Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Gweithio gyda rhieni a gofalwyr 'heriol'

Mae adroddiadau gan nifer o gymdeithasau rhieni ac athrawon yn awgrymu y bu cynnydd mewn ymddygiad amharchus, ac weithiau ymosodol, gan rieni a gofalwyr. Gall hyn ddigwydd ar safle'r ysgol neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ôl Wallace (2002, t. 10), gall y sbardunau gynnwys:

  • arian, yn enwedig ceisiadau am arian i dalu ffioedd meithrinfa neu dalu am dripiau ysgol
  • ymddygiad plant, yn enwedig pan fydd rhieni neu ofalwyr yn ymateb yn gryf i bryderon a chwynion ymarferwr
  • nifer cynyddol o blant ag anghenion addysgol arbennig, sy'n rhoi pwysau ar rieni, gofalwyr ac ymarferwyr am nad oes arian na chymorth arall cyfatebol wedi'u neilltuo i gyflawni'r polisi
  • teimladau negyddol rhieni a gofalwyr tuag at unigolyn ag awdurdod.

Mae angen cryn sgil ac amser i ddelio â'r ymddygiad hwn, ac nid yw ymarferwyr bob amser wedi'u hyfforddi i ymdopi ag ef. Mewn lleoliadau lle mae'n rhaid delio'n aml â rhieni neu ofalwyr heriol, gellir lleihau'r anawsterau drwy wneud y canlynol:

  • cynnal proses ymgynghori
  • gweithio gyda'r rhieni a'r gofalwyr lle bynnag y bo'n bosibl
  • dod o hyd i gyfleoedd i sgwrsio â'i gilydd.

Mae'n ddefnyddiol nodi disgwyliadau a chanllawiau clir i rieni a gofalwyr. Gall polisïau ar ymddygiad, y defnydd o'r cyfyngau cymdeithasol a gweithdrefnau cwyno ddarparu fframwaith clir a phwynt cyfeirio i rieni a gofalwyr, disgyblion ac ymarferwyr. Fel llywodraethwr, efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd â pholisïau o'r fath, a fyddai'n cael eu llunio a'u hadolygu gan eich corff llywodraethu.

O ran yr enw gwael a roddir i rieni a gofalwyr weithiau, mae Margaret Morrisey o Gydffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon yn cyflwyno cymesuredd i'r ddadl drwy ddweud:

Mae'r mwyafrif helaeth o rieni – 95 y cant – yn gefnogol iawn. O ran y ganran honno o rieni nad ydynt yn gefnogol, efallai nad oes ganddynt ddiddordeb, neu eu bod yn rhy brysur neu o dan ormod o straen. Rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i'w helpu, yn hytrach na thaflu bai arnynt.

(Ward a Passmore, 2002)