Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.4 Rhoi hyn ar waith

Mae yna sawl agwedd ar eich rôl fel llywodraethwr. Fodd bynnag, mae gwaith tîm yn sail i waith corff llywodraethu. Bydd pob corff llywodraethu yn manteisio ar brofiadau a sgiliau eu llywodraethwyr unigol mewn ffyrdd gwahanol. Fel y cyfryw, mae pob corff llywodraethu yn unigryw.

Mae Adran 5 yn cynnig cyfle i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn a'r ffordd y gallwch ei gymhwyso at eich gwaith fel llywodraethwr. Drwy eich astudiaethau rydych wedi archwilio rolau timau a gwaith tîm, wedi ystyried arweinyddiaeth ac wedi dysgu am waith 'partneriaeth', sef math o waith tîm a ddefnyddir mewn ysgolion sy'n dod â rhieni, gofalwyr, ymarferwyr ac eraill ynghyd i gefnogi addysg, llesiant a datblygiad plant.

Mae cyrff llywodraethu yn cynnal eu sesiynau datblygu eu hunain. Mae'n bosibl y bydd eich corff llywodraethu wedi cynnal archwiliad sgiliau er mwyn llywio trafodaethau am aelodaeth pwyllgorau a rolau llywodraethwyr arweiniol. Gall archwiliad sgiliau fod yn fan cychwyn da wrth ffurfio tîm effeithiol a galluogi llywodraethwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau presennol, a meithrin rhai newydd.

Gweithgaredd 9: Gwaith tîm a'r coff llywodraethu

Timing: Caniatewch 5 munud

Treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar waith eich corff llywodraethu. Sut rydych yn gwerthuso effeithiolrwydd y corff llywodraethu bob blwyddyn?

Ar ôl myfyrio ar y dasg, treuliwch ychydig funudau yn nodi eich ymatebion yn y blwch isod.

Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Mae yna ofynion statudol y mae'n rhaid i gorff llywodraethu eu bodloni, gan gynnwys adroddiadau blynyddol a chwrdd â rhieni a gofalwyr (os gofynnir am hynny). Rhoddir canllawiau ar gynnwys adroddiadau o'r fath ond pa weithgareddau eraill rydych yn eu cynnal?

Mae llywodraethu cadarn yn hollbwysig wrth geisio gwella safonau ysgol ac mae nifer o adnoddau y gall corff llywodraethu eu defnyddio wrth gyflawni ei waith [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae gwaith tîm yn bwysig wrth lywodraethu. Gall datblygu'r tîm a darparu adnoddau cysondeb fel archwiliadau sgiliau rheolaidd a chwestiynu dulliau gweithredu helpu i roi ffocws i drafodaethau, prosesau cynllunio a gwaith datblygu. Mae Tabl 2 yn cynnwys enghreifftiau o gwestiynau y gallech fod am eu datblygu i'w defnyddio yng nghyfarfodydd eich corff llywodraethu eich hun er mwyn darparu ffocws i drafodaethau, consensws a dealltwriaeth a nodau a rennir. Fel yr ydych wedi'i ddysgu, mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at waith tîm llwyddiannus.

Tabl 2 Cwestiynau i fwrdd llywodraethu.

Y sgiliau cywir

A oes gennym y sgiliau cywir ar y bwrdd llywodraethu?

  1. A ydym wedi cynnal archwiliad sgiliau er mwyn llywio hyfforddiant a datblygiad yn y dyfodol?
  2. A ydym yn defnyddio'r archwiliad sgiliau fel sail i benodiadau llywodraethwyr?

Effeithiolrwydd

A ydym mor effeithiol ac y gallem fod?

  1. Pa mor dda rydym yn deall rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr?
  2. A ydym yn defnyddio dull gweithredu strategol?
  3. A ydym yn parchu rôl y Pennaeth yn y gwaith o redeg yr ysgol o ddydd i ddydd?
  4. A oes gennym broses sefydlu a chynllun i ddiwallu anghenion datblygu?
  5. A yw maint, cyfansoddiad a strwythur pwyllgorau ein bwrdd llywodraethu yn addas er mwyn sicrhau gwaith effeithiol?
  6. Sut rydym yn cadw'n ymwybodol o newidiadau mewn polisi a deddfwriaeth?

Rôl y Cadeirydd

A yw ein Cadeirydd yn dangos arweinyddiaeth gadarn ac effeithiol?

  1. A ydym yn adolygu perfformiad y Cadeirydd?
  2. A ydym yn ethol Cadeirydd bob blwyddyn?
  3. A ydym yn cynllunio'n dda ar gyfer olyniaeth?
  4. A oes adolygiad blynyddol o gyfraniadau at berfformiad y bwrdd?

Strategaeth

A oes gan yr ysgol weledigaeth glir a blaenoriaethau strategol?

  1. A yw ein gweledigaeth yn edrych ymlaen dair i bum mlynedd?
  2. A yw ein strategaeth yn cynnwys yr hyn y bydd y plant sydd wedi gadael yr ysgol wedi ei gyflawni?
  3. A ydym wedi cytuno ar strategaeth sy'n cynnwys blaenoriaethau ar gyfer cyflawni ein gweledigaeth ynghyd â dangosyddion perfformiad allweddol?
  4. A ydym yn monitro ac yn adolygu'r strategaeth yn rheolaidd?
  5. Pa mor effeithiol y mae ein cylch cynllunio strategol yn llywio gweithgareddau a gwaith gosod agenda y bwrdd llywodraethu?

Ymgysylltu

A ydym yn ymgysylltu'n gywir â chymuned ein hysgol, y sector ysgolion ehangach a thu hwnt?

  1. Pa mor dda rydym yn gwrando ar ein disgyblion, ein rhieni, ein gofalwyr a'n staff, yn eu deall ac yn ymateb iddynt?
  2. Sut rydym yn adrodd yn rheolaidd ar waith y bwrdd llywodraethu?
  3. Sut rydym yn gwrando ar adborth ac yn ymateb iddo?

Atebolrwydd y weithrediaeth

A ydym yn dwyn arweinwyr yr ysgol i gyfrif?

  1. Pa mor dda rydym yn deall data perfformiad yr ysgol (gan gynnwys data olrhain cynnydd yn ystod y flwyddyn) er mwyn i ni ddwyn arweinwyr yr ysgol i gyfrif yn briodol?
  2. A yw'r llywodraethwyr yn ymweld yn rheolaidd â'r ysgol er mwyn dod i'w hadnabod a monitro'r broses o roi strategaeth yr ysgol ar waith?
  3. Pa mor dda y mae ein adolygu polisïau yn gweithio a sut rydym yn sicrhau cydymffurfiaeth?
  4. A ydym yn gwybod pa mor effeithiol yw'r gwaith o reoli perfformiad pob aelod o staff yr ysgol?
  5. A yw'r systemau rheolaeth ariannol yn gadarn fel y gallwn sicrhau'r gwerth gorau am arian?

Effaith

A ydym yn cael effaith ar ddeilliannau'r disgyblion?

  1. I ba raddau y mae'r ysgol wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf?
  2. Beth fu cyfraniad y bwrdd llywodraethu at hyn?

Footnotes  

(Addaswyd o NGA, 2015)

Fel llywodraethwyr, rydych yn ymwneud â'r gwaith o ystyried ystod eang o ddogfennaeth a data, gan gynnwys perfformiad, cyflawniad a'r gyllideb. Mae'n bosibl y gofynnir i chi ddod o hyd i ffyrdd o ddatrys materion sydd wedi codi, neu y byddwch yn rhan o waith cynllunio ar gyfer newid. Mae meithrin dealltwriaeth a rennir, pennu nodau cyffredin a manteisio ar arbenigedd a phrofiad llywodraethwyr yn ddefnyddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau a chynllunio ar gyfer newid. Mae Tabl 3 yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer dull cwestiynu sy'n manteisio ar waith tîm a gall helpu i feithrin dealltwriaeth a rennir a datrysiadau ac amcanion cyffredin.

Tabl 3 Dod o hyd i atebion drwy waith tîm.
Nodi'r mater
  • Beth yw'r mater neu'r broblem?
  • Ar bwy y mae'r broblem yn effeithio, a pham?
  • A oes unrhyw effeithiau eraill?
Dadansoddi
  • Beth yw 'symptomau' y broblem hon?
  • Beth yw'r agweddau gwahanol arni?
  • Sut mae'r rhain yn berthnasol i fewnbynnau, trwybynnau ac allbynnau’r tîm?
  • Pa wybodaeth sydd ar gael?
  • Pa dystiolaeth sydd ei hangen arnom?
Casgliadau
  • Beth yw’r casgliad?

Rhowch drosolwg o'r broblem a'i hachosion pwysig a nodwch nodweddion pwysig y broses ddadansoddi.

Argymhellion
  • Beth y mae'r datrysiad yn ei gyflawni?
  • Beth yw'r cyfyngiadau?
  • Beth yw'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r mater neu'r broblem?
  • Sut mae'r opsiynau hyn yn mynd i'r afael â'r broblem neu'r meysydd i'w gwella a nodwyd?
  • Pa opsiwn sy'n apelio fwyaf, a pham?
  • Sut y byddwch yn monitro, yn adolygu neu'n gwerthuso llwyddiant y datrysiad(au)?

Nodwch unrhyw dybiaethau a wnaed.

Manteision, anfanteision a goblygiadau

Ystyriwch y rhain yn ofalus

Nodwch sut y gellid mynd i'r afael ag anfanteision neu oblygiadau negyddol gan sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn rhai CAMPUS (penodol, mesuradwy, cyflawnadwy, realistig a chyfyngedig o ran amser)

Footnotes  

(Adapted from NGA, 2015)

Dylech nawr roi cynnig ar y gweithgaredd olaf.

Gweithgaredd 10: Fy ngwaith fel llywodraethwr

Timing: Caniatewch 30 munud

Meddyliwch am yr hyn rydych wedi'i ddysgu a gwnewch nodiadau am y canlynol yn y blwch isod.

  • Beth rydych nawr yn ei ddeall wrth y term 'gwaith tîm'?
  • Pa dimau rydych yn rhan ohonynt fel llywodraethwr?
  • Fel llywodraethwr, a ydych yn arwain unrhyw dimau?
  • Beth yw cryfderau gwaith tîm?
  • A oes gan eich corff llywodraethu 'ddiben craidd'?
  • Sut mae eich gwaith 'partneriaeth' o fudd i addysg disgyblion?
  • Pa agweddau a chredoau o ran y ffordd y mae plant yn dysgu ac yn datblygu rydych yn eu rhannu ag aelodau eraill o'r corff llywodraethu?
  • Beth y byddwch yn ei wneud yn wahanol yn eich rôl fel llywodraethwr ar ôl astudio'r cwrs hwn?

Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Nid oes yr un ateb cywir i'r gweithgaredd hwn. Bydd eich ymatebion yn unigryw ac yn seiliedig ar eich profiadau a'ch dealltwriaeth eich hun. Mae parodrwydd i ddysgu, addasu a chyfrannu i gyd yn rhan o rôl llywodraethwr. Mae dysgu yn brofiad unigol, ac rydym yn gobeithio eich bod wedi meithrin dealltwriaeth well o waith tîm a'r rôl y mae'n ei chwarae yn eich gwaith fel llywodraethwr drwy astudio'r cwrs hwn. Dylech nawr allu nodi eich dewisiadau eich hun o ran rolau timau ac rydym yn gobeithio y bydd y ddealltwriaeth hon o fudd i'ch gwaith fel llywodraethwr.

Fel llywodraethwr, rydych yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at gymuned eich ysgol ac addysg disgyblion yng Nghymru. Fel llywodraethwr, rydych (Gwasanaethau Governors Cymru, 2019):

  • yn wirfoddolwr
  • yn ymddiddori mewn addysgu, dysgu a phlant
  • yn cynrychioli'r bobl hynny sydd â diddordeb allweddol yn yr ysgol, gan gynnwys rhieni, staff, y gymuned leol a'r ALl
  • yn rhan o dîm sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth y mae'r ysgol yn ei wneud
  • mewn sefyllfa i ymrwymo i gyfarfodydd ac achlysuron eraill yn ôl yr angen
  • yn barod i ddysgu
  • yn gallu bod yn gyfaill sy'n cefnogi'r ysgol ond sydd hefyd yn gallu myfyrio'n feirniadol ar y ffordd y mae'r ysgol yn gweithio a'r safonau y mae'n eu cyrraedd
  • yn gyswllt rhwng rhieni, gofalwyr, y gymuned leol, yr ALl a'r ysgol.

Fel llywodraethwyr, mae eich gwaith hefyd yn seiliedig ar ‘7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ (Y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, 1995).