Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cyflwyniad a chanllawiau

Mae’r Brifysgol Agored wedi cydweithio â MoneySavingExpert (MSE) i gynhyrchu’r cwrs â bathodyn newydd yma sy’n rhad ac am ddim, er mwyn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i feistroli'ch arian. Cafodd y cwrs ei ysgrifennu gan y Brifysgol Agored, gydag MSE yn rhoi cymorth ac arweiniad.

Cynhyrchwyd y cwrs hwn yn Saesneg yn wreiddiol ac mae wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan y Brifysgol Agored.

Mae'r cwrs yn llawn dop o fideos, clipiau sain, cwisiau a gweithgareddau, ac mae’n mynd i’r afael â'r prif agweddau ar gyllid personol.

Mae’r cwrs yn dechrau drwy edrych ar sut i fod yn ddarbodus wrth wario arian, ac ar y pwysau ymddygiadol a marchnata sy’n ceisio dylanwadu ar yr hyn mae defnyddwyr yn ei brynu. Wedyn, mae’n edrych ar gyllidebau ac effaith treth ar gyllid aelwydydd. Mae benthyca arian yn rhywbeth mae bron pob aelwyd yn gyfarwydd ag ef, ond mae’n gallu achosi problemau ariannol. Mae’r cwrs yn esbonio sut i fenthyca arian yn synhwyrol os oes angen gwneud hynny, p’un a yw’n fenthyciad i brynu car neu’n forgais i brynu tŷ. Ydych chi eisiau cynilo neu fuddsoddi arian. Mae’r cwrs yn edrych ar gyfrifon cynilo syml, yn ogystal â buddsoddiadau fel cyfranddaliadau, nwyddau neu eiddo. Mae’n esbonio beth mae’n ei olygu a pha risgiau rydych chi’n eu hwynebu wrth i chi geisio cael mwy o elw ar eich arian. Mae’r cwrs yn dod i ben drwy fynd i’r afael â chymhlethdodau pensiynau. Bydd yn eich helpu chi i feddwl am eich opsiynau pan fyddwch chi’n ymddeol, fel beth fydd cyfanswm pensiwn y wladwriaeth i chi a sut mae ategu hwn gyda phensiwn personol neu alwedigaethol, a beth gallwch chi ei wneud os nad yw’ch darpariaeth pensiwn yn ddigon i ddiwallu’ch anghenion.

Mae’r cwrs am ddim hwn yn para 12 awr ac mae’n cynnwys chwe sesiwn. Gallwch chi weithio drwy’r cwrs yn eich amser eich hun. Mae’r chwe sesiwn wedi’u cysylltu er mwyn sicrhau bod y cwrs yn llifo’n mewn modd rhesymegol. Sef:

  1. Gwneud penderfyniadau gwario da
  2. Cyllidebu a threthi
  3. Benthyca arian
  4. Deall morgeisi
  5. Cynilion a buddsoddi
  6. Cynllunio ar gyfer ymddeoliad

Dylai gymryd tua 2 awr i gwblhau pob sesiwn. Mae cwis hanner ffordd drwy bob sesiwn ac ar y diwedd er mwyn eich helpu chi i brofi eich dealltwriaeth. Os hoffech chi gael bathodyn a datganiad cymryd rhan ffurfiol, mae cwis mae’n rhaid i chi lwyddo ynddo ar ddiwedd Sesiwn 6.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • cyllidebu’n effeithiol a gwybod sut i wneud penderfyniadau gwario da
  • deall sut caiff incwm ei drethu
  • deall sut a phryd i fenthyca arian mewn modd cyfrifol
  • deall cynnyrch cynilo a buddsoddi – gan gynnwys y gwahanol risgiau sydd ynghlwm â nhw
  • cynllunio ar gyfer ymddeoliad a gwybod beth i’w wneud os nad yw pensiwn disgwyliedig yn ddigonol.

Symud o gwmpas y cwrs

Yn yr adran ‘Crynodeb’ ar ddiwedd pob sesiwn, fe welwch chi ddolen i'r sesiwn nesaf. Os hoffech chi ddychwelyd i ddechrau'r cwrs ar unrhyw adeg, cliciwch ar ‘Disgrifiad llawn o’r cwrs’. O fan hyn, gallwch chi fynd i unrhyw ran o’r cwrs.

Os ydych chi’n dilyn dolen ar dudalen cwrs (gan gynnwys y dolenni i'r cwisiau), mae’n arfer da ei hagor mewn tab neu ffenestr newydd. Drwy wneud hynny, gallwch chi fynd yn ôl i ble bynnag y daethoch chi ohono heb orfod defnyddio'r botwm ‘yn ôl’ ar eich porwr.

Fe welwch chi fod rhai geiriau wedi’u hamlygu. Gallwch chi hofran dros y geiriau wedi’u hamlygu i weld y diffiniad, neu os gwnewch chi glicio ar y ddolen, bydd yn mynd â chi i’r dudalen geirfa ar ddiwedd y sesiwn. Mae diffiniad o’r holl dermau allweddol sydd wedi’u hamlygu drwy gydol y sesiwn i’w gweld yn yr eirfa.

Byddai’r Brifysgol Agored yn gwerthfawrogi pe baech chi’n rhoi ychydig funudau o’ch amser i ddweud wrthym ni am eich disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn dechrau, yn ein harolwg dechrau’r cwrs [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy’n ddewisol. Bydd eich cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn pasio eich manylion ymlaen i unrhyw un arall.

Fforwm MoneySavingExpert

Mae MoneySavingExpert.com wedi creu edefyn ar ei Fforwm er mwyn creu cymuned lle gallwch chi drafod eich cynnydd, a sgwrsio â myfyrwyr eraill wrth i chi weithio drwy’r cwrs.

Agorwch y ddolen mewn ffenestr neu dab newydd ac yna dewch yn ôl yma ar ôl i chi orffen.

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.