Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Dewis dwyn buddion ariannol ymlaen a gohirio gwariant

Mae tystiolaeth yn awgrymu, o gael dewis, y byddai’n well gan oddeutu un rhan o bump ohonom dderbyn llai o arian yn awr yn hytrach na mwy o arian yn ddiweddarach. Dangoswyd hyn mewn arolwg gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (This is Money, 2013 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ), a ganfu y byddai’n well gan un person o bob pump gael £200 heddiw yn hytrach na £400 ymhen pedwar mis!

Mae’r ffigur yn llun sy’n dangos menyw ifanc gyda gliniadur yn gwneud pryniant ar-lein. Mae’n dal cerdyn credyd yn ei llaw dde wrth iddi wneud hyn.
Ffigur 3

Mae’r dewis hwn hefyd yn golygu bod yn well gan bobl ohirio taliadau yn hytrach na’u gwneud ar unwaith. Gall y nodwedd ymddygiadol hon i ohirio taliadau arwain at wneud penderfyniadau gwael wrth dalu am nwyddau – er enghraifft, talu am yswiriant car mewn taliadau misol dros flwyddyn yn hytrach nag yn llawn adeg prynu. Os ydych yn talu mewn rhandaliadau dros flwyddyn, rydych yn ymrwymo i drefniant benthyciad gyda'r darparwr yswiriant. Gan fod y gyfradd llog a godir yn aml yn uchel iawn, mae dewis talu yn y ffordd hon fel arfer yn benderfyniad ariannol gwael.