Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

12 Siopa ar-lein

Mae siopa ar-lein yn gadael i chi brynu’r pethau rydych chi eu hangen (neu eu heisiau) gan gwmnïau ledled y byd.

Mae siopa fel hyn yn eich galluogi i gymharu bargeinion (fel yswiriant) yn haws, gan gynyddu'r siawns y byddwch yn gallu dod o hyd i gynnig addas sy'n unol â’ch anghenion am bris y gallwch ei fforddio.

Fodd bynnag, gall hwylustod siopa ar-lein arwain at bobl yn gwario mwy nag y gallant ei fforddio. Gall defnyddwyr siopa ddydd a nos heb orfod gadael cysur eu cartref eu hunain ac efallai y byddant yn fwy tebygol o brynu’n fyrbwyll. Tynnwyd sylw at agwedd ar y risg hon mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn 2016 a oedd yn dangos bod rhai pobl sydd ag iechyd meddwl dan fygythiad yn gallu ei chael hi’n anodd rheoli eu gwariant pan fyddant yn ddifrifol wael (MMHPI, 2016). Felly i rai pobl, yn ystod cyfnod bregus, mae argaeledd siopa ar-lein yn cynyddu’r risg o fynd i drafferthion ariannol.

Mae’r trawsnewid a ddaw i’n harferion siopa yn sgil y rhyngrwyd yn cael ei ddangos gan berfformiad ariannol y prif adwerthwyr. Mae’r rheini sydd â siopau gwe mawr ac effeithiol iawn yn tueddu i sicrhau canlyniadau ariannol gwell ar adeg pan fo siopa confensiynol ar y stryd fawr dan gwmwl cynyddol.

Ond byddwch yn ofalus, gan fod rhai risgiau wrth i chi fasnachu ar-lein. Mae siopa ar-lein yn gallu ein gwneud yn agored i’r perygl y cawn ein twyllo gan wefannau twyllodrus sy’n cymryd arnynt bod yn adwerthwyr ar-lein go iawn. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd hwn.

Gweithgaredd 12 Canfod gwefan amheus

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

A oes unrhyw beth yn gwneud i chi i fod yn amheus o’r wefan hon?

Mae’r gweithgaredd a’r adborth a ddarperir yn defnyddio delwedd o wefan amheus o gwmni – ‘eDay’ – sy’n cynnig ‘bargeinion newydd ac ail-law’. Mae’r safle’n gofyn am fanylion personol ac ariannol amrywiol gan y rheini sydd am gofrestru ar gyfer y cwmni ac ymgymryd â thrafodion ar ei wefan.

Pa nodweddion fyddai’n gwneud i chi amau’r adwerthwr ar-lein hwn?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Mae’r gweithgaredd a’r adborth a ddarperir yn defnyddio delwedd o wefan amheus o gwmni – ‘eDay’ – sy’n cynnig ‘bargeinion newydd ac ail-law’. Mae’r safle’n gofyn am fanylion personol ac ariannol amrywiol gan y rheini sydd am gofrestru ar gyfer y cwmni ac ymgymryd â thrafodion ar ei wefan.

Wel, beth wnaeth godi eich amheuon? Efallai eich bod wedi sylwi ar rai o’r canlynol, neu bob un ohonynt.

  1. Mae'r wefan hon yn gofyn am fanylion, fel cyfrinair, y dylid eu casglu dros safle diogel yn unig. Ond mae cyfeiriad y wefan (URL) yn dechrau gyda ‘http://’. Bydd cyfeiriad gwefan diogel yn dechrau gyda ‘https://’.
  2. Arwydd arall o wefan ddiogel yw symbol clo. Dylai ymddangos ychydig cyn cyfeiriad y wefan neu weithiau yn y bar ar waelod sgrin eich cyfrifiadur. Os yw’n ymddangos, fel yma, yng nghorff y wefan yn unig, mae hyn yn arwydd y gallai fod yn ffug.
  3. Enw a logo sy’n debyg iawn i wefan go iawn. Fe’i lluniwyd i’ch twyllo i feddwl eich bod ar y wefan go iawn neu ar wefan cwmni cysylltiedig.
  4. Cymhellion i gofrestru ar unwaith, fel nad oes gennych chi amser i feddwl yn ofalus am yr hyn y gofynnir i chi ei wneud.
  5. Hysbysebion go iawn gan sefydliadau go iawn sydd â’r nod o dawelu eich meddwl bod y wefan yn un ddibynadwy.
  6. Casglu manylion banc neu gerdyn dros wefan anniogel ac heb fod yn gysylltiedig ag unrhyw bryniant. Dyma holl bwrpas y twyllwyr: dwyn manylion eich cerdyn ac yna mynd i siopa ar eich traul chi.
  7. Nid yw ffonau clyfar yn cael eu gwerthu am £30. Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, yna dyna ydyw, fel arfer.

Efallai y byddwch hefyd yn sylwi nad oes manylion cyswllt ar y wefan, felly does dim ffordd o gael gwybod mwy neu gwyno os aiff pethau o chwith.