Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2.3 Mae rhieni a gofalwyr yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr

Drwy weithio fel cynorthwywyr gwirfoddol, gall rhieni a gofalwyr ddarparu cymorth amhrisiadwy i blant, yn enwedig mewn lleoliad addysg gynnar – er enghraifft drwy ddarparu cymorth dysgu i blant. Mae Gweithgaredd 6 yn cynnig cyfle i ystyried pam y mae'n fuddiol gweithio gyda rhieni/gofalwyr.

Gweithgaredd 6: Pam y dylid gweithio gyda rhieni a gofalwyr?

Timing: Caniatewch 20 munud

Edrychwch ar y naw datganiad isod; mae pob un ohonynt yn rheswm pam y dylai ymarferwyr weithio gyda rheini a gofalwyr. Ystyriwch bob datganiad a'r drefn y maent wedi'u cyflwyno ynddi. Yn y blwch isod, nodwch a ydych yn cytuno â phob datganiad a nodwch ym mha drefn y byddech yn rhoi'r datganiadau, gan roi rhesymau.

  • Seibiant: Mae gan rai rhieni a gofalwyr anawsterau eithafol: emosiynol, cymdeithasol ac ariannol. Mae darparu cyfleusterau i rieni yn rhoi amser iddynt ymlacio a chwrdd ag eraill tra bo staff hyfforddedig yn gofalu am eu plant.
  • Sgiliau ymarferol: Nid oes gan rai rhieni a gofalwyr y sgiliau gofal plant sylfaenol. Mae eu gwahodd i aros yn rhoi cyfle iddynt ddysgu oddi wrth staff a rhieni a gofalwyr eraill am bethau fel bwydo, newid, hylendid a chwsg.
  • Gwybodaeth am blant: Rhieni a gofalwyr sy'n adnabod ac yn deall eu plant orau. Os ydynt ar gael i rannu'r wybodaeth hon, gall staff ei defnyddio i ddarparu gofal gwell i'w plant.
  • Hunan-barch: Mae gan rai rhieni a gofalwyr ddiffyg hunan-barch. Drwy dreulio amser gyda rhieni a gofalwyr a'u hannog i feithrin sgiliau personol, gall staff roi ymdeimlad o hunan-werth iddynt, a hyder yn eu gallu eu hunain i ofalu am blant.
  • Hawliau defnyddwyr: Mae rhieni a gofalwyr talu am ddarpariaeth cyn-ysgol naill ai'n uniongyrchol neu drwy ardrethi a threthi. Fel defnyddwyr, dylent gael eu cynnwys yn y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hyn.
  • Partneriaeth: Cyfleusterau cymunedol yw gwasanaethau cyn-ysgol, a dylent ymateb i anghenion y rhai hynny sy'n eu defnyddio. Caiff staff a rhieni a gofalwyr gyfleoedd i feithrin cydberthnasau anffurfiol ac ymlaciol, sy'n ei gwneud yn haws i rhieni a gofalwyr fynegi eu hanghenion.
  • Cymorth gan y naill a'r llall: Gan y rhai hynny sydd â phroblemau tebyg y mae pobl yn aml yn cael y cymorth mwyaf ystyrlon. Dylid sicrhau bod cyfleoedd ar gael i rieni gwrdd â'i gilydd er mwyn rhannu teimladau, gwerthoedd ac anawsterau, a chefnogi ei gilydd drwyddynt.
  • Pâr ychwanegol o ddwylo: Mae yna nifer o dasgau'n gysylltiedig â gofal plant nad oes angen hyfforddiant nac arbenigedd penodol i'w gwneud: torri darnau o bapur ar gyfer gwaith celf, golchi teganau, gwneud dillad doliau, paratoi diodydd. Dylid annog rhieni i wneud tasgau o'r fath, fel y gall staff hyfforddedig ddarparu gwasanaethau sy'n gofyn am sgiliau gwahanol.
  • Gwella dealltwriaeth: Nid yw rhai rhieni yn deall yr angen i ysgogi plant. Dylid annog rhieni i gydweithio â staff wrth gynllunio a chynnal gweithgareddau chwarae gyda'r plant. Bydd hyn yn gwella eu dealltwriaeth o werth chwarae.

Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.

Sylw

Mae'r datganiadau'n dangos buddiannau niferus cydweithio. Maent hefyd yn rhoi cipolwg ar anghenion (tybiedig) rhieni a gofalwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r datganiadau'n ymwneud â'r buddiannau y mae partneriaeth yn eu cynnig i rieni a gofalwyr. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio am y buddiannau posibl i ymarferwyr hefyd. Gallant feithrin dealltwriaeth well drwy wrando ar rieni a gofalwyr ac ystyried eu dealltwriaeth bersonol o blant – er enghraifft y datganiad 'Gwybodaeth am blant'. Gall ymarferwyr hefyd gael eu cefnogi gan rieni a gofalwyr mewn nifer o ffyrdd ymarferol, fel y mae'r datganiad 'Pâr ychwanegol o ddwylo' yn ei awgrymu.

Mae'n bosibl eich bod wedi rhoi blaenoriaeth i fuddiannau i rieni/gofalwyr, ymarferwyr, plant, neu gyfuniad o'r rhain. Mae'n bwysig cydnabod bod cydweithio'n agos â rhieni a gofalwyr yn ganolog i ddatblygiad, llesiant a chyflawniad plentyn.

Mae partneriaeth yn ymwneud â rhieni a gofalwyr yn ymateb i syniadau ymarferwyr. Un ffordd amlwg o gynyddu ewyllys, dealltwriaeth ac ymdeimlad o bartneriaeth rhwng ymarferwyr, rhieni a gofalwyr yw drwy ddarparu cyrsiau a gweithdai. Gall y rhain fod ar sawl ffurf, ond yn y bôn, maent yn ymwneud â darparu lleoliad i rieni a gofalwyr er mwyn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybodaeth iddynt
  • egluro'r hyn y mae eu plant yn ei wneud yn y lleoliad
  • rhoi gwybodaeth iddynt am eu plant
  • eu helpu i gefnogi dysgu eu plant yn fwy effeithiol
  • cynyddu eu hyder wrth gysylltu ag ymarferwyr ag ymholiadau ac awgrymiadau
  • cynnig sgiliau a gwybodaeth iddynt a all fod yn ddefnyddiol iddynt.

Mae'n bwysig meithrin ymdeimlad ehangach o gwmpas y bartneriaeth a'r ffyrdd ymarferol niferus y gellir ei fynegi. Mae gwaith partneriaeth yn dueddol o gael ei lywio gan weithwyr proffesiynol – llunwyr polisïau, arbenigwyr ym maes y blynyddoedd cynnar, damcaniaethwyr addysgol ac ymarferwyr – ond prin iawn y caiff ei lywio gan rieni neu ofalwyr eu hunain. Felly mae'n bwysig meithrin cysyniad o bartneriaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a allai fod yn briodol ym marn gweithwyr proffesiynol; gweledigaeth sy'n rhoi lle i rieni, gofalwyr, llywodraethwyr a phlant fynegi syniadau creadigol ac annisgwyl.

Mae gan ymarferwyr deimladau cryf am y mathau o bartneriaeth sy'n cefnogi eu gwaith orau mewn ysgol benodol, ac mae'r ffordd y mae lleoliadau addysgol yn dehongli'r syniad o 'bartneriaeth' yn amrywio'n sylweddol. Wrth benderfynu pa fath o bartneriaeth a fyddai'n gweithio mewn lleoliad, mae angen ystyried yr hyn sy'n ymarferol yn ôl natur y rhieni a'r gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol, ond hefyd yr hyn sy'n briodol i anghenion y plant. Mae'n rhaid i'r plant fod wrth wraidd unrhyw 'bartneriaeth'.

Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o'r amrywiaeth o ffyrdd y gall rhieni ymgysylltu ag ymarferwyr ac ysgol. Mae'r tabl yn seiliedig ar waith Pugh a De’Ath (1989).

Tabl 1 Hyd a lled cyfraniad rhieni
Nid yw'r rhieni a'r gofalwyr yn rhan o ddysgu eu plantMae yna rai anghyfranogwyr 'gweithredol' sy'n penderfynu nad ydynt am fod yn rhan o ddysgu eu plant. Mae'n bosibl eu bod yn fodlon ar y ddarpariaeth, neu'n brysur iawn yn y gwaith, neu'n awyddus i dreulio amser i ffwrdd o'u plant. Yn ôl Vincent (1996), maent yn 'rhieni sydd wedi datgysylltu (detached)'. Mae yna hefyd anghyfranogwyr 'goddefol' a fyddai'n hoffi bod yn rhan o ddysgu eu plant ond nad oes ganddynt yr hyder i wneud hynny, neu sy'n anfodlon o bosibl ar y math o bartneriaeth a gynigir. Yn ôl Vincent (1996), maent yn 'rhieni annibynnol'.
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cefnogi'r lleoliad 'o'r tu allan'Dim ond pan fyddant yn cael eu gwahodd i wneud hynny y mae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn cymryd rhan, er enghraifft drwy fynd i ddigwyddiadau neu ddarparu arian ar gyfer adnoddau dysgu.
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cymryd rhan mewn lleoliad 'oddi mewn' fel cynorthwywyrMae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn helpu mewn ffyrdd fel darparu cymorth ar deithiau, cefnogi dysgu'r plant yn y lleoliad neu gynnal llyfrgell teganau.
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cymryd rhan yn y lleoliad 'oddi mewn' fel dysgwyrMae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn mynychu gweithdai a sesiynau addysg i rieni. Mae'r a'r gofalwyr hyn yn cymryd rhan mewn fforymau rhieni, fel y rheini mewn lleoliadau preifat neu gorfforaethol lle nad oes unrhyw fwrdd ymddiriedolwyr, neu bwyllgorau rhieni/gofalwyr, lle y gallant drafod a rhyngweithio â rheolwyr y lleoliad.
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn rhan o gydberthynas waith â'r ymarferwyr

Nodweddir cyfraniad y rhieni a'r gofalwyr hyn gan ymdeimlad a rennir o ddiben a pharch at y naill a'r llall. Er enghraifft, mae'r rhieni:

  • yn gallu cael mynediad cyfartal at wybodaeth a chofnodion
  • yn cyfrannu at y gwaith o asesu eu plant
  • yn cyfrannu at y gwaith o ddethol ymarferwyr
  • yn cael eu hannog i ddod yn ymarferwyr.
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn gwneud penderfyniadau ac yn eu rhoi ar waithYn y bôn, mae'r rhieni hyn yn gyfrifol ac yn atebol am ddarpariaeth y lleoliad ac mae ganddynt yr un cyfrifoldeb a rheolaeth â llywodraethwyr yn yr ysgol – er mai ychydig iawn ohonynt a fyddai'n ymgymryd â rheolaeth weithredol yn fwy nag y mae llywodraethwyr ysgol yn rheoli ysgol o ddydd i ddydd.

Mae Adran 3 yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yma ac yn ystyried materion sy'n effeithio ar y broses o feithrin cydberthnasau gwaith rhwng rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr mewn lleoliad addysgol. Yn ei dro, gall y materion hyn effeithio ar waith corff llywodraethu a'i lywio.