoriaethu cwricwlwm wedi'i gynllunio. Ceir rhagor o dystiolaeth o'r safbwynt hwn ym mharagraff agoriadol adran Cymell y staff drwy gymorth a her, drwy'r broses o gynllunio'r cwricwlwm newydd hwn.

Gellid datblygu'r cwricwlwm hwn ymhellach ar gyfer pob disgybl drwy'r cyfarfodydd pennu targedau a chymedroli rheolaidd. Byddai defnyddio data disgyblion a gwybodaeth asesu athrawon yn helpu i ‘nodi disgyblion yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt a disgyblion mwy abl yr oedd angen mwy o her arnynt wrth ddysgu.’

Cynnal ffocws cyson ar wella llythrennedd disgyblion (yn Gymraeg ac yn Saesneg), sgiliau TGCh, a rhifedd (gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uwch a sgiliau rhesymu)

Yn yr adran ar gymell y staff drwy gymorth a her ar dudalen 2, nodir yn glir fod yr ysgol wedi prynu adnoddau newydd a deniadol i gefnogi llythrennedd a rhifedd.

Yn ystod digwyddiad ‘Cwrdd â'r Athro’ ar ddechrau mis Medi, mae'r ysgol yn rhannu gwybodaeth am y cwricwlwm â rhieni, gan gynnwys dulliau o addysgu darllen, ysgrifennu a mathemateg.

Ceir enghraifft benodol o wella ansawdd ysgrifennu ar dudalen 3, lle y cafodd gweithdy peilot i ysgrifenwyr a gynhaliwyd mewn un grŵp blwyddyn ei fabwysiadu ym mhob rhan o'r ysgol, ar ôl iddo gael ei werthuso'n llwyddiannus, gan arwain at welliant yn ansawdd yr ysgrifennu ar draws yr ysgol.

Sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus staff yn gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau disgyblion

Mae teitl yr Astudiaeth Achos, Rôl staff datblygu wrth godi safonau a dyheadau yn awgrymu bod Estyn wedi ystyried bod yr agwedd hon ar ddull gweithredu'r Ysgol yn gryfder. Mae hyn hefyd yn amlwg ar dudalen 1 yn adran Taith yr ysgol i wella, lle mae nod strategol yn cyfeirio'n benodol at ‘ddatblygiad proffesiynol parhaus effeithiol i bob aelod o'r staff.’ Nodwyd bod y dull gweithredu hwn yn ffactor pwysig, fel yr esbonnir ar dudalen 2, lle y bu diffyg cyfeiriad strategol o ran datblygiad proffesiynol parhaus y staff yn flaenorol, a oedd, i bob golwg, wedi lleihau effaith hyfforddiant ar wella safonau'r addysgu a'r dysgu.

Mae'r gwaith hwn o gynllunio datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer yr ysgol gyfan yn amlwg yn adran Cymell y staff drwy gymorth a her, gan gysylltu digwyddiadau â chanlyniadau hunanwerthuso'r ysgol. Roedd y gwaith o fonitro effaith y broses hon yn gysylltiedig ag ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau'r disgyblion.

Darparwyd hyfforddiant er mwyn sicrhau bod y staff yn gallu darparu amrywiaeth o raglenni ymyrryd yn llwyddiannus, fel yr esbonnir ar dudalen 2.

Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon yn adran Meithrin Gallu ar dudalen 3, lle mae'n amlwg bod gwerthusiad yr uwch-arweinwyr o gryfderau'r staff a meysydd i'w datblygu, yn llywio datblygiad personol a phroffesiynol effeithiol i bob aelod o'r staff. Mae hyn yn helpu i feithrin y sgiliau a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i gyflawni eu rolau'n llwyddiannus.

Sicrhau bod pob aelod o'r staff (yn enwedig y rhai hynny mewn rolau rheoli) yn gyfrifol am ei faes gwaith

Cyfeirir yn benodol at atebolrwydd ar dudalen 2, sy'n ystyried system rheoli perfformiad yr ysgol, mewn perthynas â rhoi ‘dulliau addysgu penodol y cytunwyd arnynt ar waith, er enghraifft technegau asesu ar gyfer dysgu effeithiol.’

Drwy annog y staff i gymryd rhan mewn cyfarfodydd pennu targedau a chymedroli rheolaidd, ceir ymdeimlad agored o atebolrwydd, gydag athrawon yn defnyddio data disgyblion a gwybodaeth athrawon mewn ffordd gadarn.

Ar dudalen 3, nodir yn glir fod yr uwch-dîm arwain yn defnyddio data yn gyson ac yn effeithiol ar draws yr ysgol i lywio cyfarfodydd cynnydd disgyblion a dwyn athrawon i gyfrif am wella deilliannau disgyblion. Mae athrawon dosbarth bellach yn defnyddio data mewn ffordd gyson i lywio eu gwaith cynllunio ar gyfer carfannau, dosbarthiadau, grwpiau ac unigolion.

Fel rhan o atebolrwydd agored yr ysgol i rieni, mae pob athro yn dilyn strwythur sy'n amlinellu'r wybodaeth a'r pwyntiau trafod hanfodol y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cyfarfodydd ymgynghori, fel yr esbonnir ar dudalen 3.

Sicrhau bod canlyniadau hunanwerthuso yn deillio o dystiolaeth uniongyrchol, a bod cysylltiad agos rhyngddynt â blaenoriaethau gwella'r ysgol

Yn adran Cyd-destun ar dudalen 1, nododd Estyn, yn dilyn arolygiad, fod cysylltiadau effeithiol rhwng hunanwerthuso a gwelliant yn yr ysgol. Mae hwn yn ddilysiad allanol o'r broses hon.

Ar dudalen 1 o adran Taith yr ysgol i wella, mae tystiolaeth o ‘gylch trylwyr o fonitro a gwerthuso gweithgareddau’ yn ogystal â ‘deall a defnyddio data disgyblion i lywio'r addysgu a chreu grwpiau ymyrryd i ddisgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt.’

Ar dudalen 2 o adran Cymell y staff drwy gymorth a her, mae'n amlwg bod yr athrawon yn defnyddio data disgyblion ac asesiadau athrawon i nodi disgyblion yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt a disgyblion mwy abl yr oedd angen mwy o her arnynt wrth ddysgu.

Arweiniodd dadansoddiad o safbwyntiau rhieni a gasglwyd drwy arolwg ar-lein at ddigwyddiad ‘Cwrdd â'r Athro’, a gynhaliwyd ar ddechrau mis Medi, lle y cafodd rhieni wybodaeth am y cwricwlwm a'r hyn y bwriadwyd ei addysgu yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod.

Mae hunanwerthusiad yn cynnwys pob aelod o'r staff, fel yr esbonnir yn adran Datblygu diwylliant o fonitro a gwerthuso ar dudalen 3. Mae hyn yn cynnwys cynorthwywyr addysgu, sy'n monitro cynnydd y disgyblion sy'n destun ymyrraeth. Yn ei dro, mae'r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn monitro'r cynorthwywyr addysgu ac yn adrodd i'r uwch-dîm arwain a'r llywodraethwyr.

Darparu dadansoddiadau clir, dealladwy a gonest i lywodraethwyr o ran pa mor dda y mae'r ysgol yn perfformio, a'u hannog i herio achosion o dangyflawni

Yn adran Cyd-destun ar dudalen 1, nododd Estyn, yn dilyn arolygiad, fod y corff llywodraethu yn gweithio mewn modd strategol ac yn gweithredu'n dda fel cyfaill beirniadol i'r ysgol.

Mae grŵp hunanwerthuso a data llywodraethwyr yn sicrhau bod gan lywodraethwyr y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i herio'r pennaeth yn effeithiol mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol.

Mae'r llywodraethwyr yn cael canlyniadau ymyriadau penodol gan y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol fel rhan o strategaeth yr ysgol.

Yn yr adran Gweithio gydag eraill ar dudalen 4, mae tystiolaeth bellach o'r corff llywodraethu yn herio'r pennaeth yn gyson ac yn effeithiol mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol. Mae'n amlwg bod pob llywodraethwr yn cymryd ei rôl o ddifrif, ac yn canolbwyntio ar wella safonau.

Ar adeg yr adroddiad, roedd Llywodraethwyr yn gweithio ar strwythur newydd er mwyn cynyddu effaith eu rôl strategol o ran sicrhau gwelliant parhaus. Roedd hyn yn cael ei gyflawni drwy feithrin cydberthnasau agosach â chydgysylltwyr pwnc.

Ar ôl ystyried astudiaeth achos Ysgol Gynradd Parkland yn wrthrychol, fe'ch cynghorir i gynnal gweithgaredd myfyriol tebyg ar gyfer eich ysgol eich hun. Gallech greu tabl arall yn eich blog er mwyn gwneud hyn. Dylai hwn fod yn ymarfer cymharu diddorol.