4.3 Gwerthoedd a chredoau yng nghyd-destun gwaith tîm
Derbynnir yn gyffredinol fod y syniad o 'nod cyffredin' yn greiddiol i'n dealltwriaeth o waith tîm. Ond beth yw 'nod cyffredin'? Mae Rodd yn awgrymu y gellir diffinio tîm fel a ganlyn:
Grŵp o bobl yn cydweithredu er mwyn gweithio tuag at fodloni set o nodau, amcanion neu ddibenion y cytunwyd arnynt, wrth hefyd ystyried anghenion a buddiannau personol unigolion.
Mae Rodd hefyd yn awgrymu bod y cysyniadau canlynol yn gysylltiedig â thimau:
- mynd ar drywydd athroniaeth, delfrydau a gwerthoedd cyffredin
- ymrwymiad i ddatrys problemau
- cyfrifoldeb a rennir
- cyfathrebu agored a gonest
- mynediad at system gymorth.
Deellir yn gyffredin fod gwaith tîm yn ymwneud ag israddio buddiannau unigolion o blaid buddiannau'r grŵp. Mae hyn yn golygu bod angen i anghenion y tîm gael blaenoriaeth dros anghenion unigolion o fewn y tîm er mwyn creu ysbryd tîm. Mae gwaith tîm yn seiliedig ar nifer o werthoedd craidd.
Parch at unigolion | cydnabod urddas a natur unigryw pawb, ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cyfleu'r parch hwnnw. |
Hybu llesiant | gweithio er lles pawb a cheisio helpu unigolion i ffynnu. |
Gwirionedd | meddu ar ymrwymiad i addysgu a chroesawu gonestrwydd; bod yn agored i'r hyn sydd gan eraill i'w ddweud; a herio unrhyw achosion o anwiredd. |
Democratiaeth | y gred y dylai pawb gael y cyfle i fanteisio ar hunanlywodraeth neu ymreolaeth; a cheisio cynnig cyfleoedd i bobl fwynhau ac arfer hawliau democrataidd. |
Tegwch a chydraddoldeb | meithrin cydberthnasau a nodweddir gan y canlynol:
|
Nid yw meddu ar werthoedd a chredoau craidd a'u trosi'n ymarfer bob amser mor syml ag y mae'n ymddangos. Gall gweithio fel tîm llwyddiannus fod yn anodd. Mae natur amrywiol lleoliad a'r amrywiaeth o unigolion dan sylw yn golygu nad oes un ffordd benodol o gyflawni gwaith tîm llwyddiannus. Gall cyfyngiadau penodol atal ymarfer y tîm rhag adlewyrchu gwerthoedd a safbwyntiau ei aelodau.
Mae datblygu diwylliant tîm mewn hinsawdd gyfforddus o ofyn cwestiynau, cadarnhau dealltwriaeth, myfyrio a gwerthuso yn hollbwysig er mwyn gwella profiadau addysgol, ac mae gan gyrff llywodraethu rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth.
Os yw tîm craidd yn gweithio'n effeithiol tuag at nodau a rennir, bydd y tîm yn gallu uniaethu a rhyngweithio'n haws ag aelodau eraill o'r tîm ehangach neu allanol. Mae'r ymgyrch tuag at waith partneriaeth wedi'i disodli'n raddol gan y syniad mwy hyblyg o waith a gwasanaethau 'integredig' a gwmpesir gan y term 'gwaith amlasiantaethol'.